Neidio i'r prif gynnwys
Richard Collier-Keywood

WRU chairman Richard Collier-Keywood

Neges Blwyddyn Newydd cadeirydd URC

Mae Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, wedi ysgrifennu at holl Glybiau ac Aelodau Rygbi Cymru, i ddiolch iddynt am eu hymroddiad yn ystod 2023. Mae hefyd yn edrych ymlaen at y Flwyddyn Newydd a’r cyfleoedd ddaw i’r gamp yng Nghymru yn sgîl hynny.

Rhannu:

Penodwyd y Cadeirydd newydd ym mis Gorffennaf ac mae eisoes wedi gweithio gydag aelodau Bwrdd yr Undeb i weithredu’r holl argymhellion a wnaed yn y Cyfarfod Cyffredionol Eithriadol fis Mawrth diwethaf.

Heddiw, mae Richard Collier-Keywood yn falch o gyhoeddi – ar y cyd gyda Chwaraeon Cymru – mai’r Fonesig Anne Rafferty fydd Cadeirydd y Grŵp Goruchwilio Allanol – fydd yn cynorthwyo’r Undeb i weithredu holl argymhellion yr Adolygiad Annibynnol diweddar.

Mae hefyd yn achub ar y cyfle i groesawu y Prif Weithredwr newydd, Abi Tierney – sy’n dechrau ar ei gwaith yn swyddogol ar yr 8fed o Ionawr – ac hefyd i’w llongyfarch am dderbyn CB (Cydymaith Urdd y Baddon) yn rhestr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Serch hynny, neges ganolog a chreiddiol y Cadeirydd yw dweud diolch wrth bawb sydd wedi cyfrannu at Rygbi Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Neges flwyddyn newydd cadeirydd Undeb Rygbi Cymru

Wrth i ni edrych ymlaen at Flwyddyn Newydd yn hanes Rygbi Cymru, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’n holl Glybiau ac Aelodau am eich gwaith caled, eich cefnogaeth a’ch ymroddiad yn ystod 2023.
‘Ry’n ni’n deulu mawr!

Mae ein gwirfoddolwyr gwerthfawr ar lawr gwlad sy’n cefnogi’n chwaraewyr a’n timau yn haeddu cydnabyddiaeth. Felly hefyd ein chwaraewyr – boed yn ddynion neu’n fenywod – yn amatur neu’n broffesiynol – sy’n mwynhau her ein camp anhygoel. Mae’n bwysig cofio eich bod yn lysgenhadon i Rygbi Cymru ac yn gosod esiampl i’r genhedlaeth nesaf.

Mae’r rheiny sy’n cynrychioli ein rhanbarthau yn allweddol bwysig hefyd wrth osod a chynyddu safon rygbi ar draws ein gwlad.

Rhaid hefyd estyn diolch i’r hyfforddwyr a’r dyfarnwyr sy’n gweithio’n ddiflino er mwyn gwella ein chwaraewyr a’r gêm sydd mor bwysig i ni gyd.

Ein cefnogwyr ffyddlon – ar lefel ryngwladol, rhanbarthol neu gemau darbi lleol – ni fyddai rygbi’n gallu digwydd yn wythnosol heb eich angerdd.

Mae cefnogaeth ein noddwyr a’n partneriaid yn allweddol bwysig hefyd – ac mae hynny wedi bod yn amlycach nac erioed yn ystod y flwyddyn hynod heriol ddiwethaf.

Mae’n rhaid i mi hefyd nodi fy ngwerthfawrogiad i staff yr Undeb – sydd wedi bwrw ‘mlaen gyda’u gwaith mor egnïol yn ystod cyfnod anodd iawn iddynt.

Diolch i bawb am eich gwaith a’ch cefnogaeth.

Dyma ein pobl ni – ein teulu rygbi. ‘Rydym mor ddiolchgar i chi am eich ymdrechion. ‘Rydym yn falch iawn o’ch gwaith dros eraill – sy’n gweithredu gwerthoedd craidd ein camp yn ddyddiol.

Er bod llawer iawn o bethau cadarnhaol i ymfalchïo ynddynt wedi digwydd yn ystod 2023 – mae’n rhaid cyfaddef bod nifer o bethau hynod o anodd wedi ein wynebu yn ystod y flwyddyn hefyd.

