Neidio i'r prif gynnwys
Biggar am ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi Cwpan y Byd

Dan Biggar

Biggar am ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi Cwpan y Byd

Bydd cyn gapten Cymru, Dan Biggar yn ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi Cwpan y Byd yn Ffrainc.

Rhannu:

15 mlynedd wedi iddo ymuno â charfan Cymru am y tro cyntaf, mae’r maswr sydd wedi cynrychioli ei wlad ar 109 achlysur wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi.

Enillodd ei gap cyntaf yn erbyn Canada yn 2008 pan oedd ond yn 19 oed.

Bydd yn parhau i chwarae rygbi dros ei glwb Toulon wedi Cwpan y Byd.

Mae Biggar, sydd yn 33 oed, wedi cyfaddef ei bod hi’n cymryd tipyn yn hirach bellach i’w gorff wella’n llwyr wedi gemau ond mae’n edrych yn ôl ar ei yrfa lwyddiannus a’i ddwy daith gyda’r Llewod gyda balchder mawr.

Dywedodd Biggar yn ei erthygl gyda’r Mail on Sunday: “I fod yn hollol onest, mae fy nghorff wedi dechrau teimlo’n wahanol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. ‘Rwyf dal i deimlo’n dda yn ystod gemau – ond mae’r dyddiau rhwng gemau dipyn yn anoddach bellach.

“Rwyf wastad wedi bod eisiau rhoi’r gorau iddi ar fy nhelerau fy hun, ac ‘rwy’n gwybod bod fy amser yn dod i ben.

“Mae Sam Costelow yn gwneud ei farc ar hyn o bryd ac mae’n amser iddo ef gael ei gyfle.

“’Rwyf wedi bod yn dioddef o anaf bychan i fy nghefn yn ddiweddar – ac yn dilyn sgwrs gyda Warren Gatland ddeuddydd cyn y gêm yn erbyn De Affrica – penderfynias dynnu yn ôl o’r garfan ar gyfer yr ornest honno.

“Roedd hynny’n anodd – gan fy mod yn gwybod na fydden ni byth yn cynrychioli Cymru yng Nghaerdydd eto.

“Pan ddywedais wrth Warren Gatland am fy mhenderfyniad i ymddeol ddydd Iau diwethaf – doedd e ddim wedi ei synnu – ond mae’n gwybod y byddaf yn rhoi popeth er mwyn yr achos dros yr wythnosau nesaf yn Ffrainc. ‘Rwy’n bwriadu trysori pob eiliad sy’n weddill gyda’r garfan.

“Fe gollias fy mam rhyw ddwy flynedd yn ôl – ac ‘rwy’n gobeithio fy mod wedi ei gwneud hi a’r teulu’n falch. Mae Alex, fy ngwraig wedi bod mor gefnogol i mi yn ystod fy nghyrfa – ac ‘rwy’n hynod ddiolchgar iddi hi am hynny.

“Rydw i eisiau gorffen fy nghyrfa ar nodyn uchel. Byddai’n wych ennill ein ffordd allan o’r grŵp a mynd mor bell ag sy’n bosib yng Nghwpan y Byd.”

Mae gan Dan Biggar nodyn yn llawysgrifen ei fam wrth ochr ei wely, sydd wedi dylanwadu ar ei benderfyniad i ymddeol o’r llwyfan rhyngwladol ac sydd yn ei ysbrydoli i gynorthwyo Cymru i roi o’u gorau yn ystod y gystadleuaeth yn Ffrainc. Mae’n nodyn yn dweud yn syml:

“’Rwy’n dymuno pob hapusrwydd i ti. Heddiw, ‘fory a phob diwrnod arall hefyd.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Biggar am ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi Cwpan y Byd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Biggar am ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi Cwpan y Byd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Biggar am ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi Cwpan y Byd
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Biggar am ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi Cwpan y Byd