Neidio i'r prif gynnwys
Datganiad i’r Wasg – Datgelu’r enw Scale ar antur newydd Stadiwm Principality

Datganiad i’r Wasg – Datgelu’r enw Scale ar antur newydd Stadiwm Principality

Heddiw, ‘rydym yn falch o allu cyhoeddi mai Scale fydd enw’r antur newydd ar gyfer ymwelwyr yn Stadiwm Principality. Bydd yr atyniad llawn cyffro yn cynnig golygfeydd heb eu hail o Gaerdydd a’r cyfle i ddringo a disgyn o’r adeilad eiconig. Bydd yr atyniad yn agored i’r cyhoedd yn ystod gwanwyn 2024.

Rhannu:

Bydd cefnogwyr ac ymwelwyr fydd yn ddigon dewr i wynebu’r her yn gallu cofrestru eu diddordeb yma scalethestadium.wales a nhw fydd y cyntaf i wybod pan fydd y tocynnau yn mynd ar werth i’r cyhoedd.

Dywedodd Rheolwr Stadiwm Principality, Mark Williams:

“Ry’n ni wrth ein bodd ein bod yn gallu cyhoeddi mai ‘Scale’ yw enw’r atyniad newydd cyffrous hwn – a pha well ffordd i ddatgelu’r enw – na gwneud hynny yn Stadiwm Principality pan fyddwn yn croesawu tîm Cymru yn ôl o Gwpan y Byd – wrth iddyn nhw wynebu’r Barbariaid.”

“Mae atyniad ‘Scale’ yn brawf ein bod wedi ymrwymo i geisio dangos Cymru ar ei gorau i bawb o bobl y byd. Bydd hwn yn atyniad fydd yn apelio at lawer o bobl gan gynnig hwb pellach i enw da ac economi Caerdydd ar y llwyfan rhyngwladol.”

“Mae’r enw ei hun yn creu rhyw syniad o gyffro ac antur a byddwn yn datgelu manylion cyffrous pellach am yr atyniad yn fuan.”

Ym mis Awst gwnaed y cyhoeddiad bod yr arbenigwyr Wire & Sky wedi eu comisiynu i adeiladu’r atyniad. Mae’r cwmni wedi gweithio ar gynlluniau tebyg yng nglwb pêl-droed Lerpwl, Stadiwm Wembley, Stadiwm Tottenham Hotspur a’r Cutty Sark.

Bydd nifer ohonoch wedi sylwi bod y gwaith eisoes wedi dechrau ar do Stadiwm Principality.
Mae datgelu’r enw heddiw yn cynnig rhagflas o’r profiad y gall ymwelwyr edrych ymlaen ato pan fydd yr atyniad yn agor yn y gwanwyn.

Dywedodd Andy Broad, Rheolwr Gyfarwyddwr, Wire & Sky: “Mae’r gwaith ar Scale wedi bod yn mynd yn dda hyd yma ac efallai bod rhai pobl wedi sylwi ar y gwaith caled hwnnw wrth gerdded heibio. Rydym wrth ein bodd ein bod yn cael y cyfle i greu atyniad fydd yn apelio at ymwelwyr o bedwar ban byd ac yn cynnig antur gwirioneddol iddynt – heb sôn am olygfa heb ei ail o Gaerdydd.

“Rydym wedi gweithio ar gynlluniau tebyg mewn stadiymau eraill o gwmpas y byd – ac rydym yn falch iawn o allu dod â’n harbenigedd i Gaerdydd. Bydd Scale yn brofiad unigryw ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld ymateb yr ymwelwyr pan fydd yr atyniad yn agor yn ystod gwanwyn 2024.”

Bydd manylion am Scale ar gael yn fuan. Gallwch gofrestru eich diddordeb a derbyn gwybodaeth bellach wrth ddilyn y ddolen: scalethestadium.wales

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Datganiad i’r Wasg – Datgelu’r enw Scale ar antur newydd Stadiwm Principality
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Datganiad i’r Wasg – Datgelu’r enw Scale ar antur newydd Stadiwm Principality
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Datganiad i’r Wasg – Datgelu’r enw Scale ar antur newydd Stadiwm Principality
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Datganiad i’r Wasg – Datgelu’r enw Scale ar antur newydd Stadiwm Principality