Neidio i'r prif gynnwys
Obituary

Ysgrif goffa: Glyn Davies

 Mae cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru Glyn ‘Shorty’ Davies – wedi marw 9 niwrnod yn brin o’i ben-blwydd yn 96 oed.

Rhannu:

‘Roedd y chwaraewr rheng ôl o Went i fod i herio Seland Newydd yn y fuddugoliaeth ddiwethaf yn erbyn y Crysau Duon ym 1953. Yn anffodus, fe gafodd ei anafu yn y sesiwn ymarfer olaf – ddiwrnod yn unig cyn y gêm. Sid Judd gymrodd ei le’n y tîm ac fe sgoriodd yn y fuddugoliaeth o 13-8.

O ganlyniad iddo ddioddef o pneumonia yn 1954 bu’n rhaid iddo aros tan 1955 cyn iddo ennill ei unig gap dros ei wlad. Er i Gymru guro Lloegr y diwrnod hwnnw o 3-0 – ni chafodd ei ddewis wedi hynny.

Blaenwr pengoch dros ei ddwylath oedd Davies – chwaraeodd dros Y Coed Duon a Cross Keys cyn mynd i gynrychioli clybiau Lewes, Blackheath a’r Cymry yn Llundain dros y ffin.

Tra yn Old Deer Park yr enillodd ei unig gap – ac wrth glywed y newyddion ei fod wedi ei ddewis i wynebu Lloegr ym 1955 dywedodd wrth bapur newydd lleol mai ef oedd “y dyn hapusaf ar wyneb daear’.

Dychwelodd i Gymru i chwarae i Abertawe am ddau dymor (1956-58) ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe gynrychiolodd y crysau gwynion yn erbyn Yr Eidal – ac fe ymddangosodd dros y Barbariaid ar ddau achlysur.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn ymestyn eu cydymdeimlad at ei wraig Brenda, gweddill ei deulu, a’i ffrindaiu hefyd.

Neville Glyn Davies: 1 cap. Cap Rhif: 602. Ganed: Cefn Fforest, 29 Tachwedd 1927; Bu farw: 20 Tachwedd 2023.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Ysgrif goffa: Glyn Davies
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Ysgrif goffa: Glyn Davies
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Ysgrif goffa: Glyn Davies
Rhino Rugby
Sportseen
Ysgrif goffa: Glyn Davies
Ysgrif goffa: Glyn Davies
Ysgrif goffa: Glyn Davies
Ysgrif goffa: Glyn Davies
Ysgrif goffa: Glyn Davies
Ysgrif goffa: Glyn Davies
Amber Energy
Opro
Ysgrif goffa: Glyn Davies