Byddwn yn dysgu gwersi pwysig o’r hyn sydd wedi digwydd ac yn sicrhau nad yr elfennau negyddol hyn fydd yn ein diffinio.
Mae ein strwythur llywodraethiant newydd eisoes yn ei le ac mae argymhellion Adolygiad Annibynnol y Fonesig Anne Rafferty’n cynnig arweiniad clir i ni ar gyfer y dyfodol – o safbwynt diwylliant a llywodraethiant.

‘Rwyf wrth fy modd gallu cyhoeddi ar y cyd gyda Chwaraeon Cymru ein bod wedi gwahodd y Fonesig Anne i arwain y Grŵp Goruchwilio Allanol – fydd yn asesu ein cynnydd, wrth i ni weithredu holl argymhellion ei Hadroddiad Annibynnol diweddar dros gyfnod o dair blynedd.

Mae presenoldeb a dylanwad y Fonesig Anne yn cynnig gwir hygrededd, dadansoddiad a chysondeb i’r broses wrth i ni barhau i weithredu’r argymhellion yn effeithiol.

‘Rydym wedi gofyn i Chwaraeon Cymru a’r Fonesig Anne i gynorthwyo a chynnig arweiniad yng nghyd-destun y ddau benodiad ychwanegol gan fo’r broses hon mor bwysig i ni fel Undeb. Bydd y corff ymgynghori hwn o dan arweiniad y Fonesig Anne Rafferty yn sicrhau ein bod yn cyrraedd y targedau yr ydym eisoes wedi eu gosod.

Ychwanegiad allweddol arall i’n tîm ni yma yn Undeb Rygbi Cymru – yw ein Prif Weithredwr newydd, Abi Tierney wrth gwrs. Bydd Abi’n dechrau ar ei gwaith yn swyddogol ar yr 8fed o Ionawr.

Abi Tierney

Prif Swyddog Gweithredol newydd URC, Abi Tierney

Mae hi’n ymuno gyda ni o’r Swyddfa Gartref – ble mae hi wedi bod yn gweithredu fel un o’r Uwch Weision Sifil yn San Steffan. Mae ei gwaith a’i dylanwad wedi golygu ei bod yn derbyn CB (Cydymaith Urdd y Baddon) yn rhestr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am ei gwasanaeth i’r goron.

Fe’i henwebywd hefyd yn yr 16fed safle o’r 50 o fenywod mwyaf dylanwadol ym myd chwaraeon gan y Daily Telegraph yr wythnos ddiwethaf.

Estynnwn longyfarchiadau mawr i Abi am yr holl bethau mae hi wedi eu cyflawni yn 2023 a chroesawn hi i Rygbi Cymru yn 2024.

Mae’n bwysig datgan yn glir beth y gallwch ei ddisgwyl gan Undeb Rygbi Cymru yn 2024. Fe amlinellais rai o’r blaenoriaethau hyn yn fy araith yn y Cyfarfod Blynyddol ym mis Tachwedd:

  • Gweithredu egwyddorion ‘Cymru’n Un’ – sy’n golygu bod pob elfen o’r gêm yn cydweithio gyda’n gilydd.
  • Creu strategaeth i gryfhau cefnogaeth yr Undeb i Rygbi Cymru – gan greu mwy o arian i gefnogi’r gêm broffesiynol a chymunedol.
  • Meithrin a hyrwyddo diwylliant cynhwysol.
  • Cwblhau’r gwaith ar strategaeth y merched a’r menywod a’r buddsodiad ariannol angenrheidiol.
  • Buddsoddi yn llesiant ein chwaraewyr.
  • Sicrhau gwelliannau pellach i’n llywodraethiant.

Wrth edrych ar ‘Cymru’n Un’ – fy ngweithred gyntaf fel Cadeirydd oedd penodi Nigel Walker yn Gyfarwyddwr Gweithredol Rygbi. ‘Rwy’n gobeithio bod hyn yn arwydd clir ein bod yn cydnabod bod angen cydweithio ar bob lefel o’r gamp – o lawr gwlad i’r gêm broffesiynol – er mwyn i Rygbi Cymru ffynnu.

‘Rydym yn ymrwymo i gryfhau’r berthynas gyda’r rhanbarthau a’r clybiau cymunedol. Byddwn yn cyhoeddi ein cynllun yn y Gwanwyn ac ‘rydym yn ymroi i’w weithredu hefyd.

