Neidio i'r prif gynnwys
Cymru’n cael crasfa gan y Crysau Duon

28.10.23 - Kate Williams yn ei chanol hi yn erbyn Seland Newydd.

Cymru’n cael crasfa gan y Crysau Duon

Dioddefodd Menywod Cymru eu colled waethaf – o 70-7  yn erbyn Pencampwyr y Byd Seland newydd yn Dunedin heddiw.

Rhannu:

Hon oedd ail golled tîm Ioan Cunningham o’r WXV1 gan iddynt fethu ag ennill gornest gorfforol a chystadleuol yn erbyn Canada wythnos ynghynt. Bydd eu gêm olaf o’r gystadleuaeth yn erbyn Awstralia yn Auckland ymhen wythnos.

Cyn dechrau’r ornest, ‘roedd y Cymry’n ymwybodol nad oeddent erioed wedi curo’r ‘Black Ferns’ ac ‘roedd y ddwy golled yn eu herbyn yn ystod Cwpan y Byd y llynedd yn dal yn fyw yn y cof.

Er i garfan Ioan Cunningham idlio dros haner cant o bwyntiau yn y ddwy gêm honno – y gobaith clir oedd cau’r bwlch hwnnw a chystadlu’n wirioneddol gyda Phencampwyr y Byd o dan do Stadiwm Forsyth Barr. Yn anffodus nid felly oedd hi fod gan i Seland Newydd groesi am 12 cais a sgoriwyd 7 o’r ceisiau hynny gan yr asgellwyr Ruby Tui a Mererangi Paul.

Roedd y Cymry ar y droed ôl yn gynnar ac o fewn y 18 munud cyntaf ‘roeddent wed ildio 2 gais a 5 cic gosb ac ‘roedd Nel Metcalfe wedi ei danfon i’r cell cosb. Nid y dechreuad y byddai tîm hyfforddi’r crysau cochion wedi dymuno ei gael.

Er i Gymru gystadlu’n gryf ymhlith y blaenwyr yn ystod y ddwy ornest y llynedd – ‘roedd Seland Newydd yn rheoli pob agwedd o’r gêm hon. Ar yr achlysuron prin y llwyddwyd i fentro i diriogeath eu gwrthwynebwyr – fe gollwyd y meddiant gan y Cymry ac fe’i cosbwyd yn llym gan Bencampwyr y Byd.

‘Roedd tacteg Seland Newydd i fwydo’r bêl i’r esgyll yn hynod effeithiol – ac er bod Ruby Tui eisoes wedi croesi deirgwaith – ‘roedd ei cham a’i herc arweiniodd at ei phedwerydd cais yn gofiadwy. Pedwar cais rhyngwladol mewn 28 munud yn unig. Tipyn o seren.

Fe gafodd Cymru gyfnod byr o feddiant cyn yr egwyl – ond doedd eu chwarae ddim yn ddigon clinigol i drafferthu eu gwrthwynebwyr na’r sgorfwrdd ac felly 27-0 oedd hi wrth droi.

Gan i’r Crysau Duon gael eu clwyfo yn y golled yn erbyn Ffrainc yn eu gêm agoriadol yn y WXV1– ‘roeddent yn benderfynol o daro ‘nôl yn galed yn Dunedin – a doedd dim tynnu’r troed oddi ar y sbardun i fod yn yr ail hanner chwaith.

Parhau i ildio ciciau cosb o dan bwysau oedd hanes y Cymry ac ildiwyd dau gais  yn yr 13 munud wedi troi o’r herwydd.

Erbyn hynny ‘roedd Sisilia Tu’ipulotu, Meg Davies a Bryonie King wedi dod i’r maes ac am gyfnod byr fe wellodd pethau i’r crysau cochion. Wedi chwarter awr o’r ail gyfnod croesodd Abbie Fleming am unig gais y gêm i’r ymwelwyr a throswyd hwnnw gan Lleucu George.

Dim ond codi gwrychyn y Crysau Duon wnaeth hynny ac yn y 25 munud oedd yn weddill – fe hawliodd y tîm cartref 5 cais arall gan sicrhau’r fuddugoliaeth fwyaf erioed yn erbyn Cymru.

Gallai pethau fod wedi bod hyd yn oed yn waeth oni bai am berfformiad amddiffynol arwrol Jasmine Joyce. ‘Roedd ei thaclo grymus, a’i gallu i gipio’r meddiant ar sawl achlysur yn cynnig llygedyn o obaith am well perfformiad a gwell canlyniad yn erbyn Awstralia yn Auckland ddydd Sadwrn nesaf.

Sgorwyr: Ceisiau: Mererangi Paul (3), Ruby Tui (4), Amy Du Plessis, Katelyn Vahaakolo, Ruahei Demant, Lucy Jenkins (2)
Trosiadau: Renee Holmes (5)

Cais: Abbie Fleming; Trosiad: Lleucu George

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n cael crasfa gan y Crysau Duon
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n cael crasfa gan y Crysau Duon
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n cael crasfa gan y Crysau Duon
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru’n cael crasfa gan y Crysau Duon
Cymru’n cael crasfa gan y Crysau Duon
Cymru’n cael crasfa gan y Crysau Duon
Cymru’n cael crasfa gan y Crysau Duon
Cymru’n cael crasfa gan y Crysau Duon
Cymru’n cael crasfa gan y Crysau Duon
Amber Energy
Opro
Cymru’n cael crasfa gan y Crysau Duon