Neidio i'r prif gynnwys
Tîm Cymru i herio Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf

Jac Morgan fydd yn arwain ei wlad yn y chwarteri yn erbyn Ariannin.

Tîm Cymru i herio Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi enwi ei dîm i herio Ariannin yn y Stade de Marseille yn Rownd yr Wyth Olaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2023 (Dydd Sadwrn 14 Hydref 4pm BST / 5pm amser lleol yn fyw ar S4C ac ITV).

Rhannu:

Yn dilyn y fuddugoliaeth o 43-19 yn erbyn Georgia y penwythnos diwethaf â sicrhaodd bedair buddugoliaeth mewn pedair gêm yng Ngrŵp C, mae Cymru wedi bod yn paratoi ar gyfer herio’r Archentwyr yn eu canolfan ymarfer newydd yn Toulon.

Bydd Jac Morgan yn gwneud ei bedwerydd ymddangosiad yn ystod cystadleuaeth eleni – ac yn arwain y tîm unwaith eto. Tommy Reffell (blaenasgellwr agored) ac Aaron Wainwright (Wythwr) fydd yn ymuno ag ef yn rheng ôl Cymru.

Ryan Elias sydd wedi cael ei enwi yn safle’r bachwr gyda’r propiau Gareth Thomas (pen rhydd) a Tomas Francis (pen tynn) yn cwblhau’r rheng flaen. Dyma fydd 15ed ymddangosiad Francis yng Nghwpan y Byd.

Adam Beard a Will Rowlands sydd wedi eu dewis yn bartneriaid yn yr ail reng am y trydydd tro yn ystod Cwpan y Byd 2023 – gyda’r ddau chwaraewr yn gwneud eu pedwerydd ymddangosiad yn ystod cystadleuaeth eleni.

Bydd Dan Biggar yn dychwelyd fel maswr ac mae Gareth Davies wedi ei ddewis fel mewnwr.

Bydd Nick Tompkins a George North yn parhau â’u partneriaeth yng nghanol y cae – a hynny am y pedwerydd tro yn ystod y gystadleuaeth yn Ffrainc. Hwn fydd 20fed ymddangosiad North yn yng Nghwpan y Byd – a hynny yn ei bedwaredd pencampwriaeth.

Mae Liam Williams wedi’i enwi yn gefnwr gyda Josh Adams a Louis Rees-Zammit yn cwblhau’r tri ôl.

Ymysg eilyddion Cymru bydd Dewi Lake, Corey Domachowski a Dillon Lewis yn cynnig opsiynau rheng flaen o’r fainc.

Deuawd Caerwysg, Dafydd Jenkins a Christ Tshiunza fydd ar gael i gamu o’r fainc am unrhyw newidiadau yn yr ail reng neu’r rheng ôl. Os y cawn nhw eu galw i’r maes – bydd aelod ieuengaf y garfan, Jenkins yn gwneud ei 5ed ymddangosiad o’r gystadleuaeth a Tshiunza ei 3ydd.

Tomos Williams, Sam Costelow a Rio Dyer yw’r eilyddion ar gyfer yr olwyr.

Dywedodd Warren Gatland: “Roedd gennym nod o gyrraedd Rownd yr Wyth Olaf – ac ry’n ni wedi cyflawni hynny. Nawr mae’n rhaid i ni adeiladu ar y momentwn sydd eisoes wedi ei greu.

“Mae’n gyffrous parhau â’n siwrnai wedi’r gemau grŵp ac ry’n ni’n barod ar gyfer her Rownd yr Wyth Olaf. Mae ein holl waith paratoi wedi talu ar ei ganfed hyd yma ac ry’n ni’n falch iawn o gael y cyfle o gael cystadlu yn y chwarteri.

“Ry’n ni’n disgwyl her anodd a chaled arall y penwythnos hwn yn erbyn tîm corfforol Ariannin.

“Nid ydym wedi perfformio’n berffaith eto, ond ry’n ni wedi dangos ein bod yn dîm caled i’n curo.

“Mae llawer mwy i ddod gan y garfan hon – fel unigolion ac fel uned – ac ni allwn aros i ddangos hynny ym Marseille ddydd Sadwrn.”

Tîm Cymru ar gyfer Rownd Wyth Olaf Cwpan Rygbi’r Byd 2023 yn erbyn Ariannin yn y Stade de Marseille. Dydd Sadwrn 14 Hydref, 4pm Amser Cymru / 5pm Amser Ffrainc. Yn fyw ar S4C ac ITV.

15. Liam Williams (Kubota Spears – 88 cap)
14. Louis Rees Zammit (Caerloyw – 31 cap)
13. George North (Gweilch – 117 cap)
12. Nick Tompkins (Saraseniaid – 31 cap)
11. Josh Adams (Caerdydd – 53 chap)
10. Dan Biggar (Toulon – 111 cap)
9. Gareth Davies (Scarlets – 73 chap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 25 cap)
2. Ryan Elias (Scarlets – 37 cap)
3. Tomas Francis (Provence – 76 chap)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 28 cap)
5. Adam Beard (Gweilch – 50 cap)
6. Jac Morgan (Gweilch – 14 cap) Capten
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 12 cap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 42 cap)

Eilyddion
16. Dewi Lake (Gweilch – 11 cap)
17. Corey Domachowski (Caerdydd – 5 cap)
18. Dillon Lewis (Harlequins – 53 chap)
19. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 11 cap)
20. Christ Tshiunza (Caerwysg – 9 cap)
21. Tomos Williams (Caerdydd – 52 cap)
22. Sam Costelow (Scarlets – 7 cap)
23. Rio Dyer (Dreigiau – 13 chap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm Cymru i herio Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm Cymru i herio Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm Cymru i herio Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf
Rhino Rugby
Sportseen
Tîm Cymru i herio Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf
Tîm Cymru i herio Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf
Tîm Cymru i herio Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf
Tîm Cymru i herio Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf
Tîm Cymru i herio Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf
Tîm Cymru i herio Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf
Amber Energy
Opro
Tîm Cymru i herio Ariannin yn Rownd yr Wyth Olaf