Neidio i'r prif gynnwys
Abi Tierney

WRU CEO Abi Tierney alongside Executive Director of Rugby Nigel Walker (left) and chair Richard Collier-Keywood

Penodi Abi Tierney’n Brif Weithredwr newydd yr Undeb

Abi Tierney, un o uwch weision sifil y Deyrnas Unedig, fydd Prif Weithredwr newydd Undeb Rygbi Cymru (URC).

Rhannu:

Bydd cyn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid y Swyddfa Gartref yn ymuno ag URC erbyn diwedd y flwyddyn hon. Mae Abi Tierney ar hyn o bryd hefyd yn Gynghorydd Moeseg yn y Swyddfa Gartref ac yn Gadeirydd eu Pwyllgor Pobl.

Cyn ymuno â’r Gwasanaeth Sifil, roedd Abi Tierney yn Gyfarwyddwr Datblygu Busnes yn Serco, lle bu ganddi hefyd nifer o rolau gweithredol, gan gynnwys Cyfarwyddwr Rhanbarthol a Phrif Weithredwr Gwasanaethau Cymunedol Suffolk.

Cyn hynny, bu’n Gyfarwyddwr yn Ysbytai Prifysgol Caerlŷr a Chyngor Dinas Aberdeen, ac yn Arweinydd Marchnata ar gyfer Busnes Gwasanaethau Byd-eang IBM.

Bydd yn cymryd yr awenau oddi wrth y Prif Weithredwr dros dro, Nigel Walker – fydd yn parhau gyda’r Undeb mewn rôl newydd. Bydd Abi Tierney yn ymuno â Bwrdd URC ar ei newydd wedd, dan arweiniad ei Gadeirydd anweithredol annibynnol cyntaf (INED) – Richard Collier-Keywood, a ddechreuodd yn swyddogol yn ei swydd ei hun ym mis Gorffennaf.

Mae Richard Collier-Keywood wedi olynu Ieuan Evans, weithiodd yn ddiflino er mwyn cyflwyno’r egwyddor o Gadeirydd Annibynnol. Derbyniodd yr argymhellion gefnogaeth gan 97% o’r clybiau sy’n aelodau or Undeb fis Mawrth.

Dywedodd Richard Collier-Keywood: “Mae penodiad Abi yn gaffaeliad mawr i rygbi Cymru, “Mae ganddi hanes cadarn o weithio ar draws y sector breifat a chyhoeddus i greu gweledigaethau strategol a chyflawni canlyniadau diwylliannol a masnachol cadarnhaol mewn sefydliadau cymhleth.

“Prif rôl Undeb Rygbi Cymru yw gwasanaethu Rygbi Cymru ar bob lefel – o’r clybiau proffesiynol hyd at y 270 o glybiau cymunedol “Mae ei meddylfryd o ‘roi cwsmeriaid wrth galon popeth’ yn argoeli’n dda i gefnogwyr rygbi yng Nghymru. Credaf y bydd Abi yn gwneud cyfraniad mawr at ein mwynhad o bob agwedd o’r gêm yng Nghymru. Rwy’n falch iawn ei bod wedi penderfynu ymuno â ni.”

Mae gan Abi Tierney gysylltiadau teuluol cryf gyda’r Barri. Magwyd ei thad yno, yn un o chwech o blant ac roedd yn rhan o deulu estynedig agos. Roedden nhw i gyd yn gefnogwyr brwd o rygbi Cymru ac roedd Clwb Rygbi’r Barri wrth galon eu bywyd cymdeithasol. Chwaraeodd ei thad dros y Barri, Dinas Powys a Chrwydriaid Morgannwg.

Mae Abi Tierney ei hun yn gefnogwr brwd i Rygbi Cymru ac yn ymwelydd cyson â Stadiwm Principality. Mae hi’n teimlo’n freintiedig ei bod hi bellach yn gallu cyfuno un o’i phrif ddiddordebau â’i bywyd gwaith, wrth ymgymryd â’r her o ddod yn Brif Weithredwr newydd URC.

Incoming WRU Chief Executive Abi Tierney

“Mae’r cyfle i arwain Undeb Rygbi Cymru yn fraint aruthrol ac rwy’n edrych ymlaen at wneud gwahaniaeth cadarnhaol parhaol ar adeg mor dyngedfennol.” Dywedodd Abi Tierney.

“Mae fy angerdd a’m ymrwymiad i’r rôl hon yn ddiamheuol ac rwy’n teimlo balchder enfawr ar ôl cael fy magu mewn teulu lle mae fy nhad yn dod o’r Barri a lle mae rygbi wedi bod yn rhan allweddol o’n bywydau.

