Yng ngwynt a glaw Stadiwm CSM Bae Colwyn, talwyd teyrnged i gyn-Gadeirydd a chyn-Drysorydd Undeb Rygbi Cymru, Glanmor Griffiths, fu farw’n ystod yr wythnos, cyn y gic gyntaf.
O flaen torf barchus iawn o 1,948, dechreuodd tîm Ioan Cunningham yn effeithiol ac wedi dim ond 5 munud, croesodd Alisha Butchers am gais cynta’r cochion a hynny yn ei gêm gyntaf dros ei gwlad ers iddi ddioddef anaf cas yn ystod Cwpan y Byd yn 2022. Roedd gweld ei gwên wrth groesi yn un o uchafbwyntiau’r prynhawn.
Er i Keira Bevan drosi’n gelfydd, lleihawyd y bwlch i 4 pwynt wedi 12 munud wedi i faswr yr Unol Daleithiau, Gabriella Cantorna hollti’r pyst gyda’i chynnig cyntaf hi o’r prynhawn.
Chwarae yn Ail Haen y WXV fydd yr Unol Daleithiau wedi iddynt golli eu pum gêm ryngwladol ddiwethaf ac roedd yr ysgrifen ar y mur am eu chweched colled o’r bron wedi 22 munud wrth i Keira Bevan dirio yng nghysgod y pyst, wedi sgrym hynod bwerus y blaenwyr.
Gwnaed tasg yr ymwelwyr yn anoddach fyth wedi hanner awr o’r gêm gan i’r blaen-asgellwr Freda Tafuna weld cerdyn melyn am dacl uchel ar Gwenllian Pyrs. Manteisiodd y Cymry’n llawn ar hynny gan i Lisa Neumann hawlio trydydd cais ei gwlad cyn troi.
Sgôr ar yr Egwyl Cymru 19 UDA 3
Yn groes i’r disgwyl, yr ymwelwyr ddechreuodd yr ail gyfnod gryfaf ac eiliadau’n unig wedi’r ail-ddechrau, croesodd Sarah Levy’n y gornel gan fanteisio ar amddiffyn llac y Cymry.
Serch hynny, ail-sefydlwyd goruchafiaeth y tîm cartref unwaith eto gwta 10 munud yn ddiweddarach pan blymiodd Alex Callender dros y llinell am y cyntaf o’i dau gais hi, yn dilyn hyrddiad gwych gan yr wyth blaen.
Penderfynodd Ioan Cunningham newid y rheng flaen yn llwyr wedi trosiad Bevan a braf oedd gweld Donna Rose yn dychwelyd i’r llwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf eleni.
Penderfynodd yr Unol Daleithiau gadw’r chwarae’n dynn ac wrth i’r cloc ddynesu at awr o chwarae, fe wnaeth Tafuna yn iawn am eich cham yn gynharach pan groesodd hi am ail gais yr ymwelwyr.
Gyda llai na 10 munud yn weddill croesodd seren y gêm, Alex Callender am ei hail sgôr o’r prynhawn gan selio’r fuddugoliaeth yn y broses. Yn y symudiad arweiniodd at y cais, taclwyd Robyn Wilkins yn uchel gan Fane Haungatau olygodd bod yr Unol Daleithiau yn gorffen y gêm gyda 14 o chwaraewyr wedi i’r canolwr weld y cerdyn melyn am ei throsedd.
Yn union wedi trosiad Bevan, daeth y ferch leol Nel Metcalfe i’r maes i ennill ei chap cyntaf dros ei gwlad – gan ymuno â Carys Cox oedd yn cynrychioli ei gwlad am y tro cyntaf heddiw hefyd.
Eiliadau wedi i Metcalfe gamu i’r maes, gorfod gadael fu hanes Donna Rose gan iddi weld cerdyn melyn am drosedd yn y chwarae tynn. Manteisiodd yr ymwelwyr ar hynny pan diriodd yr eilydd Paige Stathopolous drydydd cais ei gwlad ar achlysur ei chap cyntaf – ond doedd hynny ddim yn ddigon i atal y crysau cochion rhag cael y gair olaf.
Gyda symudiad ola’r ornest, tiriodd Sioned Harries chweched cais Cymru gan sicrhau buddugoliaeth gyntaf erioed Cymru dros yr Unol Daleithiau cyn i garfan Ioan Cunningham deithio i Seland Newydd o fewn pythefnos.
Sgôr Terfynol Cymru 38 UDA 18
Dywedodd Seren y Gêm, Alex Callender: “Mae angen i ni wella’n hamddiffyn gan i ni eu gadael yn ôl mewn i’r gêm yn yr ail hanner.
“Wedi dweud hynny, mae’r fuddugoliaeth hon yn rhoi hyder i ni cyn i ni deithio i Seland Newydd ar gyfer y WXV1.”
Gemau WXV1 Cymru.
- Canada v Cymru, Dydd Sadwrn, Hydref 21ain, Stadiwm Sky, Wellington (4pm amser lleol)
- Seland Newydd v Cymru, Sadwrn, 28ain, Stadiwm Forsyth Barr, Dunedin (4pm amser lleol)
- Awstralia v Cymru, Dydd Gwener, Tachwedd 3ydd, Stadiwm Go Media Mount Smart, Auckland (7pm amser lleol)