Neidio i'r prif gynnwys
Cymry’n arwain dychweliad Barbariaid y Menywod

Bydd Siwan Lillicrap yn cynorthwyo gyda hyfforddi Barbariaid y Menywod.

Cymry’n arwain dychweliad Barbariaid y Menywod

Ddwy flynedd ers i Farbariaid y Menywod guro XV De Affrica o 60-5 o flaen 29,581 o bobl yn Twickenham – daeth y cyhoeddiad y bydd y Menywod yn chwarae dwy gêm mewn dau hemisffer gwahanol cyn ddiwedd y mis.

Rhannu:

Mae aelodau’r garfan o 24 o chwaraewyr wedi ennill 631 o gapiau rhyngwladol ac yn cynnwys Pencampwyr Byd. Byddant yn cael eu hyfforddi gan Sean Lynn a arweiniodd Caerloyw-Hartpury at Bencampwriaeth y Premier 15 y tymor diwethaf ar gyfer y ddwy ornest yn erbyn Munster a De Affrica.

Bydd cyn gapten Cymru, Siwan Lillicrap yn cynorthwyo Lynn gyda’r hyfforddi tra bydd dau gynrychiolydd o Gymru ymysg y garfan – sef Elinor Snowsill a Gemma Rowland.

Dywedodd Lillicrap: ‘Mae’n fraint arbennig i mi gael gweithio gyda’r Barbariaid.

‘Mae’n gyfle gwych i mi weithio gyda chwaraewyr o bedwar ban y byd – menywod sydd wedi dylanwadu’n enfawr ar ddatblygiad y gêm dros y blynyddoedd.

‘Bydd cyd-weithio gydag Elinor a Gemma unwaith eto’n brofiad gwych hefyd.

‘Sean oedd fy hyfforddwr yng Nghaerloyw-Hartpury pan benderfynais roi’r gorau i chwarae ac felly mae bod yn rhan o’i dîm hyfforddi ef yn hynod o gyffrous. Mae Sean yn Gymro ac mae gan y ddau ohonom gysylltiad clos iawn gyda Chlwb Rygbi Waunarlwydd sy’n gwneud pethau hyd yn oed yn fwy arbennig.”

Fiona Stockley sefydlodd Barbariaid y Menywod ac mae hi’n arbennig o falch bod y tîm am deithio unwaith eto:

“Mae hi wedi bod yn ddwy flynedd ers i ni drechu De Affrica yn Twickenham ac felly mae’n braf iawn ein bod yn gallu teithio i Cape Town i’w herio unwaith yn rhagor. Mae hi’n ddinas sy’n caru ei rygbi ac felly mae’n addo i fod yn dipyn o achlysur.

“Byddwn wedyn yn teithio i leoliad ein gornest gyntaf erioed fel Barabariaid y Menywod sef Munster. Bydd y gemau yn Ne Affrica ac yn Iwerddon yn ddigwyddiadau pwysig a chofiadwy.”

Bydd carfan Menywod y Barbariaid yn teithio i Cape Town i herio XV De Affrica ar gyfer y gêm ar Fedi’r 23ain fydd yn cael ei chynnal yn Stadiwm Athlone (4.30pm).

Wedi hynny, byddant yn teithio i Barc Thomond ar gyfer gwledd o rygbi Barbaraidd gan y bydd y Menywod (2.30pm) ac yna’r dynion (4.30pm) yn herio timau Munster ar Fedi’r 30ain.

Mae tocynnau ar gyfer gemau Parc Thomond ar gael yma: here.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymry’n arwain dychweliad Barbariaid y Menywod
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymry’n arwain dychweliad Barbariaid y Menywod
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymry’n arwain dychweliad Barbariaid y Menywod
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cymry’n arwain dychweliad Barbariaid y Menywod