Daeth Florence i’r maes fel eilydd yn erbyn Japan yng ngêm ddiwethaf Cymru yng Ngrŵp A – gan hawlio cais a chyfrannu’n helaeth at ddiweddglo cryf y Cymry.
Ffrainc yw deiliaid y gystadleuaeth ac mae eu perfformiadau yn y Bencampwraieth eleni wedi bod yn gryf a llwyddiannus – ond mae gan gyn ddisgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd bwynt i’w brofi yn erbyn Les Bleuets gan iddo chwarae yn y chwalfa yn eu herbyn o 67-17 yn y Chwe Gwlad ym mis Mawrth.
Dywedodd Tom Florence:“Roedd y gêm ddiwethaf yn erbyn y Ffrancod yn embaras. Doedden ni ddim yn ddigon da ar y noson ac fe roedden nhw ar dân fel y mae’r ffaith iddyn nhw sgorio 11 o geisiau yn ei brofi”.
Mae Florence wedi bod yn rhan o’r garfan o dan 20 ers tri thymor bellach a’r ornest heddiw fydd y pedwerydd tro iddo wynebu Ffrainc.
“Rydyn ni wedi gwella llawer ers y gêm ym mis Mawrth ac mae gennym wobr fawr i anelu ati – sef lle’n y pedwar olaf. Mae’n paratoadau wedi bod yn dda ac mae gennym hyder oherwydd hynny.
“Byddai’n ymdrech arbennig i droi ein canlyniad diwethaf yn eu herbyn ar ei ben – ond fe allwn ni guro Ffrainc ac ry’n ni gyd eisiau profi pwynt.
‘Roedd yr ornest ddiwethaf yn Oyonnax yn boenus ar bob lefel i Gymru ond ers penodiad Mark Jones fel Prif Hyfforddwr, mae perfformiadau y bechgyn yn Ne Affrica wedi bod yn addawol iawn. Colli o bwynt yn unig yn erbyn Seland Newydd oedd eu hanes yng ngêm agoriadol Grŵp A, cyn gorffen yn gryf iawn yn erbyn Japan a sicrhau buddugoliaeth o 41-19 yn y pendraw
“Fe ddysgon ni lawer yn erbyn Japan gan ein bod o dan bwysau gwirioneddol am awr o’r gêm. ‘Roedd yn rhaid i ni feddwl ar ein traed a dod o hyd i ffordd o ennill – a dyna wnaethon ni. ‘Roedd yn brawf da iawn i ni”.
Ar bapur, mae her y Ffrancod yn ymddangos yn arbennig o anodd i’w drechu. Fe sgorion nhw 11 cais yn erbyn Japan cyn curo’r Crysau Duon o 35-15 sy’n golygu eu bod wedi hawlio’r 10 pwynt llawn o’u dwy gêm agoriadol.