Neidio i'r prif gynnwys
Alex Cuthbert

Alex Cuthbert yn ystod hyfforddiant

Tîm Cymru i herio Pencampwyr y Byd

Mae’r Prif Hyfforddwr Warren Gatland wedi enwi ei dîm i chwarae De Affrica yng ngêm olaf Cyfres Haf Vodafone 2023 ddydd Sadwrn yma (19 Awst, CG 3.15pm BST yn fyw ar Prime Video yn Saesneg a Chymraeg).

Rhannu:

Bydd Alex Cuthbert, (asgellwr), a Johnny Williams, (canolwr) yn gwneud eu hymddangosiadau cyntaf yr haf hwn, fel y bydd Kieran Hardy – sy’n dechrau yn safle’r mewnwr.

Mae Teddy Williams a Cai Evans, wedi eu henwi ymhlith yr eilyddion ar gyfer y gêm hon, ac felly y mae’n bosib y byddant yn ennill eu capiau cyntaf dros Gymru y penwythnos hwn.

Jac Morgan fydd yn gwisgo’r crys rhif 7 unwaith eto  – ac ef fydd y capten hefyd – a hynny am yr eildro’n ei yrfa. Dan Lydiate (blaenasgellwr) ac Aaron Wainwright (wythwr) fydd yn ymuno â Morgan yn rheng ôl Cymru.

Mae Elliot Dee (bachwr) yn dechrau ei gêm gyntaf ers mis Awst eleni, gyda Corey Domachowski (prop pen rhydd) a Keiron Assiratti (prop pen tynn) yn ennill eu hail gapiau yn y rheng flaen.

Ben Carter a Will Rowlands yw’r ddau ail reng. Bydd Dan Biggar yn dechrau fel maswr am y tro cyntaf yr haf hwn ar ôl dau ymddangosiad oddi ar y fainc yn erbyn Lloegr yn ystod y pythefnos diwethaf.

Mae Mason Grady a Johnny Williams wedi eu dewis fel cyfuniad yng nghanol cae yn erbyn Pencampwyr y Byd.

Liam Williams fydd yn gefnwr unwaith eto gyda Rio Dyer yn cwblhau llinell ôl Cymru. Mae Tomos Williams a Max Llewellyn wedi eu henwi ymhlith yr eilyddion ar gyfer yr olwyr ynghŷd â Cai Evans.

Sam Parry, Nicky Smith a Henry Thomas yw eilyddion rheng flaen Cymru. Gan na chadarnhawyd i Taine Basham ddioddef cyfergyd y Sadwrn diwethaf – a gan iddo gwblhau pob un o’r tri cham o’r protocol Asesiad Anafiadau Pen (HIA)* – mae ar gael i gynnig opsiynau y rheng ôl – pe bydd angen.

Dywedodd Warren Gatland: “Mae’r paratoadau wedi mynd yn dda. Ry’n ni’n hapus iawn gyda’r garfan gyfan. Ry’n ni’n ceisio adeiladu rhywfaint o ddyfnder o fewn y tîm ac mae’r awyrgylch wedi bod yn wych yn ystod ein hamser gyda’n gilydd.

“Yn y ddwy gêm gyntaf – fe brofon ni ein bod yn gallu bod yn hynod gorfforol ac yn gallu amddiffyn yn dda hefyd. Fe gefais fy mhlesio’n fawr gan hynny.

“Mae yna bethau penodol y mae’n rhaid i ni eu gwella – gan gynnwys bod yn fwy cywir a chlinigol. Ry’n ni wedi dysgu cryn dipyn o’r ail gêm honno yn erbyn Lloegr a gobeithio y byddwn yn rhoi hynny ar waith yn erbyn De Affrica. Mae hwn yn gyfle arall i’r grŵp yma o 23 o chwaraewr i geisio hawlio’u lle yn y garfan ar gyfer Cwpan y Byd.

“Ry’n ni’n gwybod y bydd De Affrica’n hyderus a chorfforol. Dydyn nhw ddim yn gwneud llawer o gamgymeriadau. Maen nhw’n dîm profiadol iawn – ond mae gennym gyfle gwych i ddangos ein doniau o flaen ein torf ein hunain ac adeiladu ar nifer o’r agweddau da o’n chwarae yn y ddwy gêm yn erbyn Lloegr. Mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n chwarae am 80 munud ac yn gywir am 80 munud.”

Wales senior men’s XV to play South Africa at  Principality Stadium in the 2023 Vodafone Summer Series. Saturday 19 August, KO 3.15pm BST. Live on Prime Video in English and Cymraeg

Tîm Cymru i chwarae De Affrica yn Stadiwm Principality yng Nghyfres Haf Vodafone 2023
Dydd Sadwrn 19 Awst, CG 3.15pm BST. Yn fyw ar Prime Video yn Saesneg a Chymraeg

15. Liam Williams (Kubota Spears – 85 caps)
14. Alex Cuthbert (Gweilch – 57 caps)
13. Mason Grady (Caerdydd – 3 caps)
12. Johnny Williams (Scarlets – 5 caps)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 8 caps)
10. Dan Biggar (Toulon – 109 caps)
9. Kieran Hardy (Scarlets – 17 caps)
1. Corey Domachowski (Caerdydd – 1 cap)
2. Elliot Dee (Dreigiau – 42 caps
3. Keiron Assiratti (Caerdydd – 1 cap)
4. Ben Carter (Dreigiau – 10 caps)
5. Will Rowlands (Dreigiau – 24 caps)
6. Dan Lydiate (Dreigiau – 70 caps)
7. Jac Morgan (Gweilch – 10 caps) captain / capten
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 38 caps)

Eilyddion
16. Sam Parry (Gweilch – 6 caps)
17. Nicky Smith (Gweilch – 43 caps)
18. Henry Thomas (Montpellier – 1 cap)
19. Teddy Williams (Caerdydd – uncapped / heb gap)
20. Taine Basham (Dreigiau – 12 caps)
21. Tomos Williams (Caerdydd – 47 caps)
22. Max Llewellyn (Caerloyw – 1 cap)
23. Cai Evans (Dreigiau – uncapped / heb gap)

*am fwy o wybodaeth am brotocol AAP ewch i wefan World Rugby

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm Cymru i herio Pencampwyr y Byd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm Cymru i herio Pencampwyr y Byd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm Cymru i herio Pencampwyr y Byd
Rhino Rugby
Sportseen
Tîm Cymru i herio Pencampwyr y Byd
Tîm Cymru i herio Pencampwyr y Byd
Tîm Cymru i herio Pencampwyr y Byd
Tîm Cymru i herio Pencampwyr y Byd
Tîm Cymru i herio Pencampwyr y Byd
Tîm Cymru i herio Pencampwyr y Byd
Amber Energy
Opro
Tîm Cymru i herio Pencampwyr y Byd