Doedd perfformiad ail hanner campus ddim yn ddigon i Fenywod o dan 20 Cymru wrth iddyn nhw golli o bwynt yn erbyn yr Unol Daleithiau yng Nghanada.
‘Roedd tîm Jenna De Vera ar ei hôl hi o 28-5 ychydig wedi hanner amser – ond yn anffodus doedd y 22 pwynt sgoriwyd gan y Cymry wedi hynny, ddim yn ddigon i hawlio’r fuddugoliaeth. O ganlyniad colli o 28-27 fu eu hanes yn Ottowa ddydd Sadwrn.
Bydd Cymru’n herio Canada yn yr un stadiwm nos Iau – Gorffennaf y 13eg am 6.30pm.
Yr ornest hon oedd yr eildro’n unig i’r Unol Daleithiau a Chymru herio’i gilydd ar y lefel yma ac er i gais cynnar Nel Metcalfe wedi 5 munud roi’r dechrau delfrydol i’r Cymry – eu gwrthwynebwyr reolodd pethau am y 40 munud canlynol.
Sgorwyr ceisiau yr Unol Daleithiau oedd y clo Nikki Lynch, yr asgellwr Serena Vualono, y cefnwr Ashley Cowdrey a’r canolwr Tiahna Padilla.
Croesodd y Cymry am gyfanswm o bedwar cais hefyd gyda Bethan Adkins, Ellie Tromans a’r eilydd Masie Davies yn ychwanegu at sgôr cynnar Metcalfe.
Er gwaetha’r golled fain hon, bydd perfformiad a dycnwch y crysau cochion yn ystod yr hanner awr olaf yn rhoi gwir obaith a hyder i’r garfan wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Canada ar yn un maes ddydd Iau.