“Mae gan rygbi y gallu i greu cyfleoedd bywyd a datblygu pobl ar y cae ac oddi arno hefyd. Yn y rôl hon, rwy’n bwriadu defnyddio fy etifediaeth gref a’r sgiliau rwyf wedi’u magu yn ystod fy ngyrfa i hyrwryddo’r Undeb a’i diwylliant.
“Mae gen i hanes da wrth siapio diwylliant sefydliad yn gadarnhaol ac rwyf am geisio gweithredu hynny yma hefyd.

“Rwy’n arweinydd cynhwysol a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i hyrwyddo’r egwyddorion o berthyn, ymddiriedaeth, dealltwriaeth a chefnogaeth ar bob lefel yn rygbi Cymru.

“Wrth gydweithio gyda Richard fel Cadeirydd, Nigel yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Rygbi, fy nghydweithwyr ar y Bwrdd a gweddill y staff, byddwn yn gwireddu potensial llawn rygbi Cymru yn y blynyddoedd i ddod ac edrychaf ymlaen at yr her.”

Fis diwethaf (Gorffennaf), penodwyd Nigel Walker i’w swydd newydd a bydd yn ymgymryd â’r rôl hon yn barhaol unwaith i’r Prif Weithredwr ddechrau ar ei gwaith yn swyddogol.

Bydd Huw Bevan (Cyfarwyddwr Perfformiad dros dro), Geraint John (Cyfarwyddwr Cymunedol) a Phrif Hyfforddwyr timau dynion a menywod Cymru – Warren Gatland a Ioan Cunningham – yn parhau i fod yn atebol yn uniongyrchol i Walker, fel Cyfarwyddwr Rygbi newydd.

“Rwy’n croesawu penodiad Abi yn fawr iawn,” ychwanegodd Walker.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gydag Abi i sicrhau dyfodol cadarnhaol a chynaliadwy i rygbi Cymru.

“Mae llawer o waith caled i’w wneud o hyd, ond byddwn yn parhau i gydweithio gyda’n gilydd ac rwy’n parhau i fod yn hynod optimistaidd am ddyfodol ein gêm,” meddai.

Pan fydd Abi Tierney yn ymuno ag URC yn swyddogol ar ddiwedd y flwyddyn, bydd hi’n ymuno â Bwrdd sydd wedi ei ailwampio’n sylweddol yn ddiweddar. Mae’r Bwrdd newydd eisoes yn cynnwys y cyfarwyddwr annibynnol newydd Alison Thorne, a ddaeth yn aelod swyddogol o’r Bwrdd ddechrau’r mis hwn (Awst) wrth i Chris Morgan gamu o’r neilltu. Yn naturiol, mae’r Cadeirydd newydd, Richard Collier-Keywood, yn aelod allweddol o’r Bwrdd newydd hefyd.

Uchelgais Undeb Rygbi Cymru – yw sicrhau y dylai o leiaf 40% o’i Fwrdd 12 person fod yn fenywod (h.y. pum unigolyn. Ar hyn o bryd mae 11 o’r 12 aelod o’r Bwrdd yn ddynion). Mae’r uchelgais hwn yn parhau i fod ar y trywydd cywir.

Mae’r broses recriwtio yn parhau i benodi aelod annibynnol arall, yn ogystal ag aelod o’r Bwrdd sydd â chyfrifoldeb penodol am gêm y merched, ac mae etholiadau pellach ar gyfer aelodau newydd y cyngor yn cael eu cynnal yr haf hwn. Yn ystod y broses hon, mae amrywiaeth mewn ceisiadau ymgeiswyr wedi cael ei annog yn gryf gan Undeb Rygbi Cymru.

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Penodi Abi Tierney’n Brif Weithredwr newydd yr Undeb
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Penodi Abi Tierney’n Brif Weithredwr newydd yr Undeb
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Penodi Abi Tierney’n Brif Weithredwr newydd yr Undeb
Rhino Rugby
Sportseen
Penodi Abi Tierney’n Brif Weithredwr newydd yr Undeb
Penodi Abi Tierney’n Brif Weithredwr newydd yr Undeb
Penodi Abi Tierney’n Brif Weithredwr newydd yr Undeb
Penodi Abi Tierney’n Brif Weithredwr newydd yr Undeb
Penodi Abi Tierney’n Brif Weithredwr newydd yr Undeb
Penodi Abi Tierney’n Brif Weithredwr newydd yr Undeb
Amber Energy
Opro
Penodi Abi Tierney’n Brif Weithredwr newydd yr Undeb