Neidio i'r prif gynnwys
Tri chyfarwyddwr annibynnol newydd arall ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru

Jennifer Mathias - un o aelodau annibynol newydd Undeb Rygbi Cymru.

Tri chyfarwyddwr annibynnol newydd arall ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru

Mae tri arebenigwr yn eu meysydd wedi cael eu penodi fel Cyfarwyddwyr Annibynnol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru.

Rhannu:

Mae Amanda Bennett yn gyn Brif Hyfforddwr Menywod Cymru ac yn arbenigwr ym maes Cynhwysiant, Amrywiaeth a Chyfartaledd, tra bo Jennifer Mathias yn Brif Swyddog Ariannol gyda chwmni cydnabyddedig Rathbone. Jamie Roberts yw’r trydydd aelod newydd – gŵr enillodd 94 o gapiau dros Gymru a dwy Gamp Lawn yn y broses.

Mae Amanda Bennett wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad rygbi merched a menywod Cymru dros gyfnod o 40 mlynedd. Fe chwaraeodd hi fel maswr dros Gymru ac mae hi hefyd wedi hyfforddi’r tîm cenedlaethol. Bydd ei phrofiad penodol o gêm y merched a’r menywod ar lawr gwlad ac ar y llwyfan rhyngwladol yn hynod werthfawr.

Mae gan Jennifer Mathias grebwyll ac arbenigedd sylweddol ym maes gwasanaethau ariannol ac mae Jamie Roberts yn enw cyfarwydd i holl gefnogwyr rygbi Cymru. Bydd ei wybodaeth am chwaraeon ar y lefel uchaf un yn gaffaeliad mawr.

Mae’r Bwrdd, sy’n cynnwys 12 aelod, yn gyfrifol am lywodraethiant Undeb Rygbi Cymru. Mae 8 o’r Cyfarwyddwyr yn cael eu penodi – gan gynnwys y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr – ac mae 7 o’r rhain eisoes wedi eu cadarnhau. Bydd y 4 arall yn cael eu penderfynu yn yr etholiadau perthnasol ym mis Tachwedd ac o’r herwydd bydd y Bwrdd newydd yn weithredol cyn diwedd y flwyddyn. Mae Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi cyhoeddi’r cynllun am gynrychiolaeth o ran rhywedd ar y Bwrdd – a’r amcan clir yw gwireddu hynny erbyn diwedd 2023.

Amanda Bennett oedd maswr cyntaf erioed tîm Menywod Cymru nôl yn 1987 – ac fe chwaraeodd hi mewn dwy gystadleuaeth ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd. Bu cyn chwaraewr y Saraseniaid hefyd yn Brif Hyfforddwr ar ei gwlad rhwng 1988-2000. Bu Bennett yn athrawes cyn iddi ddechrau gweithio i UK Sport am ddegawd. Ers hynny mae hi wedi sefydlu Fair Play Enterprises sydd wedi bod yn cynnig cyngor am arweinyddiaeth, llywodraethiant, cynhwysiant, amrywiaeth a chyfartaledd i gwmnïau megis Uwch Gynghrair Bêl-droed Lloegr yn ogystal ag undebau Rygbi Iwerddon, Yr Alban, Lloegr a Chymru. Mae ganddi barch ym mhedwar ban byd am ei gwaith ac yn 2021 bu’n aelod o banel annibynnol â gynhaliodd adolygiad strategol o Raglen Perfformiad Menywod Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd: “Rwyf wastad wedi teimlo’n angerddol am lwyddiant rygbi yma yng Nghymru – yn enwedig camp y merched a’r menywod.

“Fy mwriad yw defnyddio fy mhrofiad llywodraethiant, arweinyddiaeth a chynhwysiant – yn ogystal â’m profiad fel cyfarwyddwr, ar Fwrdd yr Undeb.

