Mae’r adolygiad yn gwneud cyfanswm o tua 36 o argymhellion ac mae Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi ymrwymo i weithredu’r holl argymhellion hynny.
Datganiad gan Richard Collier-Keywood: “Rydym heddiw yn cyhoeddi adroddiad y Panel Annibynnol ac ‘rydym yn ddiolchgar i’r Panel am eu gwaith caled. Rhaid estyn diolch hefyd i’r bobl – o fewn yr Undeb a’r tu allan hefyd – am gyfrannu at yr adolygiad.
“Rhannwyd yr adroddiad gyda Bwrdd URC y bore’ ‘ma ac ‘rydym yn unfryd yn ein hymrwymiad i weithredu’r argymhellion yn llawn.
“Hoffwn ddechrau trwy ymddiheuro ar ran yr Undeb i’r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan y systemau, strwythurau ac ymddygiad sy’n cael eu disgrifio yn yr adroddiad. Yn syml – nid oedd hyn yn dderbyniol.
“Mae’n rhaid i ni wella – a byddwn yn gwneud hynny.
“Mae’r adroddiad yn edrych ar ein llywodraethiant, ein diwylliant, ein hagwedd tuag at rygbi merched a menywod ac ymddygiad ein harweinwyr. Nid yw darllen cynnwys yr adroddiad yn hawdd i unrhyw un yng Nghymru sydd â rygbi’n agos at eu calonnau – yn enwedig felly i’r rheiny sy’n gweithio i’r Undeb. Mae’n amlwg na weithredwyd i osgoi y problemau difrifol â nodwyd.
“Mae gennym waith caled i’w wneud i ad-ennill ffydd ein staff, ein chwaraewyr, ein gwirfoddolwyr sydd wrth galon y gêm gymunedol – a’n cefnogwyr ffyddlon sy’n prynu tocynnau’n wythnosol.
“Mae’r adroddiad yma’n cynnig arweiniad gwerthfawr i ni o safbwynt ad-ennill y ffydd a’r ymddiriedaeth hynny.
“Rydym eisoes wedi addo i wrando, dysgu a newid. Mae Nigel Walker, Ieuan Evans, Abi, yr holl Fwrdd a minnau wedi ymrwymo i dderbyn y canfyddiadau a’r holl argymhellion ar ran URC – a’u gweithredu ar frys
“Rydym yn croesawu’n fawr y cynnig i’n gwaith, a’n cynnydd yn y dyfodol, gael ei fonitro’n annibynnol.
“Mae camau breision eisoes wedi eu cymryd eleni, a hynny mewn agweddau o’n gweinyddiaeth sy’n cael eu nodi gan awduron yr adroddiad. O ganlyniad i gefnogaeth 97% o’n haelodau fis Mawrth eleni – mae newidiadau sylfaenol wedi eu cyflwyno i’n llywodraethiant yn barod.
“Mae gennym Gadeirydd newydd, Bwrdd sydd wedi ei ddiwygio, a Phrif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol Rygbi newydd hefyd. Bydd yr holl swyddogion hyn yn eu lle erbyn Ionawr 2024.
“Dylai’r Bwrdd gynnwys wyth o gyfarwyddwyr sydd wedi eu penodi a phedwar cyfarwyddwr wedi eu hethol gan y gêm gymunedol. Mae chwech o’r cyfarwyddwyr sydd wedi eu penodi, wedi eu cyhoeddi’n barod – ac mae un arall i’w gadarnhau. “Mae pedwar o’r rhain eisoes yn fenywod a bydd yr etholiadau ar gyfer y cyfarwyddwyr eraill, yn digwydd cyn diwedd y flwyddyn.
“Mae newid sylfaenol wedi bod yn y gefnogaeth i’r rhaglen perfformiad uchel ar gyfer y menywod yn ystod y blynyddoedd diweddar. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol, mae 32 o chwaraewyr bellach ar gytundebau proffesiynol – a bydd strategaeth ehangach ar gyfer datblygiad camp y merched a’r menywod yn cael ei gyhoeddi yn 2024.
“Rydym eisoes wedi gwella ein gweithredoedd cyflogaeth. Felly hefyd ein hyfforddiant a’n cefnogaeth i’r staff – fel y gallwn weddnewid ein diwylliant yn y gwaith.
“Mae rhwydwaith cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant newydd wedi ei sefydlu ac rydym wedi cyhoeddi system newydd i ddelio gyda chwynion.
“Mae llinell ffôn allanol wedi ei sefydlu ar gyfer cwynion ac mae’r staff wedi cymryd rhan mewn cynllun sy’n caniatáu iddynt leisio eu barn yn gyfrinachol am y datblygiadau diweddar a’u hanghenion personol hefyd.
“Rydym ar siwrnai ac nid yw newid sylfaenol yn hawdd ar unrhyw adeg. ‘Rydym wedi ymroi i weithredu’n agored ac i adeiladu ymddiriedaeth o fewn y gêm yng Nghymru a thu hwnt i hynny hefyd.
“Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu cynllun strategol ehangach – er mwyn gweithredu ein gwerthoedd a chymryd y camau gofynol i sicrhau newid hirdymor er gwell.
