Fe gymrodd Warren Gatland yr awennau gyda Chymru am y tro cyntaf yn 2008 ac fe ddathlodd ein ben-blwydd yn 60 oed yn Ffrainc fis diwethaf.
Dywedodd Nigel Walker: “Er mwyn llwyddo ar y llwyfan rhyngwladol mae angen chwaraewyr a hyfforddwyr o’r radd flaenaf. Mae angen profiad, dealltwriaeth o’r gamp a gallu cyfarthrebu gwych er mwyn ennill parch ac ymddiriedaeth y chwaraewyr.
“Nid oes unrhywbeth wedi newid ers i mi wneud fy sylwadau am Warren ym mis Awst. Ers hynny mae’r garfan wedi cryfhau – a hynny mewn cyfnod cymharol fyr o dan arweiniad Warren.
“‘Rwy’n credu bod pedair blynedd addawol a chyffrous o’n blaenau.”
Yr ornest yn erbyn y Pumas oedd gêm rhif 138 wrth y llyw i Warren Gatland – a’i 24ain yng Nghwpan y Byd. Er na fydd capiau’n cael eu rhoi – y gêm yn erbyn y Barbariaid yn Stadiwm Principality ar Dachwedd 4ydd fydd ei her nesaf.
Dywedodd: “Rwy’n gyffrous am beth allwn ei gyflawni fel grŵp. Mae gennym gyfe i edrych ar ambell chwaraewr yn ystod y cyfnod nesaf yma – fel y gallwn sicrhau bod gan nifer fawr ohonynt brofiad mawr erbyn Cwpan y Byd 2027.
“Mae gennym gyfle da i feithrin perthynas agosach gyda’r rhanbarthau hefyd – gan bod nifer o newidiadau yn y timau hyfforddi wedi digwydd yn ddiweddar. Mae pawb yn gwybod nad ydi pethau wedi bod yn fêl i gyd rhwng yr Undeb a’r rhanbarthau ac fe gafodd hynny ddylanwad ar y garfan genedlaethol.
“Ry’n ni eisiau cyd-weithio gyda’r rhanbarthau oherwydd mae’n hynod o bwysig ein bod yn cadw chwaraewyr yng Nghymru.
“Mae cytundebau ambell unigolyn wedi dod i ben yn ddiweddar ac ry’n ni wedi bod yn trafod y mater gyda nhw.
“Wrth aros yng Nghymru, fe allwn edrych ar ôl y chwaraewyr yn well o safbwynt y tîm rhyngwladol a bydd hynny’n helpu ffyniant y rhanbarthau hefyd.
“Ry’n ni’n wlad fechan sydd â nifer cyfyngedig o chwaraewyr, Dyna pam ei bod hi’n bwysig i ni roi cyfleoedd i chwaraewyr ifanc fel Jac Morgan, Taine Plumtree, Sam Costelow a’u tebyg.
“Edrychwch ar berfformiadau arbennig Jac yn Ffrainc – a bydd y profiad o fod yn gyd-gapten hefyd yn werthfawr iawn.
“Mae gennym gnewyllyn da o chwaraewyr ifanc a hynod addawol – ac felly rwy’n hynod o gyffrous am yr hyn y gallwn ei gyflawni dros y pedair blynedd nesaf.”