Mae’r Her Geltaidd yn cael ei drefnu gan yr Undebau Rygbi yn Yr Alban, Iwerddon a Chymru gyda chefnogaeth ariannol gan World Rugby. Bydd yr ail flwyddyn hon o’r gystadleuaeth yn ymestyn am gyfnod o 11 wythnos rhwng y 18fed o Ragfyr a’r 3ydd o Fawrth 2024.
Bydd yr Her Geltaidd yn cynnig cystadluaeth safonol, fydd yn pontio’r bwlch rhwng gemau domestig a rhyngwladol yn y gwledydd celtaidd fydd yn cymryd rhan.
Yn dilyn y cynllun peilot llwyddiannus ym misoedd Ionawr a Chwefror eleni – bydd y gystadleuaeth yn ehangu i gynnwys dau dîm o’r tair gwlad. O ganlyniad i’r ffaith y bydd cyfanswm o chwe thîm yn cymryd rhan – bydd mwy o gemau ar gael – fydd yn siwr o apelio at y chwaraewyr. Bydd mwy o gyfle i chwaraewyr brofi mwy o funudau cystadleuol ar y maes chwarae – o fewn eu gwledydd eu hunain ac y pendraw bydd hyn yn cryfhau cynaliadwyedd y gêm ryngwladol.
Bydd y gystadleuaeth ar ei newydd wedd hefyd yn caniatâu cyfleoedd datblygu i hyfforddwyr, gweithwyr meddygol, hyfforddwyr cryfder a ffitrwydd a staff gweinyddol yn ogystal.
Dywedodd Pennaeth Rygbi Menywod World Rugby Sally Horrox: ”Mae’r ymateb gafwyd yn dilyn yr Her Geltaidd gyntaf wedi bod yn arbennig o gadarnhaol – ac mae’r ffaith bod 24 o chwaraewyr wedi cymryd rhan yn y Chwe Gwlad eleni yn adrodd cyfrolau.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld y gystadleuaeth yn tyfu gyda’r timau ychwanegol – wrth i ni gryfhau ein cynlluniau datblygu a safon cystadleuol ein gemau cyn Cwpan y Byd yn 2025.”
Ychwanegodd Trefnydd yr Her Geltaidd Josh Payne: “Yn dilyn y cynllun peilot llwyddiannus – mae’n amlwg bod hwn yn gyfle gwych o safbwynt datblygu chwaraewyr addawol. Mae’r effaith eisoes wedi ei weld ar y llwyfan rhyngwladol yn ystod Chwe Gwlad TikTok yn gynharach eleni.
“Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu y cyfleoedd a’r gefnogaeth angenrheidiol i baratoi’r chwaraewyr addawol hyn ar gyfer cam nesaf eu siwrnai rygbi – boed hynny ar y llwyfan rhyngwladol neu beidio.”
Mae’r Her Geltaidd yn parhau i dderbyn cefnogaeth ariannol gan World Rugby fel rhan o’u hymrwymiad i hyrwyddo gemau cystadleuol pellach ar lefel elît camp y menywod.
Bydd manylion pellach am y timau a dyddiadau, lleoliadau ac amseroedd y gemau’n cael eu cyhoeddi gan y gwahanol Undebau ddechrau mis Rhagfyr.