Neidio i'r prif gynnwys
King yn ceisio coroni ymgyrch Cymru mewn steil

Alex King

King yn ceisio coroni ymgyrch Cymru mewn steil

Mae Hyfforddwr Ymosod Cymru, Alex King yn disgwyl i chwaraewyr gadw’r safonau uchel sydd eisoes wedi eu gosod, ar gyfer y gêm yr erbyn Georgia ddydd Sadwrn.

Rhannu:

O ganlyniad i’w tair buddugoliaeth yn eu tair gornest yn y Bencampwriaeth hyd yma, mae Cymru eisoes wedi hawlio’u lle yn y Chwarteri – ond mae King yn mynnu bod perfformiad a chanlyniad proffesiynol arall yn allweddol yn Nantes brynhawn Sadwrn.

Mae’r tîm wedi sgorio 11 o geisiau yn eu tair gêm agoriadol yng Ngrŵp C a byddai pedwaredd buddugoliaeth yn efelychu eu camp yn Siapan bedair blynedd yn ôl, pan enillodd y Cymry eu pedair gêm grŵp.

O wneud hynny, byddai Cymru’n sicr o wynebu Siapan neu Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf.

Dywedodd Alex King: “ Ry’n ni eisiau ennill y gêm a pharhau gyda’r momentwm a’r safonau uchel yr ydym wedi ei greu a’u gosod hyd yma yn Ffrainc.

“Wedi i Georgia ein curo ni yng Nghaerdydd gwta 11 mis yn ôl – ac wedi eu perfformiad campus yn erbyn Ffiji yr wythnos ddiwethaf – ry’n ni’n ymwybodol iawn o’r her sylweddol fydd yn ein wynebu.

“Mae un o’u hyfforddwyr, (Joe Worsley) yn ffrind da i mi ac rwyf am geisio mynd am goffi gydag ef cyn y gêm ddydd Sadwrn.

“Roedd hi’n wych hawlio pum pwynt yn erbyn Awstralia a sicrhau’n lle yn yr Wyth Olaf.

“Roedd hynny’n gam pendant i’r cyfeiriad iawn ond wedi dweud hynny mae’n rhaid i ni orffen y gystadleuaeth yn dda hefyd.”

“Mae cyd-bwysedd ein tîm ar hyn o bryd yn fy mhlesio ac fe amlygwyd hynny yn erbyn Awstralia. Ond mae ambell agwedd o’n chwarae y gallwn gryfhau hefyd.”

Gyda Dan Biggar yn dal i wella o’r anaf i’w frest, Gareth Anscombe fydd yn parhau yn safle’r maswr ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia, wedi iddo hawlio 23 pwynt ar ôl camu o’r fainc yn erbyn y Wallabies.

Eglurodd King: “Mae anaf bychan Dan yn gwella a bydd yn barod ar gyfer y chwarteri ond mae’n rhaid canmol perfformiad Gareth. Roedd camu o’r fainc wedi dim ond naw munud o chwarae a pherfformio fel y gwnaeth yn arbennig.

“Roedd hynny’n profi pa mor allweddol yw’r bechgyn ar y fainc a chryfder y garfan yn gyffredinol.

“Cryfder y garfan hon yw’r 33 sydd yma yn Ffrainc – nid dim ond y 15 sy’n dechrau’r gemau.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
King yn ceisio coroni ymgyrch Cymru mewn steil
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
King yn ceisio coroni ymgyrch Cymru mewn steil
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
King yn ceisio coroni ymgyrch Cymru mewn steil
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
King yn ceisio coroni ymgyrch Cymru mewn steil