Ganed Gethin ym Mlaendulais ac fe gafodd yrfaoedd nodedig yn y byd rygbi ac ym myd y gyfraith.
Ef oedd 11eg Ysgrifennydd URC a’r olaf i wneud y swydd honno cyn i’r Undeb droi at fodel cyflogi Prif Weithredwr yn hytrach nag Ysgrifennydd yn 2002.
Dennis Gethin oedd 40fed Llywydd Undeb Rygbi Cymru (2007 a 2019).
Dim ond Horace Lyne fu’n Llywydd ar yr Undeb am gyfnod hwy na Dennis Gethin. (1906-1947).
Bu Gethin yn Gadeirydd ar Ymddiriedolwyr Ymddiredolaeth Elusennol Rygbi Cymru hefyd.
“Yn ystod ei gyfnod o 12 mlynedd fel Llywydd, fe hawliodd barch am ei waith caled, ei ymroddiad a’i natur foneddigaidd yn ogystal â’i hiwmor heintus,” dywedodd Richard Collier-Keywood, Cadeirydd Presennol Undeb Rygbi Cymru.
“Er iddo ddilyn yn ôl traed rhai o fawrion gweinyddol y gamp – llwyddodd i weithredu’n effeithiol ac urddasol gan osod stamp ei hun ar y gwaith.
“Yn 2016, derbyniodd OBE am ei wasanaeth i Rygbi Cymru yn dilyn ei gyfnod o bum mlynedd yn Ysgrifennydd yr Undeb.
“Bydd yn cael ei gofio am ei waith di-flino wrth hyrwyddo gwaith elusennol yr Undeb a’i ymrwymiad i’r unigolion oedd yn derbyn cefnogaeth hefyd.
“Mae cydymdeimlad yr holl deulu rygbi yma yng Nghymru yn cael ei estyn at Jan, ei deulu a’i ffrindiau. ‘Roedd Dennis yn was hynod ffyddlon i’r gamp yng Nghymru a bydd gwir golled ar ei ôl.”
Cyn ymuno gydag Undeb Rygbi Cymru, bu Dennis Gethin yn Brif Weithredwr ar Gyngor Taf Elai rhwng 1982 ac 1996 ac wedi ei gyfnod gyda’r Undeb, bu’n aelod o Gyngor Darlledu’r BBC yng Nghymru rhwng 2004-2009.
Ysgol Ramadeg Castell Nedd oedd ei feithrinfa rygbi gyntaf cyn iddo astudio’r gyfraith yng Nghaergrawnt. Enillodd ddau gap dros Ysgolion Uwchradd Cymru yn 1963 pan gurwyd Lloegr o 14-6 a hawliwyd gêm gyfartal o bum pwynt yr un yn erbyn Ffrainc.
Tra ei fod yng Ngholeg Selwyn yng Nghaergrawnt cafodd ei ddewis i herio’r Crysau Duon. Yn ystod ei gyfnod yno – cafodd ei ddewis i wynebu’r tair gwlad o hemisffer y de – cyn iddo ganolbwytio ar ei astudiaethau a’i waith cyfreithiol yn 1971.
Yn ystod ei yrfa rygbi, cynrychiolodd Flaendulais, Abertawe a Chastell Nedd fel bachgen ysgol – a thra’r oedd yng Nghaergrawnt ymunodd â chlwb Caerdydd. Gwnaeth 109 o ymddangosiadau dros y clwb ac yn ystod tymor 1968-69 fe sgoriodd 199 o bwyntiau – oedd yn record newydd oedd wedi sefyll ers 1894.
Wedi ei gyfnod gyda chlwb y Brifddinas ymunodd â Chrwydriaid Morgannwg am gyfnod.
Cafodd Dennis Gethin ei urddo’n aelod o’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 2015.
Dywedodd ar y pryd: “Mae cael fy nerbyn i’r Orsedd yn fraint arbennig. Cefais fy magu ar aelwyd Gymraeg ym Mlaendulais ac mae’r Eisteddfod yn hynod o bwyisg i mi.”