“Rydym yn ymroi i sicrhau bod cyfartaledd a chynwysiant wrth galon popeth o fewn yr Undeb.
“Mae wedi bod yn gyfnod anodd i staff a chwaraewyr yr Undeb. Mae rygbi yn rhan allweddol bwysig o fywyd dyddiol ein gwlad a hoffwn ddiolch iddynt am barhau i ddarparu cynlluniau elît, proffesiynol a chymunedol ar gyfer merched, menywod, bechgyn a dynion – yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.”
Dywedodd Nigel Walker, Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru: “Rydym yn croesawu gwaith caled a thrylwyr y panel adolygu ac ‘rydym wedi cyhoeddi o’r cychwyn cyntaf y bydd argymhellion y Panel Annibynnol yn cael eu gweithredu’n llawn. ‘Rydym yn benderfynol o arwain a chreu diwylliant y gall pawb yn rygbi Cymru fod yn falch ohono.
“Byddwn yn gwneud yn siwr ein bod wedi llwyr ddeall yr argymhellion a’r goblygiadau a byddwn yn cydweithio gyda’n rhanddeiliaid er mwyn gweithredu’r newidiadau angenrheidiol.
“Mae nifer o’r argymhellion sy’n ymwneud â’n Bwrdd a’r buddsodiad cynyddol yn nhîm rhyngwladol y menywod eisoes yn digwydd. Serch hynny, ‘rydym yn derbyn bod llawer mwy o waith i’w wneud.
“Bydd angen trafod rhai o’r newidiadau eraill gyda’r teulu rygbi ehangach – yn enwedig felly’n clybiau.’Rwyf yn hyderus y byddwn yn gweithredu’r holl argymhellion ac mae’r ymrwymiad sydd eisoes wedi ei ddangos i weithredu’r newidiadau yma – wedi fy nghalonogi.
“Mae’r adroddiad yn cynnig her ehangach i ni. Mae’n rhaid i ni fel corff wrando mwy a dysgu mwy o’r herwydd. Byddwn yn trafod y newidiadau gyda’n staff a’n partneriaid fel y gallwn gytuno ar y dull mwyaf effeithiol o gyflwyno’r newidiadau angenrheidiol.
“Mae’r gefnogaeth yr ydym wedi ei dderbyn er mwyn gwella’r Undeb wedi fy nghalonogi’n fawr. ‘Rydym wedi ymrwymo i wella’n diwylliant ymhellach – a hynny mewn modd agored – fel y gallwn adfer ymddiriedaeth ar draws y gêm yng Nghymru.”
Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru (o Ionawr 2024 ymlaen): “Mae’r Adolygiad Annibynol yn disgrifio materion, gweithredoedd ac agweddau sydd yn annerbyniol. Ni ddylent fodoli mewn unrhyw weithle.
“Wrth gwrs fel arweinwyr y sefydliad, ‘rydym yn condemnio yr agweddau a’r materion sydd wedi eu nodi – ac ‘rydym yn ymwybodol o’r ymateb sydd ei angen gennym fel Undeb.
“Byddwn yn gweithredu pob un o’r argymhellion y mae’r Panel Annibynnol wedi ei wneud. Mae fy nghydweithwyr eisoes wedi datgan yr ymrwymiad i wneud hynny – ac ‘rwyf innau yn cadarnhau hynny hefyd.
“Mae angen i ni dyrchu’n ddyfnach na hyn hyd yn oed. Byddwn yn sicrhau bod diwylliant gwaith a gwerthoedd cadarn yn cael eu cyflwyno. Gwerthoedd y gallwn fod yn falch ohonynt.
“Fe lwyddwn ni i wneud hyn gyda’n gilydd. Mae’r rhai gododd lais a gwneud i ni wrando yn haeddu diolch – ac er mor boenus yw pethau ar hyn o bryd – bydd yn gymorth i ni wella yn y pendraw.
“Mae’r ffaith bod yr adroddiad annibynnol hwn wedi nodi gwendidau yn ein diwylliant, yn gyfle gwych i ni weddnewid y ffordd yr ydym yn gweithio.
“Fe allwn gymryd ysbrydoliaeth o’r ffaith bod popeth yn yr agored bellach. Gallwn gymryd balchder yn y ffaith y bydd ein pobl yn gwybod y bydd cwynion yn cael eu hystyried a’u delio â nhw’n briodol yn y dyfodol.
“Gallwn deimlo’n hyderus bod y prosesau a’r strwythurau bellach yn eu lle i weithredu hyn yn effeithiol ac mae’n staff yn cael eu hannog i godi llais, siarad gyda ni a’n helpu ni i wella.
“Fe ddaw gwelliant trwy gydweithio. Os y gwnawn ni wrando – a chlywed ac ymateb yn briodol hefyd – bydd pethau’n sicr o wella. Bydd yr adolygiad a’r argymhellion yn gymorth mawr i ni wneud hyn – ond mae’n rhaid i bawb ymrwymo i’r egwyddor bod yn rhaid i ni gyd esblygu, newid a gwella gyda’n gilydd.”