Er y bydd y tîm hyfforddi a’r cefnogwyr yn falch bod Cymru wedi ennill eu pedair gêm yng Nghrŵp C – gan hawlio pwynt bonws yn nhair o’r gornestau hynny hefyd – bydd colli doniau a phrofiad Faletau – sydd wedi cynrycholi ei wlad 104 o weithiau – yn ergyd drom i obeithion Cymru yn y Gystadleuaeth.
Bydd gêm nesaf Cymru’n digwydd yn y Stade de Marseilles am 4pm Ddydd Sadwrn nesaf (Hydref 14) pan fyddant yn herio enillwyr yr ornest yng Nghrŵp D rhwng Ariannin a Siapan fydd yn cael ei chwarae am Hanner Dydd yfory. (Sul 8).
Cyn y gic gyntaf yn erbyn Georgia yn Nantes (Naoned), fe anafodd Gareth Anscombe ran uchaf ei goes a bydd yr hyfforddwyr a’r holl garfan yn gobeithio na fydd yr anaf hwnnw yn golygu bod y tîm yn colli gwasanaeth ail chwaraewr dylanwadol ar gyfer gweddill Cwpan y Byd.