Mae Vodafone heddiw yn dod yn Brif Bartner i dîm rygbi dynion Cymru a’r tîm o dan 20 hefyd – mewn cytundeb aml-flwyddyn fydd yn golygu bod Vodafone yn dod yn Brif Bartner gyda dynion, menywod a thimau datblygu Cymru (o dan 18 & 20) er mwyn datblygu’r gamp ar bob lefel yng Nghymru. Bydd y cytundeb yn dod i rym ar Orffennaf 1af.
Mae’r cytundeb pwysig hwn yn ychwanegu at bartneriaeth bresennol Vodafone gydag Undeb Rygbi Cymru, yn dilyn eu blwyddyn gyntaf fel Prif Bartner a noddwyr Craidd rygbi Merched & Menywod Cymru. Bu’r cwmni hefyd yn bartner trawsnewid darpariaeth digidol i Stadiwm Principality.
Bydd Vodafone yn cefnogi perfformiad a lles chwaraewyr ar hyd a lled Rygbi Cymru drwy gynnig atebion technoleg a datblygiad parhaus eu platfform arloesol PLAYER.Connect.
Heddiw, mae Vodafone wedi cryfhau ac adeiladu ar eu partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru (URC), mewn cytundeb nodedig – gan ddod yn Brif Bartner i garfan a thimau datblybu hŷn y dynion. Mae hyn atgyfnerthu ymrwymiad Vodafone i rygbi Cymru yn gyffredinol.
Mae Vodafone bellach yn Brif Bartner rygbi dynion, menywod a datblygu (dan 20) yng Nghymru, gan uno’r tri thîm o fewn un bartneriaeth. Mae hyn yn ymrwymiad gwirioneddol i dyfu rygbi ar bob lefel yng Nghymru.
Trwy gydol y bartneriaeth gydag URC, bydd Vodafone yn cefnogi perfformiad a lles chwaraewyr ar draws Rygbi Cymru gyfan trwy ddyfeisgarwch technoleg arloesol. Mae hyn yn cynnwys y buddsoddiad parhaus yn eu platfform arloesol PLAYER.Connect.
Mae’r dechnoleg wedi gweld datblygiadau mawr yn ystod y flwyddyn, gyda chyflwyniad monito’r cylch mislif sy’n helpu tîm rygbi Menywod Cymru i ddadansoddi’r effaith ar berfformiad, lles ac adferiad. Mae hyn yn enghraiff bellach o ymrwymiad y cwmni i dyfu’r gamp.
Bydd Vodafone hefyd yn defnyddio ei rwydwaith 5G i wella profiadau diwrnod gêm i gefnogwyr yng Nghaerdydd a’r rhai sy’n gwylio gartref.
Mae’r bartneriaeth newydd gyda thîm y dynion yn adeiladu ar flwyddyn gyntaf Vodafone gyda thîm Menywod Cymru fel Prif Bartner Craidd y Merched a’r Menywod. Yn ystod y tymor hwnnw, gwelwyd record o dorf o 8,862 yn mynychu’r gêm Chwe Gwlad rhwng Cymru a Lloegr ym Mharc yr Arfau Caerdydd.
Daw’r cyhoeddiad ar ddechrau cyfnod hynod o brysur i rygbi Cymru gyda Phencampwriaeth y Byd dan 20 oed yn dechrau ar Fehefin 24fed yn Ne Affrica ac yna Cyfres Haf Vodafone, Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc, a chystadleuaeth gyntaf y W.XV yn Seland Newydd.
Dywedodd Prif Swyddog Masnachol Vodafone, Max Taylor: “Mae’r bartneriaeth newydd gyda phrif dîm rygbi’r dynion a’r tîm o dan 20 yn ychwanegu enw eiconig arall at bortffolio nawdd sylweddol Vodafone. Gyda Chwpan y Byd rownd y gornel mae’n gyfnod hynod gyffrous i rygbi, ac rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio technoleg i wthio rygbi i’r lefel nesaf.”
Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol URC, Nigel Walker: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau Vodafone fel ein noddwr ar gyfer blaen ein crysau ar gyfer timau datblygu o dan 20 y dynion a’n tîm Cenedlaethol hŷn hefyd.
“Mae partneriaeth Vodafone yn ein galluogi i ddatblygu ein timau iau gan gynnig llwybr i’n bechgyn a’n merched gyrraedd y llwyfan rhyngwladol. Mae eu gwaith fel ein partneriaid digidol yn Stadiwm Principality hefyd eisoes yn dwyn ffrwyth.
“Mae’n gyfnod cyffrous i’r gêm yng Nghymru, gyda sefydlogrwydd oddi ar y cae wedi ei sicrhau bellach, gallwn ganolbwyntio ar ffrwyno’r potensial tymor hir, i greu llwyddiant tymor hir ar y meysydd chwarae.
“Trwy eu partneriaeth, bydd Vodafone yn chwarae rhan allweddol yn nyfodol y gêm yng Nghymru ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu hymrwymiad a’u cefnogaeth barhaus i rygbi Cymru heddiw.
“Hoffwn ddymuno pob lwc i’r tîm o dan 20ain fydd yn wynebu Seland Newydd yn eu gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Byd yn Paarl, De Affrica y Sadwrn yma – pan fyddan nhw’n gwisgo crys coch Cymru gyda chefnogaeth Vodafone arno – yn hynod falch”.
Mae ymrwymiad Vodafone i hybu a hyrwyddo rygbi ar bob lefel o’r gêm ar draws y byd, yn cynnwys eu partneriaethau â Thimau Rygbi Dynion a Merched y Lluoedd Arfog a thîm Siarcod DMP yng Nghynghrair y Premier XVs. Yn ogystal, cyflwynodd Vodafone nawdd nodedig i’r Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 2021.