Cynhaliwyd etholiadau i gadarnhau’r pedwar Aelod fydd yn cynrychioli’r Clybiau a’r Gêm Gymunedol yng Nghymru, fydd yn cymryd eu lle ar y Bwrdd ynghŷd â’r wyth o Aelodau Annibynnol sydd wedi eu penodi’n barod.
Fe gwblhawyd y broses wrth i’r Aelod Cyngor, Claire Donavan gael ei hethol i’r Bwrdd yn ddi-wrthwynebiad. Cadarnhawyd John Manders yn Gadeirydd y Bwrdd Gymunedol a bydd ef, o’r herwydd, hefyd yn aelod o Fwrdd yr Undeb.
Etholwyd Colin Wilks a Chris Jones fel Cynghorwyr Rhanbarthol i gwblhau’r cyfanswm o ddeuddeg Aelod ar y Bwrdd.
Claire Donavan yw’r ail fenyw i gael ei hethol – yn hytrach na chael ei phenodi – i’r Bwrdd. Bu Liza Burgess yn Gyfarwyddwr yn 2019 ac yn Is-gadeirydd yn 2020 – cyn iddi dderbyn gwaith cyflogedig o fewn Adran Datblygu Perfformiad yr Undeb yn 2021.
Enillodd Donavan 75 o gapiau dros Gymru ac fe gafodd ei hethol ar Gyngor yr Undeb yn 2021. Dywedodd:
“Rwy’n edrych ymlaen at fod ar y Bwrdd yn fawr – yn enwedig yn ystod y cyfnod allweddol hwn.
“Mae’n rhaid i ni fod yn ddiolchgar i’r Aelodau sydd wedi camu yn ôl er mwyn galluogi’r newidiadau hyn – fydd yn talu ar eu canfed yn y pendraw.
“ Os ydych chi’n caru rygbi Cymru ac eisiau i’r gêm lwyddo yma – mae’n amser cyffrous i fod yn aelod o’r Bwrdd.
“Mae newidiadau cadarnhaol yn digwydd yn gyflym o fewn y gêm a’n cyfrifoldeb ni yw meithrin y datblygiad hwn er lles ein camp.”
Mae John Manders eisoes yn Gyfarwyddwr gyda’r Undeb – ac mae wedi ei ail-ethol am dymor arall fel Cadeirydd Bwrdd y Gêm Gymunedol – sydd o’r herwydd yn cynnig lle iddo ar Fwrdd yr Undeb. Dywedodd John Manders:
“Mae’n amser cyffrous i’r Undeb – yn enwedig felly gan fo Bwrdd yr Undeb yn cryfhau eu harbenigedd busnes a masnach.
“Fel Aelodau sydd wedi eu hethol – mae ein cyfraniad ni mor bwysig ag erioed – ac mae’r Cadeirydd newydd Richard Collier-Keywood wedi pwysleisio hynny’n gwbl glir.
“Mae cefnogaeth ein Clybiau yn hynod werthfawr wrth i’r Bwrdd gryfhau ei alluoedd a’i sgiliau ymhellach.
Mae Colin Wilks yn gyn Gadeirydd Clwb Rygbi Rhisga ac etholwyd i Gyngor URC ar ran Ardal A. Dywedodd: “Ein cyfrifoldeb a’n gwaith ni fel Aelodau etholedig yw ad-dalu’r ffydd y mae ein Clybiau wedi ei osod ynom fel unigolion. Mae gwasanaethu’r gêm gymunedol yn greiddiol ym mhob datblygiad strategol y byddwn yn ei weithredu.
“Mae cyfansoddiad y Bwrdd newydd wedi fy mhlesio’n fawr ac mae brwdfrydedd amlwg am yr hyn y gall sgiliau ac arbenigedd yr Aelodau ei gyfrannu tuag at wella Rygbi Cymru.”
Chris Jones oedd un o sefydlwyr gwreiddiol Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn ac mae yntau’n edrych ymlaen at barhau gyda’i waith ar y Bwrdd: “Fe roddodd y Clybiau fandad i’r Undeb i foderneiddio ac rydym wedi gwneud hyn.
“Wedi dweud hynny – dyma’r cam cyntaf wrth i ni geisio cryfau ein gêm ymhellach. Bydd yn rhaid i ni gymryd gofal mawr wrth weithredu’n cynlluniau newydd – gan ganiatáu i’r newidiadau hyny fagu gwreiddiau a gwella’r gamp yn y pendraw.
“Efallai y bydd gan rai wahaniaeth barn am ambell beth – ond mae pob Aelod o’r Bwrdd yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif. Mae pawb yn angerddol yn eu bwriad i gryfhau Rygbi Cymru – ac ‘rydym ar y trywydd cywir i lwyddo.”
Bydd y pedwar Aelod Cyngor diweddaraf yn ymuno ag Abi Tierney, fydd yn dechrau ei gwaith fel Prif Weithredwr ym mis Ionawr, Richard Collier-Keywood (Cadeirydd URC), Malcolm Wall (Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol) a’r Cyfarwyddwyr Annibynnol – Alison Thorne, Jennifer Mathias, Jamie Roberts, Amanda Bennett ac Andrew Williams.
Penodwyd Richard Collier Keywood, yn Gadeirydd Annibynnol cyntaf Undeb Rygbi Cymru ym mis Gorffennaf – ac mae ef wrth ei fodd gyda chyfansoddiad Aelodau Bwrdd 2024. Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd croesawu Claire, John, Colin a Chris i’r Bwrdd.
“Mae gennym gydbwysedd gwych ac arbenigol ar y Bwrdd bellach sy’n cynrychioli pob agwedd o Rygbi Cymru, ein cymunedau a’n partneriaid sydd mor barod eu cefnogaeth.
“Rydym yn falch iawn ein bod wedi gwireddu ein haddewid i sicrhau bod 40% o Aelodau’r Bwrdd yn fenywod. ‘Rwy’n hyderus iawn y bydd y Bwrdd newydd yn gweithredu’r safonau uchaf posib.
“Rydym wedi gweithio’n ddi-flino i greu Bwrdd amrywiol ac egnïol sy’n cynnwys gwir arbenigedd mewn amrywiol feysydd – fel y gallwn arwain Rygbi Cymru at ddyfodol gwell.
“Mae gennym bellach yr amrywiaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn sicrhau ein lle ymhlith goreuon y byd yng nghamp y dynion a’r menywod. ‘Rydym i gyd yn awchu i gynorthwyo pob lefel o’r gamp i dyfu a chryfhau – o’r gêm ar lawr gwlad i’r llwyfan rhyngwladol.”