Mae pedwar penodiad newydd wedi eu cadarnhau mewn da bryd cyn i’r garfan gystadlu yn haen uchaf cystadleuaeth newydd y WXV ynghŷd â Seland Newydd, Lloegr, Ffrainc, Awstralia a Chanada.
Mae Gwennan Williams wedi cael ei phenodi’n Feddyg Tîm Cymru ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio fel meddyg ar ddiwrnod gêm gyda’r Scarlets.
Elin Drake yw Therapydd Chwaraeon newydd y tîm ac fe’i penodwyd wedi iddi greu argraff hynod ffafriol ar gyfnod o interniaeth gyda Rygbi Caerdydd.
Eve Holcombe yw’r Cydlynydd Cit newydd a hynny wedi cyfnodau’n gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a chlwb Pêl-droed Caerdydd.
Angela Daw, sydd wedi gweithio i Undeb Rygbi Cymru ers chwe blynedd, fydd Rheolwr Tîm Cymru ar gyfer cystadlaethau y WXV1 a’r Chwe Gwlad tra bo Hannah John ar gyfnod mamolaeth.
Bydd Cymru yn wynebu Unol Daleithiau America yn Stadiwm CSM ym Mae Colwyn ddydd Sadwrn, 30 Medi (CG: 2:30pm)
Gemau WXV Cymru
- Canada v Cymru, Dydd Sadwrn, Hydref 21, Stadiwm Sky, Wellington (CG: 4pm amser lleol)
- Seland Newydd v Cymru, Sadwrn, Hydref 28, Stadiwm Forsyth Barr, Dunedin (CG: 4pm amser lleol)
- Awstralia v Cymru, Dydd Gwener, Tachwedd 3, Stadiwm Go Media Mount Smart, Auckland (CG: 7pm amser lleol)
Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Rydym yn croesawu pob un o’r pedwar aelod newydd ac maen nhw i gyd wedi cael eu penodi oherwydd ein bod yn credu y byddan nhw’n ychwanegu arbenigedd gwirioneddol at yr hyn sydd gennym yn barod.
“Gofynnwch i unrhyw chwaraewr neu hyfforddwr a byddant i gyd yn cadarnhau pa mor bwysig yw’r tîm sydd y tu ôl i’r tîm. Maen nhw’n allweddol wrth osod y safonau a chreu’r diwylliant cywir ar gyfer pob tîm llwyddiannus.
“Yn ddiweddar fe wnaethon ni gyhoeddi bod saith chwaraewyr proffesiynol arall wedi eu cadarnhau – ac mae cael y staff sydd â’r arbenigedd i’w cefnogi, yn hanfodol wrth i ni barhau i fuddsoddi mewn rygbi menywod yma yng Nghymru.
“Byddwn yn wynebu timau yn y WXV sy’n cymryd camau breision ar y cae oherwydd y buddsoddiad maen nhw’n ei wneud oddi-arno. Ry’n ni’n gwybod bod rhaid i ni barhau i fuddsoddi a gwella ymhellach er mwyn bod yn gystadleuol wrth i ni anelu at Gwpan y Byd 2025.”
Dywedodd Nigel Walker, Prif Weithredwr Dros Dro URC: “Mae gennym uchelgais o adeiladu rhaglen o’r radd flaenaf ar gyfer ein menywod a’r weledigaeth glir yw creu tîm sy’n gallu cystadlu â goreuon yn y byd.
“Mae’r penodiadau hyn yn gam hanfodol arall yn y broses o geisio gwireddu uchelgeisiau’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff. Mae’n rhaid i ni greu amgylchedd broffesiynol i gyd-fynd â’n gweledigaeth, er mwyn dangos i chwaraewyr ifanc yng Nghymru y gallwn eu harwain ar daith i wireddu eu breuddwydion.”