Bydd Prif Hyfforddwr y Barbariaid, Eddie Jones yn cael ei gynorthwyo gan Hyfforddwr newydd Seland Newydd, Scott Robertson, Jamie Roberts a Mark Jones o Gymru a Will Greenwood o Loegr.
Camodd mewnwr Ariannin Lautaro Bazan o’r fainc ym muddugoliaeth gofiadwy’r Pumas o 29-17 dros Gymru yn y chwarteri ym Marseille.
Mae hanner pac Awstralia gollodd yn erbyn Cymru yn Lyon – a’u hyfforddwr Eddie Jones yn cael cyfle buan i dalu’r pwyth rhywfaint yn dilyn y golled drom honno o 40-6 yn erbyn bechgyn Jac Morgan yng Ngrŵp C.
Bydd gan y prop Angus Bell a’r triawd o’r rheng ôl – Rob Leota, Rob Valentini a Tom Hooper bwynt i’w brofi. Felly hefyd y cefnwr Andrew Kellaway a’r maswr Ben Donaldson.
Gorfododd anaf i’w ysgwydd i’r canolwr cydnerth Len Ikitau golli Cwpan y Byd ac anafwyd y prop pen tynn Taniela Tupou cyn i’r Wallabies gwrdd â’r Cymry.
Mae cyn-gapten Awstralia, Michael Hooper ac Alun Wyn Jones, sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau rhyngwladol erioed – hefyd wedi eu henwi yng ngharfan y Barbariaid ar gyfer y gêm arbennig hon yn Stadiwm Principality ar y 4ydd o Dachwedd.
Mae tri chwaraewr o Seland Newydd wedi eu cynnwys yn y garfan hefyd – sef y prop pen rhydd Joe Moody – wynebodd dîm Cymru yng ngêm efydd Cwpan y Byd yn 2019, bachwr yr Hurricanes Asafao Aumua – sydd wedi cynrychioli’r Crysau Duon ar chwe achlysur – a maswr y Chiefs, Shaun Stevenson sydd wedi cynrychioli ei wlad unwaith hyd yma.
Bydd capten y Gweilch, Justin Tipuric hefyd yn ymuno â charfan y Barbariaid.Mae’r gêm hon yn gyfle i gefnogwyr ddweud ‘hwyl fawr a diolch’ i rai o arwyr y gamp yng Nghymru sydd newydd gyhoeddi eu bod yn ymddeol o’r llwyfan rhyngwladol – Tipuric ei hun, Alun Wyn Jones a Leigh Halfpenny hefyd.
Carfan y Barbariaid:
Blaenwyr: Asafo Aumua (Seland Newydd), Joe Moody (Seland Newydd), Peni Ravai (Ffiji), Angus Bell (Awstralia), Taniela Tupou (Awstralia), Rob Leota (Awstralia), Alun Wyn Jones (Cymru), Tom Hooper (Awstralia), Justin Tipuric (Cymru), Michael Hooper (Awstralia), Api Ratuniyarawa (Ffiji), Rob Valetini (Awstralia), Tevita Ikanivere (Ffiji)
Olwyr: Simione Kuruvoli (Ffiji), Lautaro Bazan Velez (Ariannin), Nicolas Sanchez (Ariannin), Izaia Perese (Awstralia), Selestino Ravutaumada (Ffiji), Len Ikitau (Awstralia), Ilaisa Droasese (Ffiji), Ben Donaldson (Awstralia), Andrew Kellaway (Awstralia), Shaun Stevenson (Seland Newydd)
Gallwch brynu tocynnau ar gyfer y gêm yma: wru.wales/tickets.
Prisiau: £60, £40 ac £20 – gostyngiad o 50% ar gyfer y rhai sydd o dan 17 oed.