“Mae Menywod Cymru wedi bod yn codi ymhlith detholion y byd yn ddiweddar ac mae hyn profi gwerth buddsoddiad yr Undeb a’r cynllun i arwain perfformiad. Mae’r ffaith bod URC wedi gweithredu argymhellion yr adolygiad yn 2021 yn talu ar ei ganfed. Mae’n amser cyffrous i rygbi menywod a bydd y datblygiad hwn yn allweddol wrth gyfeirio strategaeth y gamp  yn gyffredinol.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at lywio’r dyfodol hwnnw gyda’r Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd.”

Daw Jennifer Mathias o gefndir amaethyddol yn Sir Benfro ac mae hi’n byw yng Ngorllewin Cymru. Mae’n disgrifio ei hun fel person ‘masnachol o’i chorun i’w sawdl’ ac mae cwmni Rathbones wedi eu rhestru ar y gyfnewidfa stoc yn Llundain.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd cael dod â’m profiad ariannol a thrawsnewidiol i gesio helpu ffyniant Undeb Rygbi Cymru ar adeg strategol bwysig iawn.

“‘Rwy’n gredwr cryf y bydd yr Undeb yn creu dyfodol fydd yn gynaliadwy, cyfoes ac agored i bawb ar bob lefel o’r gamp.”

Mae Jamie Roberts yn un o wir arwyr y bêl hirgron yng Nghymru. Enillodd 94 o gapiau dros Gymru – gan ennill dwy Gamp Lawn ac un Bencampwriaeth ychwanegol hefyd. Teithiodd gyda’r Llewod ddwywaith a hyn oll tra ‘roedd yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ddiweddarach enillodd raddau pellach ym Mhrifysgolion Loughborough a Chaergrawnt.

Dywedodd: “Gan nad wyf wedi ymddeol ers llawer o amser, mae’r angerdd sydd gennyf tuag at y gamp yn enfawr o hyd. ‘Rwy’n ystryried cael fy mhenodi i’r Bwrdd yn fraint a chyfrifoldeb aruthrol – yn enwedig yn ystod y cyfnod allweddol hwn yn hanes Rygbi Cymru.

 “Mae fy mhrofiadau eang ar draws y byd wedi dysgu llawer iawn i mi o safbwynt perfformio ar y lefel uchaf un ac fe fyddaf yn ceisio gweithredu’r profiadau hynny er lles y gêm sydd wedi cael cymaint o ddylanwad ar fy mywyd fy hun.”

 Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood:

“Rydym wedi llwyddo sicrhau gwasanaeth unigolion amrywiol sy’n arbenigwyr gwirioneddol yn eu gwahanol feysydd – a hynny o blith llawer iawn o ymgeiswyr cyfiawn.

“Mae Bwrdd newydd Undeb Rygbi Cymru yn mynd i gynnwys cydbwysedd campus o arbenigedd ariannol, masnachol, llywodraethiant a gwybodaeth am rygbi ar y lefel uchaf un.

“Er bod y cydbwysedd o ran rhywedd wedi gwella’n sylweddol – mae’r amrywiaeth o syniadau a phrofiad fydd gennym yn sgîl penodi’r unigolion hyn – sydd yn uchel eu parch – yn fy mhlesio’n fawr.”

 Bydd cyfnod y Cyfarwyddwyr Annibynnol presennol Cat Read a Henry Engelhardt yn dod i ben yn ystod yr wythnosau nesaf ac mae Cadeirydd yr Undeb yn hynod ddiolchgar iddynt am eu cyfraniad.

Ychwanegodd Richard Collier-Keywood: “Mae cyfraniad Cat a Henry at Rygbi Cymru dros y tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn hynod werthfawr a byddai’n deg dweud na fyddem wedi gwneud ein cynnydd diweddar hebddynt.

 “Rwyf hefyd yn ddiolchgar am y gefnogaeth amlwg gan aelodau etholedig y Bwrdd sydd wedi bod mor allweddol yn ystod y cyfnod penodi diweddar. Mae eu gwaith gwirfoddol dros y blynyddoedd yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

 “ Mae hynny’n bendant yn wir am Dave Young sydd eisoes wedi gwasanaethu ei gyfnod. Mae hynny hefyd yn berthnasol i Chris Morgan – gamodd o’r neilltu yn gynharach eleni pan benodwyd Alison Thorne. Hoffwn hefyd nodi fy ngwerthfawrogiad i Anthony Buchanan sydd eisoes wedi cadarnhau na fydd yn ceisio cael ei ail-ethol yn y Cyfarfod Blynyddol ym mis Tachwedd.”

