Chwaraeodd Keith Westwood i dîm cyfun o glybiau Abertyleri a Glyn Ebwy – heriodd dîm chwedlonol Wilson Whineray ar Barc Abertyleri yn 1963. Yr ymwelwyr enillodd y gêm o 13-0. Gyda’i wreiddiau yn nwfn yng Ngwent – aeth Westwood ymlaen i fod yn hyfforddwr uchel iawn ei barch yn Nhrecelyn.
Fe chwaraeodd tad Joe, sef Jonathan i dimau o dan 19 a 21ain Cymru a bu’n aelod o’r garfan lawn genedlaethol hefyd. Cynrychiolodd Sir Fynwy wrth iddyn nhw herio Awstralia ar eu taith i Gymru yn 1992.
Ond tro Joe yw hi i ddisgleirio bellach – ac wedi ymgyrch siomedig yn y Chwe Gwlad eleni, mae Westwood yn gobeithio rhoi hwb i’r garfan o dan 20 wrth iddo ddychwelyd o anaf i’r llwyfan rhyngwladol.
Enillodd 6 o gapiau o dan 20 y llynedd gan helpu ei wlad i gyrraedd rownd derfynol Cyfres yr Haf o dan 20 yn yr Eidal – ond bu eleni’n fwy heriol iddo, wrth i anaf ei gadw allan o’r gêm am gyfnod o bedwar mis.
Mae’r canolwr bellach yn holliach ac mae’n gobeithio parhau i arddangos y doniau sydd wedi bod mor amlwg wrth iddo gynrychioli Met Caerdydd yng ngystadlaethau’r Prifysgolion ac hefyd dros Gasnewydd yn Uwch Gynghrair Indigo.
Dywedodd Joe Westwood: “Rydyn ni gyd wedi cyffroi am y gystadleuaeth yn Ne Affrica. Mae’r paratoadau dros y mis diwethaf wedi bod yn hynod o galed ac felly ry’n ni barod am yr her.
“Bydd dechrau’n hymgyrch yn erbyn y Crysau Duon yn wych gan y bydd yn rhoi’r cyfle i ni herio chwaraewyr gorau’r byd o’r un oed â ni. Rydyn ni wedi eu curo yn y gystadleuaeth yma o’r blaen – gan gynnwys buddugoliaeth yn eu herbyn ar dir De Affrica yn Cape Town – ac fe allwn ni godi’n perfformiad y tro hwn hefyd.
“Mae teimlad positif iawn yn y garfan ac mae Mark Jones, yr hyfforddwr newydd, wedi gosod ei stamp arnom o’r cychyn cyntaf. Mae’n rhaid i ni ddangos gwelliant ers y Chwe Gwlad ac wrth weithredu y pethau y mae Mark wedi ein dysgu – rwy’n siwr y gwelwn ni’r gwelliant hwnnw”.
Gwta flwyddyn yn ôl ‘roedd Westwood yn herio Mason Grady a Joe Hawkins am safle’r canolwr yn y tîm o dan 20 ac mae’r ddau ohonyn nhw bellach wedi ennill capiau llawn wrth gwrs.
“Mae gweld Joe a Mason yn cael eu cyfle gyda’r prif dîm wedi bod yn wych. Felly hefyd Christ Tshiunza a Dafydd Jenkins oedd hefyd yn aelodau o’r garfan. Mae’r gweddill ohonom yn ceisio eu hefelychu a chael y cyfle i ennill ein bara menyn trwy chwarae rygbi.
“Os chwaraewn ni’n dda yn Ne Affrica fe fyddwn ni’n cryfhau ein hachos i gael cytundeb proffesiynol. Gall y tymor nesaf fod yn gyffrous i chwaraewyr ifance gan y bydd mwy o gyfle i ni chwarae i’r rhanbarthau o bosib.
“Gobeithio wir y cawn ni’r cyfle ac felly mae’n bwysig ein bod yn perfformio’n dda fel carfan ac fel unigolion yn Ne Affrica”.