Aeth y Cyd-gapten Jac Morgan, Josh Adams, Ryan Elias a Johnny Williams i’r Institut Medico-Educatif (IME) Le Rondo sydd gerllaw canolfan ymarfer Cymru yn Versailles, er mwyn cynnal sesiynau addysgol ac ymarferol trwy gyfrwng rygbi – a chyfarfod y disgyblion wrth gwrs.
Cyd-drefnwyd y digwyddiad gan sefydliad y Groes Goch yn Ffrainc ac ‘roedd y pedwar chwaraewr wrth eu boddau gyda’r ymweliad.
Dywedodd Ryan Elias: “Roedd ymweld â’r IME y bore ‘ma’n brofiad gwych – yn enwedig gweld ymateb cadarnhaol a hapus y plant.
“Fe ddysgon ni sgiliau pasio a chicio iddyn nhw ac roedd modd ymarfer cario’r bêl a thaclo hefyd – oedd yn boblogaidd iawn.
“Fe liwiodd rhai disgyblion faner y Ddraig Goch a logo Cwpan y Byd. Roedd pawb yn gwenu ac yn mwynhau eu hunain.
“Roedd ymweld â’r ysgol yn gyfle i ni rannu rhai sgiliau rygbi gyda’r plant a rhannu rhywfaint o’n diwylliant ni fel gwlad hefyd.
“Erbyn diwedd y sesiwn ‘roedd pawb yn gwybod am faner Cymru a’r Ddraig Goch yn benodol. Felly fe gafodd pawb amser da.”