Neidio i'r prif gynnwys
Nifer o newidiadau ar gyfer yr ail ornest yn erbyn Lloegr

Bydd Dewi Lake yn gapten am y tro cyntaf yn Twickenham.

Nifer o newidiadau ar gyfer yr ail ornest yn erbyn Lloegr

Mae Prif Hyfforddwr Cymru,Warren Gatland wedi enwi ei dîm i wynebu Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn (12 Awst, 5.30pm BST yn fyw ar Prime Video yn Saesneg ac yn Gymraeg).

Rhannu:

Wedi i’r ddwy wlad herio’i gilydd yng Nghaerdydd y Sadwrn diwethaf – gyda Chymru’n fuddugol o 20-9 – mae Gatland wedi gwneud nifer o newidiadau ar gyfer gêm y penwythnos hwn.

Bydd Josh Adams yn ennill ei 50fed cap, bum mlynedd wedi iddo gynrychioli ei wlad am y tro cyntaf yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dechrau ei daith ryngwladol fydd Joe Roberts ac ef fydd yr 1,192fed chwaraewr i gynrychioli Cymru. Nick Tomkins fydd ei bartner yng nghanol cae.

Mae dau chwaraewr arall sydd eto i ennill cap, Kemsley Mathias a Keiran Williams wedi eu henwi ar y fainc.

Mae’r bachwr Dewi Lake wedi ei enwi’n gapten ar gyfer y gêm yn Twickenham. Fel Jac Morgan y Sadwrn diwethaf, dyma fydd y tro cyntaf i Lake gael y fraint o arwain ei wlad. Mae ganddo brofiad o arwain y tîm o dan 20 eisoes.

Gareth Thomas (prop pen rhydd) a Tomas Francis (prop pen tynn) fydd yn ymuno gyda Lake yn y rheng flaen.

Bydd Rhys Davies yn dechrau ei ornest gyntaf dros ei wlad yn yr ail reng. Adam Beard fydd y clo arall.

Wedi iddo ennill ei gap cyntaf o’r fainc yn Stadiwm Principality y Sadwrn diwethaf, bydd Taine Plumtree yn dechrau yn safle’r wythwr. Bydd Dan Lydiate yn dychwelyd i’r tîm am y tro cyntaf ers dioddef anaf yn erbyn Ariannin yr Hydref diwethaf. Tommy Reffell fydd yn cwblhau’r drindod yn y rheng ôl.

Tomos Williams – wnaeth ymddangosiad o’r fainc y Sadwrn diwethaf ac Owen Williams fydd yr haneri.

Y profiadol Liam Williams fydd yn dechrau’n gefnwr a bydd yr asgellwr Tom Rogers yn cynrychioli ei wlad am y tro cyntaf ers 2021.

Bydd Kemsley Mathias, Sam Parry, Dillon Lewis, Christ Tshiunza a Taine Basham yn cynnig opsiynau o safbwynt eilyddio’r blaenwyr tra Kieran Hardy, Dan Biggar a Keiran Williams fydd yr olwyr ar y fainc.

Dywedodd Warren Gatland: “Mae hwn yn gyfle i nifer o chwaraewyr wneaeth ddim chwarae’r penwythnos diwethaf. Mae cryfder a chystadleuaeth yn y garfan ar hyn o bryd.

“Fe gefais fy mhlesio gyda pherfformiad a chanlyniad y penwythnos diwethaf er nad oedd popeth yn berffaith.

“Mae gan nifer o chwaraewyr eraill y cyfle i greu argraff ddydd Sadwrn ond mae tipyn o bwysau ar eu hysgwyddau hefyd.Bydd y darnau’n dechrau disgyn i’w lle erbyn y gêm yn ebyn De Affrica’r penwythnos wedyn.”

O safbwynt y gapteniaeth ychwanegodd Gatland: “Mae Dewi Lake wedi creu tipyn o argraff arnaf. Fel Jac (Morgan – arweiniodd y tîm yr wythnos ddiwethaf), mae ganddo barch ei gyd-chwaraewyr. Mae ganddo lais hyderus a hyder yn ei allu ei hun hefyd.

“Ry’n ni mewn cyfnod o newid ar hyn o bryd ac yng nghefn fy meddwl ‘rwy’n dechrau adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd 2027.”

O safbwynt 50fed cap Josh Adams dywedodd Gatland: “Mae gennyf barch aruthrol tuag at Josh. Dywedais wrtho’n eithaf diweddar nad oeddwn yn teimlo ei fod ar ei orau ac roedd yntau yn cytuno hefyd. Mae wedi gweithio’n hynod galed ac mae’n edrych yn ardderchog wrth ymarfer.

“Mae cyrraedd hanner cant o gapiau’n dipyn o gamp – yn enwedig o ystyried ei fod wedi gorfod symud i Uwch Gynghrair Lloegr am gyfnod cyn i ni ei gael yn ôl.

“Mae’n aelod poblogaidd iawn o’r garfan ac mae wastad yn gwneud ei orau. ‘Rwyf yn hynod o falch ei fod yn ennill ei hanner canfed cap.”

Tîm Cymru i wynebu Lloegr yn Twickenham, Sadwrn 12 Awst am 5.30pm BST. Yn fyw ar Prime Video yn Gymraeg ac yn Saesneg.

15. Liam Williams (Kubota Spears – 84 cap)

14.Josh Adams (Caerdydd – 49 cap

13.Joe Roberts (Scarlets – heb gap)

12.Nick Tompkins (Saraseniaid – 27 cap)

11. Tom Rogers (Scarlets – 2 gap)

10.Owen Williams (Gweilch – 7 cap)

9.Tomos Williams (Caerdydd – 46 cap)

1.Gareth Thomas (Gweilch – 21 cap)

2.Dewi Lake (Gweilch – 8 cap): Capten

3.Tomas Francis (Provence – 71 cap)

4.Rhys Davies (Gweilch – 2 gap)

5.Adam Beard (Gweilch– 46 cap)

6.Dan Lydiate (Dreigiau – 69 cap)

7.Tommy Reffell (Caerlŷr – 9 cap)

8.Taine Plumtree (Scarlets – 1 cap)

Eilyddion

  1. Sam Parry (Gweilch – 5 cap)
  2. Kemsley Mathias (Scarlets – heb gap)
  3. Dillon Lewis (Harlequins – 50 cap)
  4. Christ Tshiunza (Caerwysg – 6 cap)
  5. Taine Basham (Dreigiau – 11 cap)
  6. Kieran Hardy (Scarlets – 17 cap)
  7. Dan Biggar (Toulon – 108 cap)
  8. Keiran Williams (Gweilch – heb gap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Nifer o newidiadau ar gyfer yr ail ornest yn erbyn Lloegr
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Nifer o newidiadau ar gyfer yr ail ornest yn erbyn Lloegr
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Nifer o newidiadau ar gyfer yr ail ornest yn erbyn Lloegr
Rhino Rugby
Sportseen
Nifer o newidiadau ar gyfer yr ail ornest yn erbyn Lloegr
Nifer o newidiadau ar gyfer yr ail ornest yn erbyn Lloegr
Nifer o newidiadau ar gyfer yr ail ornest yn erbyn Lloegr
Nifer o newidiadau ar gyfer yr ail ornest yn erbyn Lloegr
Nifer o newidiadau ar gyfer yr ail ornest yn erbyn Lloegr
Nifer o newidiadau ar gyfer yr ail ornest yn erbyn Lloegr
Amber Energy
Opro
Nifer o newidiadau ar gyfer yr ail ornest yn erbyn Lloegr