Yn olaf, Terry Cobner – un o enwau mawr y byd rygbi yn yr 1970au – fydd Llywydd nesaf Undeb Rygbi Cymru.

Bu’n gapten ar ei wlad, yn îs-hyfforddwr y tîm cenedlaethol ac yn Gyfarwyddwr Rygbi’r Undeb. Bydd yn olynnu Gerald Davies wedi iddo gael ei ethol yn ddi-wrthwynebiad gan y clybiau.

Ef fydd y nawfed Llywydd fydd wedi cynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol a bydd yn dilyn yn ôl traed hanner cant o Lywyddion eraill.

Nodiadau’r Golygydd:

Terry Cobner

Ganed ym Mlaenafon ac enillodd Terry Cobner, sydd bellach yn 77 oed, y cyntaf o’i 19eg cap yn erbyn Yr Alban ym 1974. Sgoriodd gais yn y gêm honno ym muddugoliaeth Cymru o 6-0.

Cyn hynny, ‘roedd wedi ennill cap i Ysgolion Cymru ym 1964 ac wedi cynrycgioli tîm o dan 25ain oed Cymru yn erbyn Ffiji ym 1970.

Bu’n aelod o dîm Cymru enillodd y Goron Driphlyg a’r Gamp Lawn ym 1976 & 1978 a theithiodd gyda’r Llewod i Seland Newydd ym 1977. Chwaraeodd mewn tair o’r pedair gêm brawf ar y daith gan iddo gael ei anafu cyn yr ornest olaf.

Ar ei ymddangosiad olaf dros Gymru yn erbyn Awstralia yn Brisbane ym 1978 – cafodd y fraint o fod yn gapten ar ei wlad.

Cafodd ei hyfforddi’n athro ymarfer corff yng Ngoleg Madeley yng Nghanolbarth Lloegr. Yn ystod y cyfnod hwnnw, chwaraeodd dros glwb Walsall, cyn dychwelyd i Gymru i ddysgu yn Abersychan ac yna yn Llantarnam.

Ym 1996, daeth yn Gyfarwyddwr Rygbi cyntaf Undeb Rygbi Cymru am gyfnod o wyth mlynedd cyn iddo ymddeol.

Bydd Terry Cobner wastad yn cael ei gysylltu â chlwb Pont-y-pŵl gan bod ei gyfraniad fel chwaraewr a hyfforddwr yno’n aruthrol.

Wrth gydweithio gyda’r Prif Hyfforddwr,Ray Prosser – tyfodd Pont-y-pŵl i fod y clwb gorau ym Mhrydain a’r tîm oedd yn codi’r mwyaf o fraw ar eu gwrthwynebwyr yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd.

Treuliodd 14 tymor gyda’r clwb fel chwaraewr a bu’n gapten am 10 tymor yn olynnol rhwng 1970-79.

Y tymor cyn i Terry Cobner ymuno gyda Phont-y-pŵl – fe orffenon nhw ar waelod tabl Cynghrair y Western Mail. O fewn tair blynedd ‘Pooler’ oedd y Pencampwyr.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tri chyfarwyddwr annibynnol newydd arall ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tri chyfarwyddwr annibynnol newydd arall ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tri chyfarwyddwr annibynnol newydd arall ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Rhino Rugby
Sportseen
Tri chyfarwyddwr annibynnol newydd arall ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Tri chyfarwyddwr annibynnol newydd arall ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Tri chyfarwyddwr annibynnol newydd arall ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Tri chyfarwyddwr annibynnol newydd arall ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Tri chyfarwyddwr annibynnol newydd arall ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Tri chyfarwyddwr annibynnol newydd arall ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Amber Energy
Opro
Tri chyfarwyddwr annibynnol newydd arall ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru