Neidio i'r prif gynnwys
Ioan Cunningham

Ioan Cunningham ac Hannah Jones

Hyfforddwr Cymru, Cunningham, yn dewis carfan o 30 ar gyfer y wxv yn Seland Newydd

Mae’r Prif Hyfforddwr, Ioan Cunningham wedi dewis carfan o 30 chwaraewr i gynrychioli Menywod Cymru yn haen uchaf Cystadleuaeth y WXV yn Seland Newydd.

Rhannu:

Mae Cymru yn chweched ymhlith detholion y byd ac mae gemau’r haen uchaf yn cynnwys chwe thîm gorau’r blaned – gan gynnwys enillwyr Cwpan y Byd – Seland Newydd, enillwyr y Gamp Lawn – Lloegr, Ffrainc, Awstralia a Chanada.

Yn ôl y disgwyl, y canolwr Hannah Jones fydd capten y garfan, sy’n cynnwys nifer fawr o’r chwaraewyr lwyddodd i ennill tair gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2023 yn erbyn Iwerddon, Yr Alban a’r Eidal. Mae’r blaenasgellwr Bethan Lewis wedi ei dewis yn is-gapten ar garfan sy’n cynnwys 16 o flaenwyr ac 14 o olwyr ar gyfer y gystadleuaeth newydd ac arloesol hon.

Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch WXV yn erbyn Canada yn Wellington cyn iddyn nhw wynebu Seland Newydd yn Dunedin ac Awstralia yn Auckland.

Mae’r asgellwr Jasmine Joyce, y blaenasgellwr Alisha Butchers, y prop Donna Rose a’r canolwr Meg Webb i gyd ac yn dychwelyd i’r garfan – mewn da bryd i ddychwelyd i Seland Newydd ar ôl iddynt ymddangos yng Nghwpan y Byd yno yn 2022.

Mae’r capiau newydd Carys Cox a Nel Metcalfe wedi cael eu dewis ar gyfer y daith hefyd wedi i’r ddwy ohonynt ennill eu capiau cyntaf yn y fuddugoliaeth o 38-18 yn erbyn yr Unol Daleithiau ym Mae Colwyn ddoe. (30/09/23). Fe sgoriodd y Cymry chwe chais wrth hawlio’r fuddugoliaeth honno y Stadiwm CSM.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Ry’n ni wedi dewis y 30 chwaraewr fydd yn creu hanes ac yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth gyntaf y WXV fis yma. Does dim amheuaeth bod tipyn o dasg o’n blaenau ond ry’n ni’n falch iawn o’r cyfle i chwarae ein rhan yn y gystadleuaeth newydd gyffrous hon.

“Fel carfan, hyfforddwyr a staff, ry’n ni’n gyffrous i brofi ein hunain yn erbyn y gorau yn y byd ac i fesur ein gwelliant cyson diweddar. Bydd y gemau anodd hyn yn dangos yn glir i ni pa mor bell yr y’n ni wedi dod. Mae’r WXV yn ddatblygiad arloesol a phwysig ar gyfer Rygbi Menywod ac mae’n allweddol wrth i ni baratoi ar gyfer Cwpan y Byd 2025.

“Roedd ein perfformiad a’n buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn yr Unol Daleithiau ddoe yn gam pendant arall i’r cyfeiriad cywir. ‘Roedd ein chwaraewyr yn gorfforol iawn – a hynny yn erbyn tîm sy’n ymfalchïo yn yr agwedd honno o chwarae.

“Ry’n ni wedi cael cyfnod o weithio’n galed iawn dros y misoedd diwethaf ac mae’r garfan wedi cael eu profi’n gorfforol ac yn feddyliol er mwyn ein paratoi ar gyfer yr heriau sylweddol sydd o’n blaenau. Mae cael galw ar ddawn a phrofiad pobl fel Jaz, Butch, Donna a Meg ar ôl bod heb eu gwasanaeth ers blwyddyn, yn rhoi hwb gwirioneddol i ni.

