Yn dilyn ei thymor rhyfeddol, derbyniodd Tu’ipulotu wobr Liza Burgess fel Chwaraewr y Flwyddyn ar gyfer y Menywod, tra i Morgan dderbyn tlws Lloyd Lewis ar gyfer camp y dynion.
Mae Gareth Edwards, Barry John, JPR Williams, Mervyn Davies, Bennett, Terry Holmes, Jonathan Davies, Scott Gibbs, Ieuan Evans, Neil Jenkins, Rob Howley, Scott Quinnell, Gareth Thomas, Martyn Williams, Gethin Jenkins, Shane Williams, Sam Warburton, Leigh Halfpenny ac Alun Wyn Jones ymysg yr enillwyr blaenorol.
Cyd-aelod Tu’ipulotu yng ngharfan Cymru, Alisha Butchers enillodd wobr y Menywod y llynedd.
Cyflwynwyd eu tlysau iddynt gan ohebydd BBC Cymru Gareth Griffiths, sydd hefyd yn aelod o bwyllgor Newyddiadurwyr Cymru.
Mae Tu’ipulotu newydd ddychwelyd o wyliau teuluol yn Tonga ac mae hi a gweddill carfan y Menywod yn brysur yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth y WXV yn Seland Newyd yn yr Hydref. Dywedodd Tu’ipulotu:
“Rwyf wedi cael blwyddyn dda – yn enwedig o safbwynt fy rygbi. Eleni y dechreuais chwarae fel prop pen tynn i bob pwrpas ac mae hynny’n arbennig o bwysig i mi.
“Roedd hi’n braf gallu mynd i Tonga am wythnos o wyliau. Rwy’n caru ymweld â’r wlad – ac ‘roeddwn bron ag aros yno!
“Nawr mae’r gwaith caled ar gyfer y WXV yn dechrau o ddifrif. Bydd yn llinyn mesur da i ni gan y byddwn yn herio timau gorau’r byd. Fe fyddwn yn siwr o ddysgu am ambell agwedd o’n gêm y bydd yn rhaid i ni gryfhau – fydd yn werthfawr yn y pendraw.
“Mae llawer iawn o bethau da a chadarnhaol wedi digwydd i mi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac ‘rwy’n ddiolchgar iawn am hynny.”
Fe gafodd Jac Morgan dymor arbennig dros y Gweilch a Chymru hefyd ac ef oedd enillydd clir y wobr i’r dynion. Mae wedi parhau i berfformio a chreu argraff y tymor hwn wrth gwrs a’r Sadwrn diwethaf, cafodd y fraint o arwain ei wlad am y tro cyntaf yn y fuddugoliaeth o 20-9 yn erbyn Lloegr. Morgan gafodd ei ddewis yn Seren y Gêm honno hefyd.
Dywedodd Jac Morgan: “Rwy’n falch o dderbyn y wobr yma. Rwy’n hapus iawn i ddweud y gwir. Mae cael fy enw ar yr un tlws â chyment o chwaraewyr gwych o’r gorffennol yn golygu llawer iawn i mi.
“Roedd hi’n braf curo Lloegr y penwythnos diwethaf – ond er y bydd hi’n anodd yn Twickenham y Sadwrn yma – mae cyffro mawr yn y garfan ar gyfer y gêm”.
Morgan Morris – sy’n chwarae yn rheng ôl y Gweilch – enillodd wobr Chwaraewr Ifanc y Newyddiadurwyr.