News

Eglurhad am rifau gwallus crysau Cymru

04.02.23 - Wales v Ireland - Guinness Six Nations - Prematch pyrotechnics at Principality Stadium

Yn ystod holl gemau Cymru yng Nghwpan y Byd 2023, fe ddefnyddiodd Undeb Rygbi Cymru gwmni lleol i osod y rhifau ar ein crysau – a dyna ddigwyddodd ar gyfer yr ornest yn erbyn Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf yn erbyn Ariannin hefyd ddydd Sadwrn.

Yn anffodus, mae’n ymddangos na ddefnyddiodd y cwmni – gafodd eu hargymell gan drefnwyr y gystadleuaeth – y broses gywir wrth osod y rhifau ar y crysau ar gyfer y gêm yn erbyn yr Archentwyr.

Fe arweiniodd hynny at nifer o’r rhifau yn dod yn rhydd o gefn y crysau.

Mae’n bwysig nodi bod Macron yn darparu crysau o’r safon uchaf i Undeb Rygbi Cymru – ac nad yw gosod rhifau ar y crysau hynny, yn rhan o’u cyfrifoldeb.

Nid oedd gan y ffaith bod nifer o rifau wedi dod yn rhydd o’r crysau ddydd Sadwrn, unrhywbeth i’w wneud gyda safon cynnyrch Macron – na gweithredoedd eu staff chwaith.

Related Topics

Uncategorised
News