Neidio i'r prif gynnwys
Manylion Tocynnau’r Chwe Gwlad a’r Menywod i chwarae’n Stadiwm Principality

Manylion Tocynnau’r Chwe Gwlad a’r Menywod i chwarae’n Stadiwm Principality

Bydd tocynnau ar gyfer gemau rhyngwladol Dynion a Menywod Cymru yn mynd ar werth ar yr un diwrnod – a hynny am y tro cyntaf erioed.

Rhannu:

Bydd gan gefnogwyr Cymru y cyfle i gael eu bachau ar docynnau gemau Menywod a Dynion Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad yn 2024 yn ogystal â gêm Cymru yn erbyn y Barbariaid ym mis Tachwedd – gornest fydd yn gweld y chwedlonol Alun Wyn Jones yn herio ei gyn gyd-chwaraewyr rhyngwladol.

Dydd Iau yr 21ain o Fedi yw’r diwrnod pwysig pan fydd tocynnau Chwe Gwlad y Dynion a’r Menywod yn mynd ar werth – ynghŷd â thocynnau gêm y Barbariaid.

Yr ornest yn erbyn y Barbariaid fydd cyfle cyntaf cefnogwyr Cymru i groesawu carfan Cwpan y Byd yn ôl o Gwpan y Byd yn Ffrainc.

Dychwelyd o’r WXV yn Seland Newydd fydd y Menywod wrth gwrs cyn iddynt herio’r Alban (Mawrth 23) a Ffrainc (Ebrill 21) ar Barc yr Arfau – ac yna’r Eidal yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn y 27ain o Ebrill.

Yn ystod y Chwe Gwlad eleni, gwyliwyd y gêm yn erbyn Lloegr ar Barc yr Arfau gan 8,862 o bobl – record o dorf ar gyfer gêm gartref Menywod Cymru. Roedd hynny bron i ddwbl maint y dorf wyliodd yr ornest agoriadol o’r Bencampwriaeth yn erbyn Iwerddon – sef y record ar y pryd.

Bydd y gêm yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm Principality yn ddathliad o rygbi rhyngwladol Cymru, law yn llaw â gemau’r Ffordd i’r Principality.

Cymru v Yr Eidal ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod fydd y gêm gyntaf o dair bwysig i’r Merched a’r Menywod yn y Stadiwm y diwrnod hwnnw, gyda Rowndiau Terfynol y Plât a’r Cwpan yn dilyn yr ornest ryngwladol.

Wrth brynu tocyn ar gyfer y gêm ryngwladol, bydd cefnogwyr yn cael mynediad am ddim i’r ddwy ornest gymunedol hefyd.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Menywod Cymru, Ioan Cunningham: “Mae pob chwaraewr o Gymru eisiau chwarae yng nghartref rygbi ein gwlad. Mae’r ffaith y bydd ein gêm olaf ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2024 yn cael ei chwarae yn Stadiwm Principality yn arwydd clir o uchelgais y chwaraewyr, hyfforddwyr a staff y garfan.

“Does dim amheuaeth bod y torfeydd gwych ddaeth i’n cefnogi yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf wedi dylanwadu’n gadarnhaol ar berfformiadau’r tîm.”

Trefnu’r gêm yn Stadiwm Principality yw’r cam nesaf yn uchelgais Undeb Rygbi Cymru i lenwi’r Stadiwm ar gyfer ymweliad Lloegr â’r Brifddinas ym Mhencampwriaeth 2025.

Dywedodd Nigel Walker, Prif Weithredwr dros dro URC: “Bydd croesawu bechgyn Cymru adref o Ffrainc yn ddiwrnod arbennig i gefnogwyr rygbi Cymru a bydd gallu estyn croeso cynnes yn ôl i’r Stadiwm i Alun Wyn Jones, ynghŷd ag arwyr eraill y gêm, yn hynod gofiadwy.

“Mae prisiau’r tocynnau ar gyfer gemau’r Dynion a’r Menywod yn cynnig gwerth da am arian ar gyfer yr ornest yn erbyn y Barbariaid a’r gemau ym Mhencampwriaethau y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd.

“Mae gêm y Menywod yn erbyn yr Eidal yn gyfle gwych i ni ddathlu Rygbi Merched a Menywod yma yng Nghymru – gyda’r ddwy gêm gymunedol yn dilyn gornest olaf y Menywod ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2024.

“Rydym wedi datgan ein huchelgais i lenwi’r Stadiwm ar gyfer ymweliad Lloegr â Chaerdydd yn 2025 a’r gobaith yw llenwi Parc yr Arfau ar gyfer y ddwy gêm flaenorol hefyd wrth gwrs. Mae Rygbi Menywod yn dal dychymyg y cyhoedd ar hyn o bryd ac mae’n rhaid i ni fod yn uchelgeisiol ar gyfer dyfodol y gamp ar gyfer y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”

Gwenllian Pyrs ac Alex Callender yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2023.

Fel y Menywod, croesawu yr Alban, Ffrainc a’r Eidal fydd y Dynion ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness yn 2024.

Bydd y tocynnau rhataf ar gyfer y gemau hynny’n dechrau am £20 i bobl ifanc o dan 17 oed a £40 ar gyfer oedolion. Bydd prisiau tua 10,000 o’r tocynnau yn haen uchaf y Stadiwm hefyd yn gostwng yn eu pris o ganlyniad i’r ail strwythuro newydd. Ni fydd cynnydd chwaith ym mhrisiau’r tocynnau drytaf – gan eu bod wedi eu rhewi ers 2022.

