Mewn amgylchedd ariannol heriol i rygbi ym mhedwar ban y byd, buddsoddodd URC
£16.1m yn y timau dynion, menywod a datblygu.
Cadarnhawyd bod y buddsoddiad yn nhîm y menywod wedi cynyddu i £2.8m yn 2023 a gwariwyd £37.6m ar y timau rhanbarthol – Caerdydd, Y Dreigiau, Y Gweilch a’r Scarlets. Neilltuwyd £11.6m ar gyfer y gêm gymunedol yn ogystal.
Crëwyd 65% o gyllideb yr Undeb trwy gynnal gemau rhyngwladol prif dimau Cymru a’r gweithgareddau masnachol yn sgîl y digwyddiadau hynny.
Cost cyfartalog tocyn ar gyfer y gemau rhyngwladol hyn oedd £59 a 68,000 oedd y dorf gyfartalog – o’i gymharu â 62,000 y flwyddyn flaenorol. Gwerthwyd 92% o’r tocynnau rhyngwladol hyn.
Cynyddodd yr incwm masnachol i £16.4m (2022: £14.5m) o ganlyniad i gefnogaeth a buddsoddiad partneriaid masnachol Grŵp Undeb Rygbi Cymru. Mae’r gefnogaeth hyn yn allweddol i lwyddiant a chynaladwyedd Rygbi Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker: “Mae’r holl elw a wneir gan Grŵp Undeb Rygbi Cymru yn cael ei fwydo yn ôl i’r gêm yng Nghymru.
“Ein cyfrifoldeb ni yw gwarchod ein gêm ac ‘rydym ym cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif.”
“Mae gennym bolisi clir o ran ail-fuddsoddi’n y gêm yn flynyddol – yn hytrach na chadw’r elw – ac ‘rydym wedi llwyddo i gynyddu ein buddsoddiad yn Rygbi Cymru o £2.4m i gyfanswm o £65.3m – er bod yr hinsawdd economaidd yn heriol iawn yn y byd rygbi.”
‘Roedd incwm o’r gemau rhyngwladol wedi gostwng – yn bennaf o ganlyniad i’r ffaith bod un gêm gartref yn llai ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness. Serch hynny, ‘roedd y cyfanswm yn £39.5m o’i gymharu â £43.0m y flwyddyn flaenorol.
‘Roedd incwm o Letygarwch ac Arlwyo wedi cynyddu o £15.9m i £18.7m – o ganlyniad i ddarpariaeth gref gan URC a threfnwyr digwyddiadau allanol yn Stadiwm Principality.
Ym mlwyddyn lawn gyntaf Gwesty’r Parkgate – cafwyd perfformiad ariannol cryf. Gwelwyd cynnydd yn y refeniw i £11.1m. (Diwedd Blwyddyn 2022 £5.7m).
Ychwanegodd Nigel Walker: “Rydym yn parhau i chwilio a chanfod ffyrdd amgen i fanteisio ar botensial masnachol ein gêm. Rydym yn cymryd gofal mawr wrth flaenoriaethu a buddsoddi mewn meysydd penodol – er mwyn creu cyllid ychwanegol i’w fuddsoddi yn ôl yn y gamp yma yng Nghymru. Enghraifft dda o hyn yw’r antur newydd ar do Stadiwm Principality (SCALE) – fydd yn cynyddu apêl y Stadiwm i ymwelwyr.”
Dywedodd Richard Collier-Keywood, Cadeirydd Annibynol newydd Undeb Rygbi Cymru: “Mae’r tîm sy’n gweithio i’r Undeb wedi perfformio’n gryf yn ystod blwyddyn anodd iawn.
“Mae’r heriau niferus wynebwyd wedi costio arian sylweddol i’r Undeb wrth i ni ffarwelio ag unigolion allweddol a phrofiadol yn ystod y flwyddyn – megis y Prif Weithredwr a hyfforddwyr amlwg hefyd.
“Mae’r costau hyn – cyfanswm o £1.9m – yn cael eu dangos yn glir yn ein cyfrifon.
“Rydym hefyd wedi ail-edrych ar gyfrifon blaenorol ac wedi ail-asesu ambell elfen – fydd yn ein gosod ar dir ariannol mwy cadarn yn y dyfodol.
“Mae’r holl fanylion hyn yn cael eu datgan yn glir yn y ddogfen wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi heddiw.”
Yn dilyn newidiadau arweinyddiaeth diweddar – a phenodi cwmni newydd o archwilwyr – mae Grŵp Undeb Rygbi Cymru wedi diwygio’r modd y mae’r wybodaeth ariannol yn cael ei rannu.
O’r herwydd bydd fersiwn cyflawn o’r cyfrifon ariannol fydd wedi eu harchwilio – yn cael eu cyhoeddi wedi Cyfarfod Blynyddol y Grŵp – sydd wedi ei drefnu ar gyfer y 19eg o Dachwedd 2023.
Yn y cyfamser, mae Cadeirydd newydd yr Undeb wedi danfon cyfrifon drafft – gan gynnwys datganiad incwm cyfunol, mantolen a gwybodaeth ychwanegol at y clybiau. Yn ychwanegol at hyn mae’r clybiau wedi derbyn neges gan y Llywydd, Crynodeb Prif Weithredwr y Grŵp a manylion yr Adroddiad Strategol.
Ychwanegodd Richard Collier-Keywood: “Rydym yn gweithio gyda’n archwilwyr i gwblhau a chyflwyno fersiwn llawn o’n datganiadau ariannol – fydd yn cael eu cyhoeddi unwaith i’r broses hon gael ei chwblhau.
“Yn y cyfamser, mae’r fformat newydd hwn ar gyfer ein cyfrifon cyfunol hyd at y 30ain o Fehefin 2023 – a’r cyhoeddiadau perthnasol eraill – wedi eu rhannu gyda’n clybiau a’n rhanddeiliaid – er mwyn cynnig cymorth iddynt ddeall perfformiad Grŵp Undeb Rygbi Cymru yn well.
“Yn ystod cyfnod heriol tu hwnt – mae URC wedi perfformio’n gryf.”