‘Roedd Evans, sy’n 37 oed, yn aelod o garfan Cymru gymrodd ran yng nghystadleuaeth gyntaf y WXV1 – oedd yn cynnwys chwe thîm gorau’r byd.
Enillodd y bachwr cydnerth ei chap cyntaf yn erbyn Siapan ar Barc yr Arfau yn 2021 a hithau’n 35 oed. Aeth hi ymlaen i ennill pum cap arall wedi hynny.
Fe gynrychiolodd ei gwlad yng Nghwpan y Byd 2022 a bu’n aelod o garfan Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Honno oedd ymgyrch orau’r crysau cochion ers pedair blynedd ar ddeg ac wrth orffen yn drydydd – fe hawliodd Cymru eu lle yn haen uchaf cystadleuaeth newydd y WXV.
Roedd Evans eisoes wedi cyhoeddi ei hymddeoliad o’r gêm glwb ddiwedd tymor diwethaf. Yr uchafbwynt gyda’r Saraseniaid oedd ennill yr Uwch Gynghrair yn 2018 a 2022.
Dywedodd Kat Evans: “Ro’n i’n gwybod y byddai’n rhaid i mi ymddeol rhyw ddydd. Rydw i wedi rhoi popeth y galla’i ers dechrau chwarae’r gêm pan o’n i’n 13 oed.
“Er nad ydi hi’n hawdd gadael y gamp rwy’n ei charu – dyma’r amser iawn i mi wneud hynny.”
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi yn ystod fy ngyrfa ryngwladol – ac i’m teulu, fy ffrindiau, staff y tîm rhyngwladol a fy nghyflogwyr. Maen nhw i gyd wedi fy ngwthio er mwyn i mi allu gwireddu fy mreuddwyd ac ni faswn wedi cyflawni hynny heb eu cefnogaeth.
“Mae’r garfan i gyd yn ceisio gwella eu hunain yn ddyddiol ac ‘rwyf wedi gwneud ffrindiau oes. Mae pethau mawr ar y gorwel i’r garfan hon.”
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham: “Mae Kat wedi bod yn rhan allweddol o’r garfan ers iddi gael ei chynnwys am y tro cyntaf. Mae hi wedi gweithio mor galed ac wedi codi safon yr holl garfan gyda’i hagwedd ddi-ildio.
“Mae ei hymroddiad, ei phroffesiynoldeb a’i phrofiad wedi bod yn werthfawr iawn i’r garfan – heb sôn am ei hagwedd hynod gystadleuol dros ei chlwb a’i gwlad. Hoffwn ddiolch iddi am ei chyfraniad gwerthfawr i’r crys coch.”