Neidio i'r prif gynnwys
Gemau Menywod Cymru yn y WXV i’w darlledu’n fyw

Bydd gemau Cymru i'w gweld yn fyw ar S4C ac ITVX

Gemau Menywod Cymru yn y WXV i’w darlledu’n fyw

Mae Cystadleuaeth newydd y WXV yn wawr newydd i Rygbi Menywod ac mae’r cyhoeddiad am gytundeb darlledu yn allweddol yn y gwledydd sydd eisoes wedi sefydlu eu hunain a’r gwledydd sy’n datblygu’r gamp.

Rhannu:

Bydd gemau yn y tair adran – WXV1, 2 & 3 yn cael eu ffrydio’n fyw ac am ddim ar blatfform RugbyPassTV.

Bydd y WXV yn dechrau Ddydd Gwener Hydref 13 gyda gornest yn yr Ail Haen rhwng Yr Eidal a Siapan a bydd y gemau’n dod i ben pan fydd Seland Newydd a Lloegr yn herio’i gilydd am y tro cyntaf ers Rownd Derfynol Cwpan y Byd 2021 Ddydd Sadwrn Tachwedd 4.

Bydd Sky Seland Newydd a Stan Sport yn Awstralia yn dangos pob un o’r 9 gêm yn WXV1 tra bydd TF1 yn dangos holl gemau Ffrainc.

Bydd Partneriaid Darlledu Cwpan y Byd ITV yn dangos tair gêm Cymru a Lloegr yn WXV1 ar ITVX tra bydd S4C hefyd yn darlledu holl gemau Cymru.

Bydd y darlledwyr SuperSport yn dangos holl gemau WXV2 gan ddangos 9 gêm o Stellenbosch a Cape Town. Bydd y gemau hyn hefyd i’w gweld yn fyw ar Sky Seland Newydd.

Mae’r darlledwyr BEIN o Dde-ddwyrain Asia wedi ymrwymo i ddangos y gemau o’r tair adran sy’n cadarnhau bod apêl Rygbi Menywod yn tyfu led-led y byd.

Dywedodd Sally Horrox, Pennaeth Rygbi Menywod World Rugby: “Mae’r ffaith bod y gemau hyn yn mynd i fod ar gael i’w gwylio ym mhob rhan o’r byd yn hynod o gyffrous. Gall yr holl gemau gael eu gweld am ddim ar ein platform ffrydio RugbyPassTV a bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth a diddordeb yn y gystadleuaeth newydd a gwych yma.”

Gemau WXV1 Cymru.

  • Canada v Cymru, Dydd Sadwrn, Hydref 21ain, Stadiwm Sky, Wellington (4pm amser lleol)
  • Seland Newydd v Cymru, Sadwrn, 28ain, Stadiwm Forsyth Barr, Dunedin (4pm amser lleol)
  • Awstralia v Cymru, Dydd Gwener, Tachwedd 3ydd, Stadiwm Go Media Mount Smart, Auckland (7pm amser lleol)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gemau Menywod Cymru yn y WXV i’w darlledu’n fyw
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gemau Menywod Cymru yn y WXV i’w darlledu’n fyw
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gemau Menywod Cymru yn y WXV i’w darlledu’n fyw
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Gemau Menywod Cymru yn y WXV i’w darlledu’n fyw