Enillodd Lowri Norkett, sy’n 28 oed, bump o gapiau rhyngwladol dros Gymru, wrth iddi ddilyn ôl traed ei chwaer iau Elli, fu farw mewn damwain car yn 2017, a hithau ond yn 20 oed.
Cyn troi ar Rygbi’r Undeb fe gynrychiolodd Lowri Norkett ei gwlad yng nghampau Rygbi’r Cynghrair a Phêl Rwyd.
Wedi iddi golli ei chwaer, fe wnaeth hi addewid i’w hun y byddai’n efelychu camp Elli trwy chwarae Rygbi’r Undeb dros ei gwlad. Gwireddwyd y freuddwyd honno pan enillodd ei chap cyntaf yn erbyn Canada yn Nova Scotia yn 2022.
O ganlyniad i’w gwaith caled a’i hymroddiad, fe chwaraeodd Lowri ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac yng Nghwpan y Byd hefyd.
Penderfynodd geisio cynrychioli Cymru ar yr asgell, fel ei chwaer, er mwyn talu teyrnged bersonol iddi. Llwyddodd wneud hynny wrth gwrs, ac fe chwaraeoedd hi yn erbyn Lloegr eleni pan oedd Parc yr Arfau o dan ei sang.
Cyn ei marwolaeth, Elli Norkett oedd y chwaraewr ieuengaf yng Nghwpan y Byd yn 2014, ac fe enillodd hi gyfanswm o bedwar cap.
Dywedodd Lowri Norkett: “Does dim amheuaeth mai talu teyrnged i fy chwaer fach oedd y prif gymhelliad dros wneud popeth o fewn fy ngallu i chwarae dros Gymru a gwisgo’r crys coch. Mae’n rhaid i mi gyfaddef bod gwneud y penderfyniad i ymddeol wedi bod yn anodd gan bod gennyf lawer iawn o ffrindiau oes yn y garfan.
“Gyda’n gilydd, ry’n ni wedi creu atgofion a rhannu profiadau unigryw fydd yn anodd i bobl eraill eu deall o bosib. Rwyf wedi profi amseroedd heriol iawn ar y siwrnai hon hefyd ac rwy’n hynod o ddiolchgar i bawb sydd wedi fy helpu i dalu fy nheyrnged bersonol i Elli.
“Rwy’n teimlo fy mod wedi llwyddo cyflawni yr hyn yr oeddwn eisiau ei wneud. Doedd hynny ddim yn hawdd. Yn wir, does dim yn rhwydd fel athletwr elît, ond rwy’n fodlon fy mod wedi llwyddo gwireddu fy amcan gwreiddiol.
“Fe briodais yn ddiweddar, ac mae hynny a’r ffaith fy mod wedi cael cynnig swydd newydd hefyd wedi newid fy mlaenoriaethau rhywfaint. Doeddwn i ddim yn bwriadu ymddeol mor gynnar â hyn, ond roedd y sicrwydd ariannol gafodd ei gynnig i mi, yn anodd i’w anwybyddu.
“Hoffwn ddiolch i fy nheulu, ffrindiau, cyd-chwaraewyr, hyfforddwyr a’r staff am eu cefnogaeth a’u hamser, sydd wedi caniatau i mi dalu fy nheyrnged i Elli. Fyddai gwireddu fy mwriad ddim wedi bod yn bosib heb y bobl hyn.
“Hoffwn ddymuno’r gorau i Hannah Jones a’r garfan yn y WXV yn Seland Newydd – ‘rwy’n gwybod y gwnewch chi greu argraff yno.”
Dywedodd Prif Hyfforddwr Menywod Cymru, Ioan Cunningham: “Mae siwrnai Lowri wedi bod yn unigryw ac wedi ysbrydoli pawb o’i chwmpas. Mae hi wedi cyflawni popeth y dywedodd hi y bydde’ hi’n ei wneud. Faint ohonon ni all ddweud yr un peth?
“Mae’n anodd meddwl am stori ac ymdrech mwy ysbrydoledig y myd y campau – heb sôn am y byd rygbi.
“Fe osododd hi nod iddi hi ei hun i ddechrau chwarae camp ei chwaer, mabwysiadu ei safle hi ar y maes a chynrychioli ei gwlad yn y safle hwnnw – ac fe lwyddodd hi wneud hynny.
“Roedd cyflwyno ei chap cyntaf iddi mas yng Nghanada yn fraint. Roedd hi’n llawn haeddu gwisgo’r crys 14 y diwrnod hwnnw.
“Rwyf i, a’r garfan gyfan yn dymuno’r gorau iddi.”