Neidio i'r prif gynnwys
S4C i ddangos holl gemau Menywod Cymru yn y WXV

S4C i ddangos holl gemau Menywod Cymru yn y WXV

Ddydd Sadwrn bydd tîm Menywod Cymru’n creu hanes wrth gymryd rhan yng nghystadleuaeth newydd y WXV.

Rhannu:

Bydd y gystadleuaeth flynyddol newydd hon yn digwydd ar dair haen ac o ganlyniad i’r ffaith bod carfan Ioan Cunningham wedi cyrraedd y chweched safle ymhlith detholion y byd – byddant yn cystadlu yn haen uchaf y gystadleuaeth eleni.

Canada fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yn Wellington ddydd Sadwrn, cyn iddynt deithio i Dunedin yr wythnos ganlynol i wynebu’r Crysau Duon. Wythnos wedi hynny (Tachwedd 3ydd) Awstralia yn Auckland fydd yn cynnig yr her olaf ar y daith.

Bydd pob un o gemau Cymru yn y gystadleuaeth eleni yn cael eu dangos yn fyw ar S4C, Clic a Facebook y sianel. Gan bod y gemau’n digwydd yn gynnar iawn yn y bore amser Cymru – bydd y tair gêm hefyd yn cael eu hail-ddangos yn eu cyfanrwydd yn hwyrach yn y dydd.

Catrin Heledd fydd yn cyflwyno’r darllediadau ac fe ddyweddodd hi: “Mae’r buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud yn y gystadleuaeth hon yn dangos y twf sydd wedi bod ym mhoblogrwydd y gêm led-led y byd yn ddiweddar.

“Mae’r gystadleuaeth hefyd yn cynnig pwrpas a’r cyfle i’r timau chwarae mewn gemau hynod gystadleuol.

“Mae tipyn o her yn wynebu carfan Cymru gan y byddant yn wynebu Canada, Seland Newydd ac Awstralia – tri thîm sydd wedi eu dethol ym mhump uchaf y byd. Wedi dweud hynny, mae Cymru wedi cyrraedd y chwech uchaf am y tro cyntaf yn eu hanes a’r bwriad clir yw chwarae’r goreuon er mwyn gwella ymhellach.

“Nid y canlyniadau fydd popeth ar y daith hon ond fe fydd Ioan Cunningham yn disgwyl i’w garfan fod yn gystadleuol a hynny am yr 80 munud.”

Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker: “Yn dilyn eu hymrwymiad i Rygbi Cymru yn ystod Cwpan y Byd yn Ffrainc dros yr wythnosau diwethaf – mae S4C unwaith yn rhagor yn dangos eu cefnogaeth i’r gamp wrth ddarlledu’r gemau pwysig hyn i’r Menywod allan yn Seland Newydd.

“Mae’n bwysig bod merched ifanc Cymru yn cael eu hysbrydoli wrth weld y garfan genedlaethol yn perfformio ar lwyfan byd-eang ac rydym yn hynod ddiolchgar i S4C am eu hymrwymiad a’u buddsoddiad yn y gamp yng Nghymru.”

Ychwanegodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Graham Davies: “Ry’n ni wrth ein bodd ein bod yn darlledu holl gemau Cymru yn y WXV ac ry’n ni’n falch ein bod yn parhau i ddangos ein hymrwymiad i gamp y Merched a’r Menywod. Mae’r gêm yn tyfu yn ei phoblogrwydd ac ry’n ni eisiau rhoi llwyfan a sylw haeddiannol i dîm rhyngwladol y Menywod.

“Ry’n ni’n hynod falch ein bod yn chwarae’n rhan yn natblygiad rygbi yn ein gwlad ac yn gobeithio y bydd y darllediadau yn cyrraedd cynulleidfa eang iawn.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
S4C i ddangos holl gemau Menywod Cymru yn y WXV
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
S4C i ddangos holl gemau Menywod Cymru yn y WXV
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
S4C i ddangos holl gemau Menywod Cymru yn y WXV
Rhino Rugby
Sportseen
S4C i ddangos holl gemau Menywod Cymru yn y WXV
S4C i ddangos holl gemau Menywod Cymru yn y WXV
S4C i ddangos holl gemau Menywod Cymru yn y WXV
S4C i ddangos holl gemau Menywod Cymru yn y WXV
S4C i ddangos holl gemau Menywod Cymru yn y WXV
S4C i ddangos holl gemau Menywod Cymru yn y WXV
Amber Energy
Opro
S4C i ddangos holl gemau Menywod Cymru yn y WXV