Neidio i'r prif gynnwys
Hannah Jones

Bydd Capten Cymru, Hanna Jones yn ennill ei 50fed cap.

Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yn WXV1

Mae’r Prif Hyfforddwr, Ioan Cunningham wedi enwi tîm Menywod Cymru ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf erioed yn y WXV1 yn erbyn Canada yn Stadiwm Sky, Wellington ddydd Sadwrn 21 Hydref 2023. (4pm Amser Lleol).



Rhannu:

Bydd y capten, Hannah Jones yn ennill ei 50fed cap yn erbyn Canada. Fe gafodd ei galw i’r garfan ryngwladol yn wreiddiol pan ond yn 15 oed a gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf dros ei gwlad yn 16 oed, yn y fuddugoliaeth o 39-3 yn erbyn yr Alban yn 2015.

Bydd Hannah Jones, sy’n 26 oed yn bartner i Kerin Lake yn y canol – sef yr un bartneriaeth â honno yn erbyn yr Albanwyr ar gyfer ei chap cyntaf un. Mae’r cydchwarae rhwng y ddwy yn ddeallus a chryf ac yn cynnig gwir her i Ganada ar gyfer yr ornest agoriadol hon.

Mae Ioan Cunningham wedi dewis yr un pymtheg cychwynol ar gyfer y gêm yn erbyn Canada â’r tîm gurodd yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf erioed o 38-18 yn Stadiwm CSM, Bae Colwyn fis diwethaf – cyn i’r garfan deithio allan i Seland Newydd.

Mae newid ar y fainc, gyda’r asgellwr profiadol Carys Williams-Morris yn cael ei chynnwys yn y garfan i herio Canada – sydd yn bedwerydd ymhlith detholion y byd ar hyn o bryd.

Dywedodd Ioan Cunningham: “Fe berfformiodd y tîm yn dda yn erbyn yr Unol Daleithiau ym Mae Colwyn fis diwethaf ac felly maen nhw wedi cael eu gwobrwyo am hynny.

“Bydd profiad Carys Williams-Morris a’r dylanwad y bydd hi’n ei gael wrth gamu o’r fainc yn werthfawr ac allweddol iawn hefyd. Mae’r holl garfan yn gyffrous iawn ar gyfer y gêm agoriadol hon yn y WXV1 a bydd chwarae yn erbyn un o dimau gorau’r byd yn llinyn mesur da iawn i ni.

“Fe gafodd Canada gêm agos yn erbyn Lloegr yn ddiweddar ac ry’n ni’n gwybod eu bod yn dîm corfforol. Wedi dweud hynny, mae’n carfan ni wedi gweithio’n galed iawn wrth baratoi ar gyfer yr ornest yma ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at chwarae yn y ‘Cake Tin’ – fel mae’r stadiwm yn cael ei hadnabod yn lleol.

“Bydd yr achlysur yn un arbennig iawn i Hannah Jones, ei theulu a gweddill y garfan – wrth iddi ennill ei 50fed cap. Ers ennill ei chap cyntaf yn groten 16eg oed mae hi wastad wedi dangos ei bod yn arweinydd arbennig ar y cae – ac oddi arno hefyd. Dyna un o’r prif resymau pam fod gan bawb gymaint o barch tuag ati.”



Cymru v Canada, Stadiwm Sky, Wellington, Sadwrn, Hydref 21ain. (4pm Amser Lleol)
15. Jasmine Joyce
14. Lisa Neumann
13. Hannah Jones (capten)
12. Kerin Lake.
11. Carys Cox
10. Robyn Wilkins
9. Keira Bevan;
1. Gwenllian Pyrs
2. Carys Phillips
3. Sisilia Tu’ipulotu
4. Abbie Fleming
5. Georgia Evans
6. Alisha Butchers
7. Alex Callender
8. Bethan Lewis (Îs-gapten)

Eilyddion
16. Kelsey Jones
17. Abbey Constable
18. Donna Rose
19. Kate Williams
20. Sioned Harries
21. Meg Davies
22. Lleucu George
23. Carys Williams-Morris

Gemau Cymru yn y WXV1


* Canada v Cymru, Sadwrn, Hydref 21ain, Stadiwm Sky, Wellington  (4pm Amser Lleol)
* Seland Newydd v Cymru, Sadwrn, Hydref 28ain, Stadiwm Forsyth Barr, Dunedin (4pm Amser Lleol)
* Awstralia v Cymru, Gwener, Tachwedd 3ydd,Stadiwm Media Mount Smart, Auckland (7pm Amser Lleol)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yn WXV1
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yn WXV1
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yn WXV1
Rhino Rugby
Sportseen
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yn WXV1
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yn WXV1
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yn WXV1
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yn WXV1
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yn WXV1
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yn WXV1
Amber Energy
Opro
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yn WXV1