Bydd angen cefnogaeth y rhanbarthau yn benodol i weithredu ‘Cymru’n Un’ er mwyn sicrhau bod gennym sylfaen gadarn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Bydd sicrhau hyn yn golygu ein bod yn gallu cynnig cefnogaeth i’r gêm a’r cymunedau sy’n angori’r gamp.

Mae’r cynllun yn glir – mae angen i’n holl dimau cenedlaethol – Menywod, Dynion a’r Timau Datblygu – gystadlu gyda’r goreuon yn y byd. Er mwyn sicrhau y gall hyn ddigwydd, mae angen timau domestig cryf arnom a llwybrau datblygu cadarn sy’n creu cefnogaeth angerddol a chynhwysol.

Un feirniadaeth gyson sydd wedi cael ei lleisio yw’r ffaith nad oes strategaeth benodol ar waith gennym ar hyn o bryd . Dyma yw un o flaenoriaethau y Bwrdd a’r Prif Swyddogion.

Yn hytrach na chreu strategaeth newydd mewn ystafell dywyll heb unrhyw ymgynghori – mae Abi, Nigel a’r Prif Swyddogion wedi ymrywymo i ymgynghori’n sylweddol y tu hwnt i goridorau’r Undeb ac ‘rwy’n gobeithio y caiff nifer ohonoch sy’n darllen y neges hon – y cyfle i gyfrannu at y trafodaethau hynny.

Mae’n rhaid i ni groesawu pawb i’n gêm ac mae’n rhaid i ni gyd ystyried pam nad yw rhai pobl yn dod atom ar hyn o bryd o bosib. Oes croeso cynnes a diogel yn cael ei gynnig gennym – yn enwedig felly i ferched a menywod? Mae angen iddynt dderbyn croeso a thriniaeth gyfartal yn ein clybiau ac ar ein caeau chwarae hefyd. Mae angen i ni gyd osod safonau a byw ein gwerthoedd o ddydd i ddydd. Mae hynny’n cynnwys bod yn ofalus o’r iaith a ddefnyddiwn a’n hymddygiad hefyd. Mae’n allweddol bwysig nad ydym yn colli’r cyfle i ddenu merched o bob cefndir a diwylliant atom. Nid yw unrhyw ymddygiad sy’n atal hyn rhag digwydd yn dderbyniol!

Mae’n rhaid i ni gwblhau ein strategaeth ar gyfer gêm y merched a’r menywod a buddsoddi mwy yn y cynlluniau hynny hefyd.
‘Rydym yn chwilio am dwf a datblygiad pellach ar gyfer camp y menywod. Ar y cae chwarae, ‘rydym wedi gweld gwelliant pendant o dan arweiniad arbennig Ioan Cunningham – ac oddi ar y maes mae gennym gyfle gwych i roi’r cyfle i’r genedl ddangos eu cefnogaeth i’r tîm, wrth iddynt herio’r Eidal yn Stadiwm Principality ym mis Ebrill 2024.

Cafwyd record o dorf y tymor diwethaf wrth i 9,000 ddod i Barc yr Arfau ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr. Y gobaith yw y bydd y record honno’n cael ei chwalu fis Ebrill wrth i bennod newydd yn hanes Rygbi Menywod Cymru gael ei hysgrifennu. Prynwch eich tocynnau nawr!

Mae diogelwch yn elfen allweddol bwysig i ni fel Undeb. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein camp mor ddiogel ag sy’n bosibl – fel y gall rhieni fod yn dawel eu meddwl wrth i’w plant gymryd rhan yn y gêm.

Mae’n rhaid i ni hefyd edrych ar ôl ein chwaraewyr proffesiynol – gan gydnabod mai cyfnod cymharol fyr sydd ganddynt i ennill arian sylweddol wrth chwarae.

O safbwynt llywodraethiant – awgrymodd yr Adolygiad Annibynnol y dylem adael i’r newidiadau wnaed ym mis Mawrth – gael y cyfle i wreiddio a gweithio. Fe wnawn hyn yn 2024 a 2025 cyn i ni gomisiynu Adolygiad Annibynnol pellach i asesu’n cynnydd ac i awgrymu gwelliannau pellach.

‘Rydym i gyd eisiau gweld gwelliant ac mae argymhellion yr Adolygiad Annibynnol yn cynnig arweiniad clir i ni ar gyfer y dyfodol os y gwnawn ni gydweithio gyda’n gilydd.

