Bydd y garfan yn teithio o’u canolfan ymarfer yn Versailles ger Paris i ddinas Lyon heno.
Mae Adam Beard wedi ei enwi’n yr ail reng a bydd yn ennill ei 50fed cap dros ei wlad nos Sul. Will Rowlands fydd y clo arall.
Jac Morgan fydd y capten a bydd yn dechrau ei drydedd gêm o’r Bencampwriaeth eleni wedi iddo gymryd lle Tommy Reffell ar yr eiliad olaf yn erbyn Portiwgal y penwythnos diwethaf.
Mae Taulupe Faletau a Louis Rees-Zammit wedi eu dewis i herio’r Wallabies hefyd. Nhw fydd yr unig ddau chwaraewr arall i ddechrau tair gêm Cymru hyd yma.
Mae Aaron Wainwright wedi ei ddewis ar ochr dywyll y rheng ôl i gydweithio gyda Faletau a Morgan.
Josh Adams (asgell) a Liam Williams (cefnwr) fydd yn cwblhau’r tri ôl ymysg yr olwyr gyda Rees-Zammit.
Nick Tompkins a George North sydd wedi eu dewis yng nghanol cae a Gareth Davies a Dan Biggar sydd wedi eu ffarfrio fel haneri gan Warren Gatland.
Yn y rheng flaen, mae Ryan Elias wedi ei ddewis yn fachwr ar gyfer ei bedwerydd ymddangosiad yng Nghwpan y Byd, gyda Gareth Thomas yn brop pen tynn a Tomas Francis yn brop pen rhydd.
Bydd Tomos Williams, Gareth Anscombe a Rio Dyer yn cynnig opsiynau gwahanol o’r fainc o safbwynt yr olwyr.
Elliot Dee, Corey Domachowski a Henry Thomas fydd yn cynnig arbenigedd rheng flaen fel eilyddion. Nid yw Thomas erioed wedi ymddangos yng Nghwpan y Byd o’r blaen. Dafydd Jenkins a Taine Basham yw’r ddau eilydd arall sydd wedi eu henwi ar y fainc er mwyn cynnig gwahanol opsiynau o safbwynt yr ail-reng a’r rheng ôl.
Dywedodd Warren Gatland: “Ry’n ni’n garfan hapus wrth edrych ymlaen at y gêm hon. Mae gennym ddwy fuddugoliaeth a deg o bwyntiau. Mae hyder amlwg yn y garfan ac mae’r sesiynau ymarfer wedi bod ag awch arbennig iddyn nhw’r wythnos hon.
“Mae pawb eisiau bod yn rhan o’r garfan ar gyfer y gêm ac felly’n naturiol mae nifer o chwaraewyr yn siomedig. Dyna’n union beth sydd ei angen arnom – sef cystadleuaeth gref ym mhob safle.
“Mae pob gêm yng Nghwpan y Byd yn galed gyda phwysigrwydd arbennig yn perthyn iddyn nhw. Mae gan Awstralia chwaraewyr arbennig o ddawnus ac fe fyddant yn benderfynol i berfformio’n gryf yn ein herbyn ddydd Sul.
“Roeddwn yn hapus gyda chywirdeb ein chwarae yn erbyn Ffiji – ond mae’n deg dweud nad oeddem gystal yn erbyn Portiwgal. Ein nod yw gwella bob wythnos yn y gystadleuaeth hon ac felly bydd yn rhaid i ni gymryd ein cyfleoedd yn erbyn Awstralia a’u gosod nhw o dan gryn bwysau hefyd.
“Os y byddwn y chwarae fel yr ydw i’n gwybod y gall y bechgyn berfformio – a hynny am yr 80 munud cyfan – fe fyddwn yn anodd iawn i’n curo.”
Tîm Cymru i wynebu Awstralia yn Stadiwm OL Lyon yng Nghrŵp C o Gwpan Rygbi’r Byd 2023. Ddydd Sul 24 Medi 8pm BST. Yn fyw ar S4C ac ITV.
- Liam Williams (Kubota Spears – 86 cap)
- Louis Rees Zammit (Caerloyw – 29 cap)
- George North (Gweilch – 115 cap)
- Nick Tompkins (Saraseniaid – 29 cap)
- Josh Adams (Caerdydd – 52 cap)
- Dan Biggar (RC Toulonnais – 110 cap)
- Gareth Davies (Scarlets – 71 cap)
- Gareth Thomas (Gweilch – 23 caps)
- Ryan Elias (Scarlets – 36 cap)
- Tomas Francis (Provence – 74 cap)
- Will Rowlands (Racing 92 – 26 cap)
- Adam Beard (Gweilch – 49 cap)
- Aaron Wainwright (Dreigiau – 40 cap)
- Jac Morgan (Gweilch – 13 cap) capten
- Taulupe Faletau (Caerdydd – 102 cap)
Eilyddion
- Elliot Dee (Dreigiau – 44 cap)
- Corey Domachowski (Caerdydd – 4 cap)
- Henry Thomas (Montpellier – 2 gap)*
- Dafydd Jenkins (Caerwysg – 9 cap)
- Taine Basham (Dreigiau – 14 cap)
- Tomos Williams (Caerdydd – 50 cap)
- Gareth Anscombe (Suntory Sungoliath – 36 cap)
- Rio Dyer (Dreigiau – 11 cap)
* ymddangosiad cyntaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd