Chwaraeoedd dros dîm undeb Cymru 21 o weithiau rhwng 1963 a 1967 a chynrychiolodd ei wlad yng nghamp y cynghrair ar 16 achlysur hefyd.
Arwydd o fawredd Watkins yw’r ffaith iddo chwarae dros y Llewod yn y ddwy gamp ar chwe achlysur yr un.
Dywedodd Jonathan Davies – feistrolodd y ddwy gamp ei hun – bod David Watkins yn un o “anfarwolion y ddau gôd rygbi, yn fentor, yn ysbrydoliaeth ac yn gyfaill da”.
Ychwanegodd ei fod “yn gwmni gwych oddi ar y cae”.
Yn enedigon o’r Blaenau yng Ngwent, fe ddechreuodd Watkins ddal sylw’r cyhoedd wedi iddo ymuno â Chlwb Casnewydd yn 1961. Cyn hynny fe dreuliodd gyfnodau gyda chlybiau Glyn Ebwy a Phont-y-pŵl. Bu’n aelod allweddol o dîm Casnewydd a drechodd Seland Newydd 3-0 yn 1963 ar faes Rodney Parade.
Cyn eu gêm agoriadol o dymor Uwch Gynghrair Indigo – yn erbyn Pont-y- pŵl heddiw – talwyd teyrnged gynnes iddo gan ddau o’i gyn-glybiau.
Yn eu datganiad heddiw, dywedodd Clwb Rygbi Casnewydd:
” Yn ei dymor cyntaf gyda ni, fe enillon ni’r Bencampwiaeth, cyn i ‘Dai’ chwarae rhan allweddol yn ein buddugoliaeth enwog yn erbyn y Crysau Duon…
“Bu’n gapten ar ein clwb rhwng 1964 a 1968 ac roedd hefyd yn gapten ar Gymru a’r Llewod.”
Symudodd David Watkins i chwarae rygbi’n broffesiynol yn Salford yn 1967 – am bris o £16,000 – olygodd na chwaraeodd rygbi’r undeb wedi hynny. Cynrychiolodd Salford ar dros 400 achlysur ac fe enillodd y clwb ddwy Bencampwriaeth yn ystod yr 1970au.
Wedi iddo roi’r gorau i chwarae Rygbi’r Cynghrair – daeth yn Hyfforddwr tîm Rygbi X111 Prydain – gollodd yn Rownd Derfynol Cwpan y Byd ym 1977.
Wedi hynny death adref i hyfforddi tîm Cynghrair Cymru – a bu’n ddylanwad allweddol wrth greu’r Dreigiau Gleision yng Nghaerdydd.
Ond troi yn ôl at gêm yr Undeb a wnaeth yn y pendraw pan dderbyniodd gynnig i hyfforddi Casnewydd ym 1992 cyn dod yn Gadeirydd ac yn Llywydd ar y clwb.