Undeb o Glybiau Rygbi ydym ni. ‘Rydym yn dibynnu ar y clybiau yn ein trefi a’n pentrefi ac ry’n ni yma i’w gwasanaethu hefyd.
Hoffwn estyn croes i’n Llywydd newydd, Terry Cobner ac ‘rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gydag ef yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Mae’n amlwg i bawb bod rygbi fel teulu yma yng Nghymru. Mae pobl yn teimlo’n hynod angerddol am y gamp ac mae hynny’n gaffaeliad mawr. Nid oes yn rhaid i ni gytuno ar bopeth – ac mae hynny’n naturiol wrth gwrs – ond wrth gyd-dynnu a symud i’r un cyfeiriad gyda’n gilydd, gallwn wneud pethau da.

Mae brand Rygbi Cymru’n hynod o gryf ac mae’r brand hwnnw’n cryfhau wrth i ni gerdded i’r un cyfeiriad.
Yr unig reswm am fodolaeth yr Undeb yw i wasanaethu rygbi yn ein gwlad a buddsoddi’n ariannol yn y gamp ar lawr gwlad ac yn y gêm broffesiynol.

Bydd Merched Cymru yn herio Merched yr Eidal yn Stadiwm Principality ym mis Ebrill

Y flwyddyn nesaf, ‘rydym yn disgwyl gwneud gwelliannau pwysig i Stadiwm Principality a fydd yn sicrhau bod ein stadiwm genedlaethol eiconig yn fwy addas nag erioed i gyflawni Nodau Datblygu Cynaladwy a nodau llesiant Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol.

Yr Alban fydd yn cynnig yr her gyntaf i’r Dynion ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 ac mae disgwyl y bydd pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer y gêm agoriadol hon o fewn y pythefnos nesaf. Ffrainc a’r Eidal fydd y ddau dîm arall fydd yn dod i Stadiwm Principality yn ystod y Bencampwriaeth – ac mae disgwyl torfeydd campus ar gyfer y ddwy ornest honno hefyd.
Bydd hyn yn gyfle da i garfan Warren Gatland ddangos lefel eu datblygiad ers y Chwe Gwlad y llynedd. ‘Roedd eu perfformiadau cadarn yng Nghwpan y Byd yn awgrymu fod gwelliant pellach ar y gorwel.

Mae’r genedl yn barod i dystio a mwynhau’r gwelliant hwnnw.

Cyn hynny – ar Ddydd Calan – bydd y Gweilch yn herio Caerdydd ym Mhen-y-bont, tra bydd y Dreigiau’n croesawu’r Scarlets i Rodney Parade. Cyn y gêm yng Nghasnewydd bydd dau dîm datblygu newydd y menywod – Brython Thunder a Gwalia Lightning – yn herio’i gilydd wrth gystadlu am y tro cyntaf erioed yn yr Her Geltaidd. Gwledd o rygbi ar faes Rodney Parade i bobl y dwyrain felly.

‘Rwy’n dymuno’r gorau i bob un o’n timau – nid yn unig Ddydd Calan – ond wedi hynny hefyd am dymhorau lawer wrth gwrs.
Gallaf ddatgan yn gyhoeddus fy mod yn cymryd diddordeb personol sylweddol yn y cydweithio sy’n digwydd rhwng yr Undeb a’r rhanbarthau– gan bo’r gêm ranbarthol yn un o gonglfeini llwyddiant Rygbi Cymru yn y dyfodol.

Wrth gloi, hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb sy’n ymwneud â Rygbi Cymru. ‘Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd 2024 yn flwyddyn dda i bawb sy’n ymwneud â’n gêm arbennig yma yng Nghymru.
Yn ddiolchgar a diffuant,

Richard Collier-Keywood

Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Neges Blwyddyn Newydd cadeirydd URC
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Neges Blwyddyn Newydd cadeirydd URC
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Neges Blwyddyn Newydd cadeirydd URC
Rhino Rugby
Sportseen
Neges Blwyddyn Newydd cadeirydd URC
Neges Blwyddyn Newydd cadeirydd URC
Neges Blwyddyn Newydd cadeirydd URC
Neges Blwyddyn Newydd cadeirydd URC
Neges Blwyddyn Newydd cadeirydd URC
Neges Blwyddyn Newydd cadeirydd URC
Amber Energy
Opro
Neges Blwyddyn Newydd cadeirydd URC