Ar gyfer gêm y Dynion yn erbyn yr Eidal, gall pobl ifanc o dan 17 oed fanteisio ar ostyngiad o 50% ym mhis unrhyw sedd pris llawn.

Cyn y gemau yn y flwyddyn newydd, cofiwch bod Hannah Jones a thîm y Menywod yn herio UDA ym Mharc Eirias, Bae Colwyn ddydd Sadwrn 30 Medi am 3pm.

Bydd y gêm brawf honno yn baratoad gwych i garfan Ioan Cunningham, sy’n chweched ymhlith detholion y byd, cyn iddynt deithio i Seland Newydd i gystadlu yn haen uchaf y WXV.

Bydd yr ornest ym Mharc Eirias yn gyfle i gefnogwyr y gogledd weld y tîm rhyngwladol ar garreg eu drws cyn i’r garfan deithio i Seland Newydd i herio Pencampwyr y Byd, Awstralia a Chanada.

Gallwch brynu tocynnau ar gyfer y gêm rhwng Menywod Cymru a Menywod yr Unol Daleithiau ym Mae Colwyn am cyn lleied â £5 i oedolion yma: www.venuecymru.co.uk/cymru-v-usa

Cymru v Y Barbariaid 2023 – Gwybodaeth Tocynnau

Cymru v Y Barbariaid, Stadiwm Principality, Sadwrn 4 Tachwedd 2.30pm

CAT A £60, CAT B £40, CAT C £20 gyda gostyngiad o 50% ar gael ar bob tocyn i bobl ifanc o dan 17 oed.

 Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Dynion 2024 – Gwybodaeth Tocynnau

Cymru v Yr Alban, Stadiwm Principality, Sadwrn 3 Chwefror 4:45pm

CAT A £115, CAT B £105, CAT C £85, CAT D £50, Ardal Heb Alcohol £85

Cymru v Ffrainc, Stadiwm Principality, Sul 10 Mawrth 3:00pm

CAT A £115, CAT B £105, CAT C £85, CAT D £50, Ardal Heb Alcohol £85

Cymru v Yr Eidal, Stadiwm Principality, Sadwrn 16 Mawrth 2:15pm

CAT A £80 (Dan 17 £40), CAT B £70 (Dan 17 £35), CAT C £60 (Dan 17 £30), CAT D £40 (Dan 17 £20), Ardal Heb Alcohol £60 (Dan 17 £30).

Dylai cefnogwyr sy’n dymuno prynu pecyn lletygarwch ar gyfer gemau Chwe Gwlad y Dynion neu’r Barbariaid, ymweld â WRU.WALES/VIP  nawr.

Ar gyfer pecynnau Gwely & Brecwast yng Nghwesty’r Parkgate ewch i: https://www.theparkgatehotel.wales

Mae pecynnau lletygarwch swyddogol ar gael drwy Events International https://eventsinternational.co.uk ac mae Pecynnau Teithio Swyddogol ar gael drwy Gullivers Sports Travel https://gulliverstravel.co.uk/events

Gellir cyfnewid tocynnau yn swyddogol twy URC yma: https://welshrugbyticketexchange.seatunique.com/

Pencampwriaeth Chwe Gwlad Menywod Cymru 2024 – Gwybodaeth Tocynnau

Cymru v Yr Alban, Parc yr Arfau, Sadwrn 23 Mawrth 4:45pm

Cymru v Ffrainc, Parc yr Arfau, Sadwrn 21 Ebrill 3:15pm

Cymru v Yr Eidal, Stadiwm Principality, Sadwrn 27 Ebrill 12:15pm

£10 oedolion / £5 Dan17 – sefyll ar gyfer gemau Yr Alban a Ffrainc

£15 oedolion / £7.50 Dan17 – eistedd ar gyfer gemau Yr Alban a Ffrainc

£10 oedolion / £5 Dan17 – seddi yn haen isaf y Stadiwm ar gyfer gêm Yr Eidal

£15 oedolion / £7.50 Dan17 – seddi yn haen ganol y Stadiwm ar gyfer gêm Yr Eidal

Bydd tocynnau ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod 2024 yn mynd ar werth i’r cyhoedd ddydd Iau 21 Medi 2023 am 10 o’r gloch y bore. www.wru.wales/tickets

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Manylion Tocynnau’r Chwe Gwlad a’r Menywod i chwarae’n Stadiwm Principality
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Manylion Tocynnau’r Chwe Gwlad a’r Menywod i chwarae’n Stadiwm Principality
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Manylion Tocynnau’r Chwe Gwlad a’r Menywod i chwarae’n Stadiwm Principality
Rhino Rugby
Sportseen
Manylion Tocynnau’r Chwe Gwlad a’r Menywod i chwarae’n Stadiwm Principality
Manylion Tocynnau’r Chwe Gwlad a’r Menywod i chwarae’n Stadiwm Principality
Manylion Tocynnau’r Chwe Gwlad a’r Menywod i chwarae’n Stadiwm Principality
Manylion Tocynnau’r Chwe Gwlad a’r Menywod i chwarae’n Stadiwm Principality
Manylion Tocynnau’r Chwe Gwlad a’r Menywod i chwarae’n Stadiwm Principality
Manylion Tocynnau’r Chwe Gwlad a’r Menywod i chwarae’n Stadiwm Principality
Amber Energy
Opro
Manylion Tocynnau’r Chwe Gwlad a’r Menywod i chwarae’n Stadiwm Principality