Bu’n gapten, hyfforddwr a rheolwr ar Gymru, yn rheolwr ar y Llewod hefyd a daeth yn Llywydd URC ar ôl gwasanaethu ar y Pwyllgor Cyffredinol am flynyddoedd lawer.
Fe’i ganed yng Nghwmtwrch Uchaf ar 14 Mai 1938, ac fe’i derbyniwyd i ysbyty TB Craig y Nos yn Sir Frycheiniog yn wyth oed ond brwydrodd yn ôl i ffitrwydd llawn i ddod yn fewnwr rhyngwladol dros ei wlad.
Chwaraeodd i Athrofa Caerdydd, Pont-y-pŵl, Llanelli ac Abertawe gan gapteinio’r myfyrwyr, yn ogystal â Phont-y-pŵl yn 1962-63, ac Abertawe yn 1967-68. ‘Roedd yn cael ei adnabod fel ‘Top Cat’ gan lawer o’i gydnabod a daeth yn ffigwr hynod ddylanwladol yn rygbi Cymru trwy gydol y chwedegau a’r saithdegau.
Bu Rowlands yn rhan o dîm Ysgolion Cymru – y cyntaf o Gymru i deithio i hemisffer y de pan aethon nhw i Dde Affrica.
Enillodd ei gap cyntaf fel mewnwr a chapten yn erbyn Lloegr ar 19 Ionawr 1963 ym Mharc yr Arfau. David Watkins oedd ei faswr y diwrnod hwnnw wrth i’r ddau ohonynt gynrychioli eu gwlad am y tro cyntaf. Colli o 13-6 ar faes rhewllyd fu hanes y Cymry ar yr achlysur hwnnw.
Yn wir, bu Clive Rowlands yn gapten ar Gymru ym mhob un o’i 14 ymddangosiad rhyngwladol rhwng 1963-65. ‘Roedd Pencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1964 yn gofiadwy, gan i Gymru ennill dwy fuddugoliaeth a hawlio dwy gêm gyfartal, i rannu’r Bencampwriaeth gyda’r Alban. Y tymor wedyn – enillodd Rowlands a’i dîm y Goron Driphlyg.
Yn dilyn eu buddugoliaeth o 14-8 yn erbyn Iwerddon, ‘roedd y Gamp Lawn gyntaf ers 1952 yn dal yn fyw ond fe gafodd y Cymry eu curo gan y Ffrancod o 22-13. Daeth hynny â diwedd i yrfa ryngwladol Rowlands, wedi iddo arwain Cymru i chwe buddugoliaeth a dwy gêm gyfartal.
Yn ysgogydd gwych a thactegydd craff, roedd ei arddull gicio o fôn y sgrym yn aml yn achosi dadlau, ac amlygwyd hynny ym Murrayfield yn 1963 pan arweiniodd gicio Rowlands at yr ystlys at 111 lein.
Enillodd Cymru’r gêm ddi-gais o 6-0 gyda Rowlands yn cyfiawnhau ei dactegau wrth ddweud:
“Doedd hi ddim yn gêm ddeniadol ac roeddwn i’n teimlo’n flin am yr olwyr. Ond roedden ni’n chwarae i ennill. – a dyna wnaethon ni”.
Newidwyd y rheolau yn fuan wedi hynny i osgoi gemau gyda chymaint o leiniau!
Bu Clive Rowlands yn gapten ar dîm cymysg Pont-y-pŵl & Cross Keys a gollodd 11-0 i’r Crysau Duon ar 27 Tachwedd 1963. Chwaraeodd yn nhîm Abertawe a drechodd Awstralia 9-8 yn Sain Helen yn 1966 ac arweiniodd XV Gorllewin Cymru yn erbyn Seland Newydd 1967 mewn colled o 21-14 yn Abertawe.
Ymddeolodd fel chwaraewr yn 29 oed a chwta saith wythnos yn ddiweddarach cafodd ei ddyrchafu i Bwyllgor Cyffredinol Undeb Rygbi Cymru ar ôl cael ei ethol yn un o bum Cynrychiolydd Cenedlaethol, gan guro’r cyn-Arlywydd Nathan Rocyn-Jones yn y bleidlais.
Roedd ganddo farn gref am hyfforddi ac fe gafodd ei enwi’n rheolwr cynorthwyol – hyfforddwr i bob pwrpas – ar gyfer taith Cymru i’r Ariannin yn 1968 a daeth yn Hyfforddwr Cenedlaethol swyddogol yn fuan wedi hynny – yn olynydd i David Nash.
Ffynnodd tîm Cymru o dan ei arweiniad, gyda sesiynau hyfforddi rheolaidd yn Aberafan yn datblygu arddull benodol – arweiniodd at Goron Driphlyg yn 1969 ac yna’ Camp Lawn gyntaf mewn 19 mlynedd yn 1971.
Aeth ymlaen i reoli tîm Cymru yng nghystadleuaeth gyntaf erioed Cwpan y Byd yn 1987 pan hawliodd y cysau cochion y trydydd safle. Wedi hynny bu’n Rheolwr ar y Llewod ar eu taith lwyddiannus i Awstralia yn 1989.
Daeth yn Llywydd Undeb Rygbi Cymru yn 1989 a chydnabwyd ei gyfraniad wrth ei gynnwys ar Restr Anrhydedd – Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn 2013.
Yn athro ysgol yn ei fywyd cynnar, brwydrodd yn erbyn canser y coluddyn yn y nawdegau.
Mae Undeb Rygbi Cymru yn cydymdeimlo’n diffuant a chynnes gyda theulu a ffrindiau Clive ac yn diolch iddo am ei gyfraniad aruthrol i’n gêm.
Calon.
Daniel Clive Thomas Rowlands: Cap Rhif 679, 14 cap. Ganed 14 Mai, 1938 yng Nghwmtwrch Uchaf; Fe’n gadawodd: 29 Gorffennaf, 2023 yn Abertawe.