Un newid sydd ymhlith yr olwyr gyda Tom Florence yn cael ei wobrwyo am ei berfformiad a’i gais o’r fainc yn erbyn Japan. Mae’n cymryd lle ei gyd-chwaraewr gyda’r Gweilch Llien Morgan.
Mae prop pen tynn y Gweilch Kian Hire a blaen-asgellwr yr Harlequins Seb Driscoll yn dechrau eu gemau cyntaf dros eu gwlad wedi iddyn nhwythau hefyd greu argraff o’r fainc ddydd Iau. Louis Fletcher a Lucas De La Rua sy’n colli eu llefydd yn y 15 cychwynol o’r herwydd.
Mae bachwr y Dreigiau, Sam Scarfe yn dechrau’n lle Lewis Lloyd, sydd wedi sgorio dau gais yn y Bencampwriaeth hyd yma ac mae clo y Gweilch Liam Edwards yn dychwelyd yn lle Evan Hill.
Bydd Gwilym Evans (Caerdydd) a’r canolwr Joe Westwood (Dreigiau) yn chwarae am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth os y cawn nhw eu galw o’r fainc.
Ffrainc yw deiliaid y gystadleuaeth hon ac mae eu perfformiadau hyd yma wedi bod yn nodedig iawn – yn enwedig felly eu buddugoliaeth yn erbyn Seland Newydd ddydd Iau.
Er i Gymru golli’n drwm yn erbyn y Ffrancwyr yn y 6 Gwlad ym mis Mawrth tydi Mark Jones ddim yn credu bod hynny’n bwysig yng nghyd-destun gornest ddydd Mawrth yma.
Dywedodd Jones: “Mae gennym gynllun sut i chwarae’r gêm yn erbyn Ffrainc ac os y gwnawn ni weithredu’r cynllun hwnnw – fe allwn ni ei gwneud hi’n ornest gwerth chweil.
“Ein her ni fydd perfformio fel y gwnaethon ni am gyfnodau yn erbyn Japan a Seland Newydd.
“Mae’r tywydd yn mynd i fod yn llawer sychach ddydd Mawrth fydd yn ein helpu i chwarae’r math o rygbi fydd yn ein gweddu. Cyfrifoldeb y bechgyn wedyn fydd rhoi o’u gorau ar y maes.
“Does dim pwysau er ein hysgwyddau ni ond bydd yn rhaid i ni berfformio’n gryf am 80 munud. Mae gan Ffrainc garfan arbennig – ond mae hwn yn gyfle gwych i ni ddangos beth allwn ni ei wneud hefyd”.
Cymru dan 20 v Ffrainc dan 20, Dydd Mawrth 4 Gorffennaf, Stadiwm, 3.30pm (Yn fyw ar S4C).
15 Cameron Winnett (Caerdydd)
14 Tom Florence (Gweilch)
13 Louie Hennessey (Caerfaddon)
12 Bryn Bradley (Harlequins)
11 Harri Houston (Gweilch)
10 Dan Edwards (Gweilch)
9 Archie Hughes (Scarlets);
1 Dylan Kelleher-Griffiths (Dreigiau)
2 Sam Scarfe (Dreigiau)
3 Kian Hire (Gweilch)
4 Liam Edwards (Gweilch)
5 Jonny Green (Harlequins)
6 Ryan Woodman (Dreigiau – Capt)
7 Seb Driscoll (Harlequins)
8 Morgan Morse (Gweilch)
Eilyddion
16 Lewis Lloyd (Gweilch)
17 Josh Morse (Scarlets)
18 Louis Fletcher (Gweilch)
19 Mackenzie Martin (Caerdydd)
20 Gwilym Evans (Caerdydd)
21 Joe Westwood (Dreigiau)
22 Harri Wiilde (Caerdydd,)
23 Harri Williams (Ampthill)