“Doedd Clwb Chwaraeon Penybont ddim yn chwarae am 9pm pan oeddwn i’n dechrau yn y gamp.”
“Wedi dweud hynny, mae dechrau’n hwyr yn rhan o gael y profiad o chwarae ar y llwyfan mawr.” Dywedodd Lake.
Bydd chwarae mewn gwres llethol ddim yn brofiad arbennig o gyfarwydd i fwyafrif y garfan chwaith – ac mae disgwyl i’r tymheredd fod yn 28 gradd erbyn y gic gyntaf yn Bordeaux.
“Mewn ffordd, bydd chwarae mor hwyr yn gwneud pethau ychydig yn haws i ni ac i’n gwrthwynebwyr. Ry’n ni’n ffodus ein bod wedi ymarfer yng nghwres tanbaid Twrci yn ddiweddar.” ychwanegodd Dewi Lake.
“ Ry’n ni’n barod i chwarae yn yr amodau anodd hyn gan fod y tywydd wedi bod yn boeth iawn yn y Swistir ac yn Nhwrci. Mae lan i ni fel chwaraewyr bellach i dderbyn y bydd y tywydd yn dwym ac i ganolbwyntio ar wneud ein gwaith ar y cae.”
Yn dilyn derbyn anaf yn y gêm baratoadol yn Nhwickenham, mae’r bachwr bellach yn holliach ac yn disgwyl am benderfyniad Warren Gatland am bwy fydd yn arwain y tîm yn erbyn Ffiji – Lake ei hun neu Jac Morgan.
Mae’r fraint o arwain Cymru yng ngemau agoriadol Cwpan y Byd wedi ei gyflwyno hyd yma i Richard Moriarty (v Iwerddon, 1987), Ieuan Evans (v Gorllewin Samoa, 1991), Mike Hall (v Japan, 1995), Rob Howley (v Ariannin, 1999), Colin Charvis (v Yr Eidal, 2003), Sam Warburton (v De Affrica, 2011 and Wrwgwai, 2015) ac Alun Wyn Jones (v Georgia, 2019).
Pwy bynnag fydd yn gapten yn yr ornest agoriadol eleni – mae Dewi Lake yn hynod falch ei fod wedi gwella o’i anaf ac ar gael i ddechrau’r gêm gyntaf:
“Rwy’n arbennig o falch fy mod yn holliach erbyn hyn ac rwy’n hynod o ddiolchgar i’r staff meddygol am hynny.
“Ro’n i’n ofni’r gwaethaf pan ddes i oddi-ar y cae wedi dim ond ugain munud yn Twickenham.”
“Ond diolch i waith caled y tîm meddygol, ‘rwy’n barod ar gyfer y fraint o gystadlu yng Ngwpan y Byd am y tro cyntaf.”