Bydd Hannah Jones yn gapten ar dîm Cymru unwaith eto wrth iddynt baratoi ar gyfer cystadlu yn haen uchaf y WXV yn Seland Newydd fis nesaf. Hawliodd y Cymry eu lle yn yr haen uchaf o ganlyniad i’w perfformiadau a’u canlyniadau addawol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Bydd yr asgellwr Carys Cox o glwb Caerwrangon yn ennill ei chap cyntaf brynhawn Sadwrn, tra bod cefnwr dan 20 Cymru, Nel Metcalfe – sydd heb gynrychioli’r tîm hŷn eto chwaith – wedi’i henwi ar y fainc.
Mae Jasmine Joyce, sydd wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd ddwywaith, yn dychwelyd i dîm Cymru ac yn dechrau gêm yn y crys coch am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 2022 yn Seland Newydd. Robyn Wilkins fydd yn dechrau yn safle’r maswr a bydd hi’n ennill cap rhif 66 yn erbyn yr Unol Daleithiau.
Mae’r prop Donna Rose wedi’i henwi ar y fainc ac mae hi wedi cael ei chynnwys yn y garfan am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd y llynedd.
Gemau WXV Cymru.
• Canada v Cymru, Dydd Sadwrn, Hydref 21ain, Stadiwm Sky, Wellington (4pm amser lleol)
• Seland Newydd v Cymru, Sadwrn, 28ain, Stadiwm Forsyth Barr, Dunedin (4pm amser lleol)
• Awstralia v Cymru, Dydd Gwener, Tachwedd 3ydd, Stadiwm Go Media Mount Smart, Auckland (7pm amser lleol)
Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Bydd hwn yn brawf gwerthfawr i ni yn erbyn yr Unol Daleithiau a bydd y gêm yn rhoi syniad da o’n datblygiad i ni. Ry’n ni wedi ymarfer yn galed iawn dros y misoedd diwethaf ac mae’n rhaid cofio i UDA ein curo ni y tro diwethaf i ni chwarae’n gilydd ac fe enillon nhw yn erbyn ein tîm dan 20 ni yn ystod yr haf.
“Rwy’n hyderus bod y gwaith caled sydd wedi ei wneud yn ystod y misoedd diwethaf a’r amser ry’n ni wedi ei dreulio gyda’n gilydd fel carfan wedi bod yn amhrisiadwy. Mae’n amser troi’r gwaith ar y maes ymarfer i mewn i berfformiad da ar y cae.
“Bydd y gêm hon yn rhoi syniad da i ni o ble ry’n ni arni hi, fel hyfforddwyr a chwaraewyr – cyn teithio i Seland Newydd fis nesaf ac rwy’n edrych ymlaen at ornest gystadleuol iawn ym Mae Colwyn.”
“Mae Carys Cox wedi creu argraff arnom fel tîm hyfforddi ers iddi ymuno â’r garfan dros yr haf – ac mae’n haeddu ei chyfle i ennill ei chap cyntaf.
“Roedd Nel Metcalfe yn aelod o’n tîm dan 20 Cymru ac fe dderbyniodd hi wahoddiad i ymuno â’n carfan estynedig wrth baratoi ar gyfer y WXV. Mae hi wedi dangos gwir addewid mewn cyfnod byr ac mae hi’n chwaraewr sy’n llawn potensial.
“Ry’n ni’n falch iawn o groesawu Jaz a Donna yn ôl atom ac maen nhw wedi dod â phrofiad go iawn ac awch cystadleuol iawn i’r ymarferion. Mae eu cael yn ôl yn y garfan – ar ôl bod heb eu gwasanaeth y tymor diwethaf – yn hwb enfawr.
“Methodd yr Unol Daleithiau â hawlio’u lle yn haen uchaf y WXV – ond maen nhw’n garfan brofiadol fydd â phwynt i’w brofi yn ein herbyn. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr her y byddant yn ei gynnig i ni gan y bydd hynny’n ein paratoi’n dda ar gyfer y daith i Seland Newydd.
Tîm Cymru
15. Jasmine Joyce
14. Lisa Neumann
13. Hannah Jones (c)
12. Kerin Lake
11. Carys Cox*
10. Robyn Wilkins
9. Keira Bevan
1. Gwenllian Pyrs
2. Carys Phillips
3. Sisilia Tu’ipulotu
4. Abbie Fleming
5. Georgia Evans
6. Alisha Butchers
7. Alex Callender
8. Bethan Lewis (îs-gapten)
Eilyddion 16. Kelsey Jones, 17. Abbie Constable, 18. Donna Rose, 19. Kate Williams, 20. Sioned Harries, 21. Meg Davies, 22. Lleucu George, 23. Nel Metcalfe *. (* Heb ennill cap eto).