Mae Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru yn credu y bydd y gystadleuaeth 12 tîm fydd yn dechrau yn 2026 yn cyfoethogi’r calendr rhyngwladol gan wella safonau chwarae a phrofiadau gwylio.
Mae’r Chwe Gwlad a chorff SANZAAR wedi bod yn cydweithio, gyda rhanddeiliaid rygbi dylanwadol eraill ar draws y byd, i greu cystadleuaeth newydd fydd yn rhoi mwy o bwrpas a phwyslais ar gemau yn ystod ffenestri rhyngwladol Gorffennaf a Thachwedd yn benodol.
Mae creu’r patrwm newydd hwn wedi deillio o gydweithio rhwng partneriaid megis World Rugby, Undebau, prif gynghreiriau ac yn allweddol – Cymdeithas Rhyngwladol y Chwaraewyr.
Y bwriad yw dechrau’r drefn newydd yn 2026 pan fydd cystadleuaeth elît newydd yn dechrau, fydd yn cynnwys holl wledydd y Chwe Gwlad, pedair gwlad SANZAAR sef Seland Newydd, Awstralia, Ariannin a De Affrica a dwy wlad ychwanegol trwy wahoddiad.
“Mae dyhead pawb i dorri’r tir newydd hwn i greu tymor rhyngwladol rhesymol a chynaliadwy wedi’n harwain ni at y pwynt hwn – ble all hyn ddigwydd mewn difrif,” dywedodd Walker.
“Yn y cyd-destun hwnnw, mae’n eiliad anferthol i’r gêm yn fyd eang ac mae’n rhywbeth y dylem wneud ein gorau i’w gefnogi, gan wneud y mwyaf o’r cyfle hefyd.”
Ychwanegodd cadeirydd URC, Ieuan Evans:
“Un o elfennau pwysicaf yr holl broses oedd cydweithio gyda Chymdeithas y Chwaraewyr gan bod llês y chwaraewyr hynny wedi bod wrth galon pob sgwrs a phenderfyniad yn ystod y broses hon.
“Bydd y gystadleuaeth hon yn cynnig y cyfle i chwaraewyr Cymru gystadlu yn erbyn timau gorau’r byd yn gyson gyda mwy yn y fantol na balchder cenedlaethol yn unig.
“ Y bwriad yw tyfu a datblygu’r gêm mewn modd cynaliadwy ac mae Undeb Rygbi Cymru yn croesawu a chymeradwyo’r cynllun yma.”
Rygbi’r Chwe Gwlad a SANZAAR fydd perchnogion y gystadleuaeth newydd hon fydd y digwydd bob yn ail flwyddyn er mwyn osgoi Cwpan y Byd a Theithiau’r Llewod.
Mae’r trafod gyda Chymdeithas Rhyngwladol y Chwaraewyr wedi bod yn allweddol i sicrhau bod calendr gemau domestig a rhyngwladol yn ystyried llesiant chwaraewyr fel blaenoriaeth greiddiol.
Er mwyn cyfhau llwybr datblygu gwledydd eraill bydd World Rugby yn creu ail-haen i’r gystadleuaeth fydd yn cynnwys gwledydd o Ewrop a gweddill y byd.