Ar achlysur canfed cap Leigh Halfpenny – y nawfed Cymro yn unig i gyrraedd y garreg filltir nodedig hon – fe sicrhaodd perfformiad ail-hanner campus, y fuddugoliaeth i’r tîm cartref.
Cafodd y Cymry ddechreuad siomedig i’r ornest wrth i’r bachwr Ryan Elias orfod gadael y cae gydag anaf i’w goes wedi pum munud yn unig o chwarae. Ddau funud yn ddiweddarach fe roddodd Marcus Smith y Saeson ar y blaen gyda chic gosb arbennig o bellter ac ail-adroddodd y gamp 6 munud yn ddiweddarach i ddyblu mantais ei dîm i chwe phwynt.
Ychydig dros ddeng munud wedi hynny, ‘roedd Cymru’n gyfartal diolch i ddwy gic gosb gadarn o droed Leigh Halfpenny – yr ail yn deillio o symudiad mwyaf addawol y gêm hyd at hynny – pan aeth Louis Rees-Zammit yn agos at groesi’r gwyngalch yn dilyn gwaith creu Sam Costelow.
Lloegr, heb amheuaeth, reolodd y meddiant yn ystod y cyfnod cyntaf – ac fe sicrhoadd trydedd ymdrech lwyddiannus Smith at y pyst gyda chic ola’r hanner – eu bod yn dychwelyd i’r ystafell newid ar y blaen o driphwynt.
Hanner Amser Cymru 6 Lloegr 9
Yn dilyn deugain munud agoriadol digon di-fflach ar y cyfan – ‘roedd angen rhywbeth i danio’r dorf yn gynnar yn yr ail gyfnod ac fe gafwyd hynny’n bendant. 7 munud wedi’r ail-ddechrau fe arweiniodd rhediad cryf a deallus y capten newydd, Jac Morgan at unfed cais ar bymtheg y mewnwr Gareth Davies ar y llwyfan rhyngwladol i roi Cymru ar y blaen am y tro cyntaf.
Yn dilyn trosiad hawdd Costelow – ‘roedd y mantais hwnnw’n bedwar pwynt.
Yn union wedi hynny, daeth dau gap newydd i’r maes gyda’i gilydd – Taine Plumtree a Henry Thomas – wrth i Christ Tshiunza a Keiron Assiratti – oedd ei hun yn cynrychioli ei wlad am y tro cyntaf – ildio’u lle.
Yn wahanol i’r cyfnod cyntaf, y Cymry ddechreuodd reoli’r meddiant ac yn dilyn 14 cymal o chwarae, fe groesodd George North yng nghysgod y pyst – wrth i’r cloc ddynesu at awr o chwarae.
Bu’n rhaid i Dafydd Jenkins adael y cae o ganlyniad i anaf wedi’r trosiad – a gan bod Warren Gatland eisoes wedi dod â’i holl flaenwyr o’r fainc – bu’n rhaid i Mason Grady ennill ei drydydd cap rhyngwladol yn y rheng ôl yn hytrach nac yng nghanol y cae.
Dangosodd y Cymry wir gymeriad, ffitrwydd a menter yn ystod y chwarter olaf a sicrhawyd y fuddugoliaeth gyntaf yn erbyn Lloegr am y tro cyntaf ers 2021 yn gymharol gyfforddus yn y pendraw.
Bydd y ffaith i Loegr fethu â sgorio pwynt yn yr ail hanner yn achosi cur pen i Steve Borthwick – ond bydd Warren Gatland yn arbennig o bles gyda’r canlyniad a pherfformiad ail hanner ei dîm.
Byddai Clive Rowlands hefyd wedi bod wrth ei fodd.
Sgôr Terfynol Cymru 20 Lloegr 9
Bydd y ddau dîm yn herio’i gilydd unwaith eto’r Sadwrn nesaf yn Twickenham, cyn i Warren Gatland a’i garfan gwblhau eu paratodau ar gyfer Cwpan y Byd wrth groesawu Pencampwyr y Byd, De Affrica i Stadiwm Principality ar Awst 19eg.
Mae Cymru yng Ngrŵp C yng Nghwpan y Byd gyda Awstralia, Fiji, Georgia a Phortiwgal. Mae eu gemau fel a ganlyn:
Dydd Sul, 9 Medi: Cymru v Fiji, Stade de Bordeaux (cic gyntaf 8.00pm / 9.00pm amser lleol)
Dydd Sadwrn, 16 Medi: Cymru v Portiwgal, Stade de Nice (4.45pm / 5.45pm amser lleol)
Dydd Sul, 24 Medi: Cymru v Awstralia, Stadiwm OL, Lyon (8.00pm / 9.00pm amser lleol)
Dydd Sadwrn, 7 Hydref: Cymru v Georgia, Stade de la Beaujoire, Nantes (2.00pm / 3.00pm amser lleol).