“Mae Carys a Nel wedi creu argraff fawr arnom fel tîm hyfforddi ac yn llawn haeddu cael eu cynnwys yn y garfan ar gyfer y daith.

“Dewis pwy i’w cynnwys a phwy i’w gadael mas o’r garfan hon yw’r peth anoddaf yr wyf wedi ei wneud hyd yma fel Hyfforddwr gan bod llawer o ddawn a chryfder gennym erbyn hyn. Mae cael y cyd-bwysedd a’r dyfnder yn y garfan yn arbennig o bwysig wrth i ni chwarae tair gêm brawf mewn tair wythnos. Mae’n amserlen heriol ond ry’n ni mewn lle da ac ry’n ni gyd yn edrych ymlaen at yr her.

“Yr unig ffordd ry’n ni am wella fel carfan yw drwy chwarae yn erbyn timau gorau’r byd. Ry’n ni’n benderfynol o wneud ein gorau gan gynrychioli’n gwlad a’n cefnogwyr hyd gorau ein gallu. Fe ysbrydolodd y garfan hon y genedl yn ystod y Chwe Gwlad eleni ac ry’n ni’n bwriadu gwneud y genedl yn falch yn Seland Newydd hefyd.”

Carfan Cymru ar gyfer WXV:

Blaenwyr: Gwenllian Pyrs, Abbey Constable, Kelsey Jones, Carys Phillips, Kat Evans, Sisilia Tu’ipulotu, Donna Rose, Cerys Hale, Abbie Fleming, Georgia Evans, Alisha Butchers, Bryonie King, Alex Callender, Kate Williams, Beth Lewis (Is-gapten), Sioned Harries.

Olwyr: Jasmine Joyce, Nel Metcalfe, Lisa Neumann, Hannah Jones (capt), Carys Cox, Meg Webb, Kerin Lake, Hannah Bluck, Carys Williams-Morris, Lleucu George, Robyn Wilkins, Niamh Terry, Keira Bevan, Meg Davies.

Gemau WXV Cymru

  • Canada v Cymru, Dydd Sadwrn, Hydref 21ain, Stadiwm Sky, Wellington (4pm amser lleol)
  • Seland Newydd v Cymru, Sadwrn, 28ain, Stadiwm Forsyth Barr, Dunedin (4pm amser lleol)
  • Awstralia v Cymru, Dydd Gwener, Tachwedd 3ydd, Stadiwm Go Media Mount Smart, Auckland (7pm amser lleol)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Hyfforddwr Cymru, Cunningham, yn dewis carfan o 30 ar gyfer y wxv yn Seland Newydd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Hyfforddwr Cymru, Cunningham, yn dewis carfan o 30 ar gyfer y wxv yn Seland Newydd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Hyfforddwr Cymru, Cunningham, yn dewis carfan o 30 ar gyfer y wxv yn Seland Newydd
Rhino Rugby
Sportseen
Hyfforddwr Cymru, Cunningham, yn dewis carfan o 30 ar gyfer y wxv yn Seland Newydd
Hyfforddwr Cymru, Cunningham, yn dewis carfan o 30 ar gyfer y wxv yn Seland Newydd
Hyfforddwr Cymru, Cunningham, yn dewis carfan o 30 ar gyfer y wxv yn Seland Newydd
Hyfforddwr Cymru, Cunningham, yn dewis carfan o 30 ar gyfer y wxv yn Seland Newydd
Hyfforddwr Cymru, Cunningham, yn dewis carfan o 30 ar gyfer y wxv yn Seland Newydd
Hyfforddwr Cymru, Cunningham, yn dewis carfan o 30 ar gyfer y wxv yn Seland Newydd
Amber Energy
Opro
Hyfforddwr Cymru, Cunningham, yn dewis carfan o 30 ar gyfer y wxv yn Seland Newydd