Mae Lewis, 27, sydd wedi ennill 33 cap i Gymru, wastad wedi dioddef gyda phoenau a salwch difrifol yn ystod ei chyfnod fel athletwr proffesiynol.
Dim ond cyngor bendant a dyfalbarhad Jo Perkins, sy’n aeldo o dîm meddygol Undeb Rygbi Cymru, sylwodd ar y symptonau a threfnu asesiad meddygol iddi.
Cafodd Lewis wybod os nad oedd hi’n cael llawdriniaeth yn fuan, roedd ei siawns o gael plentyn yn y dyfodol yn fain iawn.
Mae hi nawr yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr ar ôl cael ei siomi o’r ochr orau gan y gefnogaeth a gafodd ar ôl postio am ei sefyllfa bersonol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gall y cyflwr effeithio ar un o bob 10 menyw ac mae capten Lloegr, Leah Williamson, chwaraewr rygbi Bryste, Daisie Mayes a’r Bencampwraig Seiclo Olympaidd, Elinor Barker, i gyd wedi sôn yn gyhoeddus am eu brwydrau personol gyda’r cyflwr.
Mae endometriosis yn gyflwr meddygol sy’n gallu arwain at boen, mislif trwm a blinder ac os na chaiff a’i drin gall a y cyflwr ei adnabod a’i drin yn gyflym – gall arwain at anffrwythlondeb. Er y gallai hyd at 70% o’r rhai sydd ag endometriosis feichiogi’n naturiol, credir mai endometriosis yw’r prif achos o anffrwythlondeb ymhlith menywod yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Ffion Lewis: “Fel athletwr proffesiynol rwy’n gwybod pa mor lwcus ydw i o gael y driniaeth orau a’r gefnogaeth gan Undeb Rygbi Cymru ar ôl cael llawdriniaeth ar ôl fy niagnosis diweddar.
“Roedd ymateb menywod o bob oed ac o bob cefndir yn wirioneddol anhygoel.
“Mae gwybod bod cymaint o fenywod yn dioddef yr un symptomau difrifol a gefais yn dangos bod angen mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i fynd i’r afael â’r cyflwr.
“Fel cymaint o fenywod, roeddwn i wedi dioddef cyhyd heb ddeall yn llawn yr hyn roedd fy nghorff yn ei ddweud wrtha i. Dim ond ar ôl clywed cymaint o straeon gwahanol gan gymaint o fenywod y sylweddolais fod hyn yn rhywbeth llawer yn rhy gyffredin.
“Yn bersonol, roeddwn i’n arfer bwrw ‘mlaen gyda fy mywyd er fy mod i mewn poen difrifol, gan gredu fy mod i jyst yn gorfod byw gyda’r cyflwr.. Gall mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gan bawb fod o fudd i bob un ohonom yn unig.
“Fel athletwr, rwy’n ymwybodol iawn pa mor lwcus ydw i. Nid yw pawb mor ffodus ac mae’n rhaid i ferched a menywod gael eu haddysgu am yr afiechyd. Mae’n rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth.
“Mae’n rhaid i ni roi diwedd ar y torcalon i gymaint o bobl sy’n sylweddoli’n rhy hwyr na allant gael teulu oherwydd y cyflwr hwn.”
Dywedodd Jo Perkins, uwch ffisiotherapydd carfan Menywod Cymru:
“Mae amrywiol raddau o endometriosis yn bodoli wrth gwrs ac mae’n effeithio ar bob menyw mewn ffordd unigol iawn.
“Mae Undeb Rygbi Cymru yn gweithio gyda’n partneriaid Vodafone i ddefnyddio technoleg arloesol gyda’r system PLAYER. App yw hwn sy’n cadw cofnod o gylch mislif holl aelodau’r garfan i gynorthwyo perfformiad chwaraewyr, lles a’u hadferiad.
“Mae wedi ein helpu’n fawr i reoli hyfforddiant y merched a’u cefnogi fel pobl.Mae delio ag Endometriosis yn rhywbeth y bydd gormod o fenywod yn dioddef ohono.
“Rydym wedi annog pob hyfforddwr, aelod o staff a chwaraewr i siarad yn agored am eu hiechyd a’u cylch mislif. Dylai’r sgwrs hon fod yn gwbl agored a naturiol fel pod gan pob merch a menyw yr hyder i leisio unrhyw bryder am eu hiechyd.
Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Merched Cymru: “Mae angen i bob un ohonom fod â mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o iechyd ac endometriosis menywod.
“Dylai dynion, yn arbennig, fod yn gyfforddus yn bod yn agored ac yn trafod iechyd menywod.
“Mae annog ein chwaraewyr i siarad a thrafod sut maen nhw’n teimlo yn rhan fawr o’n meddylfryd ni fel tîm hyfforddi ac mae wedi ein helpu i ddeall ein chwaraewyr fel pobl a gwella eu perfformiadau hefyd.”
Dywedodd Emma Cox, prif weithredwr yr elusen Endometriosis: “Mae cael unigolion o broffil amlwg fel Ffion yn siarad am ei phrofiad gydag endometriosis yn bwerus iawn, o ystyried bod y clefyd hwn mor aml yn cael ei anwybyddu a’i gamddeall.
“Mae Ffion yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod endometriosis yn ‘fwy na dim ond cyfnod poenus’, mae’n afiechyd a allai fod yn ddifrifol ac yn effeithio ar fywyd hirdymor unigolion, ac mae’r rhai sydd â symptomau’n haeddu cael eu clywed a derbyn cefnogaeth.
“Hoffai pawb yn Endometriosis UK ddiolch i Ffion am fod mor ddewr a gonest, a defnyddio ei llwyfan i gynyddu ymwybyddiaeth o endometriosis a thorri’r tabŵ o amgylch iechyd mislif. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai cymdeithas fod mor gyfforddus yn trafod materion iechyd mislifol ag yr ydym wrth drafod unrhyw agwedd arall o iechyd, ac fel y mae Ffion wedi amlygu, gall endometriosis effeithio’n sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol unigolion.”
Mae URC yn gweithio gyda phartneriaid WUKA a Vodafone i ddarparu cefnogaeth i garfan Menywod Cymru ac mae’r Undeb wedi cyhoeddi Polisi Iechyd Menywod sy’n cynnig cefnogaeth ymarferol megis – amser o’r gwaith heb golli cyflog. Y bwriad yw ehangu’r polisi a’r adnoddau hyn i’r holl staff, gwirfoddolwyr ac i bob clwb cymunedol yng Nghymru.
Mae’r Polisi Iechyd Menywod wedi’i gynllunio i rymuso pob menyw o amgylch unrhyw faterion iechyd a bydd yn cynnig cyngor a chefnogaeth i wella ansawdd eu bywydau. Mae URC wedi ymrwymo i greu mwy o ymwybyddiaeth ac i roi diwedd ar y diwylliant o ‘ddioddef yn dawel’.
https://community.wru.wales/the-wru/inside-the-wru/working-for-the-wru/
Ar gyfer menywod sy’n chwilio am fwy o wybodaeth a chymorth, cliciwch ar ddolen Endometriosis UK. https://www.endometriosis-uk.org/ ac yn arbennig y dudalen gymorth https://www.endometriosis-uk.org/get-support .
Mae Endometriosis UK yn cynnig gwasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr hyfforddedig ledled y DU sydd â phrofiad byw o endometriosis a’i wasanaethau cymorth yn darparu man diogel a chroesawgar i bobl gysylltu, cael mynediad at wybodaeth a chefnogaeth, a rhannu gwybodaeth a phrofiadau.