Neidio i'r prif gynnwys
Andrew Williams i ymuno â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru

Andrew Williams i ymuno â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru

Bydd Andrew Williams, a aned yng Nghaerdydd, yn cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Anweithredol annibynnol (iNED) i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru (URC).

Rhannu:

Mae penodiad Williams yn cwblhau’r broses o gasglu grŵp o wyth cyfarwyddwr annibynnol wrth i Undeb Rygbi Cymru ail-wampio a moderneiddio eu Bwrdd Gweithredol. Gwnaed y newidiadau hyn y bosib wedi i 97% o glybiau bleidileiso dros newidiadau llwywodraethiant fis Mawrth diwethaf.

Mae’r Bwrdd newydd, dan arweiniad Cadeirydd annibynnol cyntaf URC, Richard Collier-Keywood, bellach wedi dyblu nifer y cyfarwyddwyr a benodwyd yn allanol, gan ychwanegu ystod  eang o sgiliau a phrofiad i’r Bwrdd.

Y cam olaf wrth gwblhau aelodaeth y Bwrdd, fydd ychwanegu pedwar cynghorydd fydd yn cael eu hethol gan y clybiau – yn dilyn etholiadau a fydd yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Arweiniodd Williams, Halma plc, grŵp byd-eang o gwmnïau technoleg achub bywyd sy’n gweithio mewn dros 20 o wledydd. Gwelwyd twf blynyddol yn y cwmni am 18 mlynedd yn olynol a chynyddodd ei gyfalaf o £600miliwn i dros £8.5 biliwn ar y farchnad yn ystod y cyfnod hwnnw.

Cyn iddo ymddeol ym mis Mawrth eleni, cafodd ei ganmol gan y Sunday Times, fel “Y Prif Weithredwr gorau nad ydych erioed wedi clywed amdano.”

Mae hefyd yn un o Noddwyr GlobalWelsh, mudiad o alltudion Cymreig, ac mae wedi bod yn gefnogwr brwd o glwb Caerdydd trwy gydol ei fywyd. Bu’n gyn-aelod o Fwrdd y Clwb ac mae ganddo ddealltwriaeth drylwyr o’r gêm broffesiynol yng Nghymru.

“Rwy’n falch iawn o fod yn dychwelyd i’r byd rygbi ac yn edrych ymlaen at fynd i’r afael â rhai o’r heriau a’r cyfleoedd sylweddol sydd o’n blaenau,” Dywedodd Williams.

“Yn dilyn y newidiadau diweddar i’r Bwrdd, rwy’n falch bod URC wedi gwneud rhai datganiadau pwysig yn ddiweddar am yr angen i Undeb weithio’n gadarnhaol gyda’r clybiau proffesiynol, ac rwy’n ystyried hyn yn gam hanfodol i wella llwyddiant y gamp ar bob lefel yng Nghymru.

“Law yn llaw â’r newidiadau diwylliannol sydd eisoes ar y gweill, ni allwn anwybyddu’r heriau ariannol yr ydym yn eu wynebu.

“Mae twf yn y busnes a’r gêm yn ehangach yng Nghymru, yn gwbl hanfodol i sicrhau bod ein hadferiad yn gynaliadwy ac yn cofleidio anghenion ein holl randdeiliaid.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Richard, Abi a’r tîm cyfan i roi rygbi Cymru yn ôl ar sylfaen gadarn – ar y cae ac oddi arno.”

Mae Williams yn rhannu cred arweinyddiaeth newydd URC bod modd cyflymu a chynnal llwyddiant a thwf, trwy ymrwymiad ymarferol i Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant.

Tra’n arwain Halma, trawsnewidiodd arweinyddiaeth a diwylliant y sefydliad, gan arwain at y cwmni’n cael ei restru’n Ail allan o 600+ o gwmnïau ledled Ewrop am amrywiaeth rhywedd mewn swyddi arweinyddiaeth. Pleidleisiwyd Williams ei hun – gan ei gyfoedion –  am wobr fawreddog fyd eang am hyrwyddo a gweithredu’n gadarnhaol ar ran menywod yn y byd busnes .Yn wreiddiol o’r Waun yng Nghaerdydd, mynychodd Ysgol Uwchradd Llanisien ac yna enillodd radd Peirianneg ym Mhrifysgol Birmingham, cyn ennill ei fara menyn fel Peiriannydd Siartredig.

Mae hefyd wedi astudio ar y  Rhaglen Reolaeth Uwch yn Ysgol Fusnes Wharton, Prifysgol Pennsylvania.

Mae Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, yn falch iawn o allu denu Williams yn ôl i deulu rygbi Cymru.

“Mae hwn yn ‘coup’ mawr i rygbi Cymru ac yn un sy’n atgyfnerthu ein brand ac yn cefnogi’r llwybr diwygio yr ydym arno,” Dywedodd Collier-Keywood.

“Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu perswadio cyn-Brif Weithredwr un o gan prif gwmni’r FTSE i ddod yn ôl i deulu rygbi Cymru ar adeg pan mae angen profiad masnachol o’r radd flaenaf arnom ar y Bwrdd.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Andrew Williams i ymuno â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Andrew Williams i ymuno â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Andrew Williams i ymuno â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru
Rhino Rugby
Sportseen
Andrew Williams i ymuno â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru
Andrew Williams i ymuno â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru
Andrew Williams i ymuno â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru
Andrew Williams i ymuno â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru
Andrew Williams i ymuno â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru
Andrew Williams i ymuno â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru
Amber Energy
Opro
Andrew Williams i ymuno â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru