Bydd yr ornest yn erbyn Georgia yn cael ei chwarae yn Paarl am 3.30pm ac unwaith eto bydd y gêm yn cael ei dangos yn fyw ar S4C.
Bydd enillwyr y frwydr ddydd Sul yn herio buddugwyr yr ornest rhwng Awstralia a Seland Newydd ddydd Gwener nesaf am y 5ed safle’n y Bencampwriaeth.
Gan bo Cameron Winnett wedi derbyn anaf yn erbyn Ffrainc, bydd Harri Houston yn symud o’r asgell i safle’r cefnwr. Mae Llien Morgan o’r herwydd yn dychwelyd i’r asgell. Mae Mark Jones wedi gwobrwyo perfformiad Joe Westwood o’r fainc yn erbyn Ffrainc a bydd yn cymryd lle Bryn Bradley yn y pymtheg cychwynol.
Lewis Lloyd sydd wedi ei ddewis i ddechrau yn safle’r bachwr yn lle Sam Scarfe y tro hwn a Lewis Morgan fydd yr eilydd o fachwr am y tro cyntaf yn ystod y Bencampwriaeth yn Ne Affrica.
Er nad ydi Georgia yn un o’r enwau mawr traddodiadol, maen nhw wedi dangos eu safon yn ystod y gystadleuaeth. Dim ond gwahaniaeth pwyntiau gadwon nhw allan o’r pedwar uchaf – ac o’r herwydd fe fyddant ar dân i guro’r Cymru – yn enwedig gan i’r crysau cochion eu curo yng Nghyfres yr Haf o dan 20 yn yr Eidal y llynedd.
Dywedodd Mark Jones: “Mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i geisio hawlio’r pumed safle.
“Er mwyn cael y cyfle i wneud hynny, ‘rwy’n teimlo bod cadw at gnewyllyn y tîm ddechreuodd yn erbyn Ffrainc y peth iawn i’w wneud. Mae’r tri newid yn newid pethau rhywfaint ac yn cadw pethau’n ffres.
“’Rwyf wastad yn hyderus am obeithion y garfan yma o fechgyn gan fod ganddyn nhw wir botensial ond ‘rwyf hefyd yn ddigon onest i gyfaddef nad ydi eu penderfyniadau ar yr eiliadau pwysig wastad yn gywir. Mae’r gêm yn erbyn Georgia yn mynd i amlygu gwahaniaeth steil chwarae’r ddau dîm ac efallai bydd y tywydd llaith sy’n cael ei ddarogan yn dylanwadu ar yr ornest hefyd.
“Fe gawn ni weld ddydd Sul faint o angerdd sydd ganddyn nhw wrth anelu am y pumed safle. Ry’n ni wedi ennill un gêm a pherfformio’n dda am gyfnodau yn y gemau eraill yn ystod y Bencampwriaeth. Mae’n amser i ni berfformio’n fwy clinigol y tro hwn fel y gallwn ni edrych yn ôl ar y gêm yn falch bod mwyafrif llethol ein cynlluniau wedi eu gweithredu’n gywir ac effeithiol.
“Gobeithio mai hon ydi’r gêm pan y byddwn yn dangos pa mor dda y gallwn ni fod.”
Cymru o Dan 20 v Georgia o Dan 20, Sul 9 Gorffennaf, Paarl, 3pm, (S4C).
15 Harri Houston (Gweilch)
14 Tom Florence (Gweilch)
13 Louie Hennessey (Caerfaddon)
12 Joe Westwood (Dreigiau)
11 Llien Morgan (Gweilch)
10 Dan Edwards (Gweilch)
9 Archie Hughes (Scarlets);
1 Dylan Kelleher-Griffiths (Dreigiau)
2 Lewis Lloyd (Gweilch)
3 Kian Hire (Gweilch)
4 Liam Edwards (Gweilch)
5 Jonny Green (Harlequins)
6 Ryan Woodman (Dreigiau – Capten)
7 Seb Driscoll (Harlequins)
8 Morgan Morse (Gweilch)
Eilyddion
16 Lewis Morgan (Scarlets)
17 Josh Morse (Scarlets)
18 Louis Fletcher (Gweilch)
19 Mackenzie Martin (Caerdydd)
20 Lucas De La Rua (Caerdydd)
21 Bryn Bradley (Harlequins)
22 Harri Wilde (Caerdydd)
23 Harri Williams (Ampthill)