Neidio i'r prif gynnwys
Celtic Challenge

Dau dîm newydd i gynrychioli cymru yn yr her Celtaidd

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi y bydd dau dîm newydd yn cynrychioli Cymru yn yr Her Geltaidd y tymor hwn.

Rhannu:

Enwau’r ddau dîm newydd o Gymru fydd Gwalia Lightning a Brython Thunder.

Mae enwau’r ddau dîm Cymreig – sy’n eiddo i Undeb Rygbi Cymru – wedi’u hysbrydoli gan Brython – sef pobl fu’n siarad un o’r ieithoedd Brythoneg gwreiddiol –  a Gwalia, sy’n enw arall a chyfarwydd am Gymru. Dewiswyd y ddau enw yn dilyn trafodaethau gyda chwaraewyr presennol.

Bydd y ddau dîm yn chwarae eu gemau cyntaf yn y gystadleuaeth ym mis Ionawr 2024.

Bydd Brython Thunder yn gwisgo coch a du a bydd eu canolfan ymarfer ym Mharc y Scarlets. Byddant yn chwarae eu gemau cartref yn Llanelli ac hefyd yn Stadiwm CSM ym Mae Colwyn.

Bydd Gwalia Lightning yn gwisgo glas a melyn a byddant wedi eu lleoli ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Parc yr Arfau fydd yn cynnal eu gemau cartref nhw.

Bydd yr Her Geltaidd estynedig newydd yn cynnwys dau dîm o Iwerddon, Yr Alban a Chymru ac mae wedi’i drefnu a’i gynllunio i bontio’r bwlch rhwng rygbi clwb a rygbi rhyngwladol.

Y chwe thîm fydd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth y tymor hwn fydd; Rygbi Caeredin, Glasgow Warriors, Wolfhounds, Clovers, Brython Thunder a Gwalia Lightning.

Bydd y gystadleuaeth yn mabwysiadu fformat newydd a fydd yn cynnwys pum rownd, cyn i dair rownd ail-gyfle benderfynu pwy fydd pencampwyr yr Her Geltaidd y tymor hwn ym mis Mawrth.

Bydd Rownd 1 yn gweld y timau o’r un gwledydd yn herio ei gilydd.

Bydd y gemau ail gyfle yn cynnwys tair rownd, gyda’r ddwy gêm ym mhob un o’r rowndiau hynny yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod ac yn yr un lleoliad gan Undeb benodol . Bydd y gemau hynny yn cael eu trefnu wedi i’r pum gêm gynghrair gyntaf gael eu chwarae gan yr holl dimau. Bydd hynny’n sicrhau gemau cystadleuol ddiwedd y tymor fydd yn arwain at goroni’r Pencampwyr.

Dywedodd John Alder, Pennaeth Datblygu Chwaraewyr Undeb Rygbi Cymru: “Mae sefydlu’r ddau dîm hyn yn yr Her Geltaidd ar ei newydd wedd yn cadarnhau ymrwymiad Undeb Rygbi Cymru i rygbi menywod yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn ein galluogi i gystadlu yn erbyn timau o Iwerddon a’r Alban mewn cystadleuaeth arloesol fydd yn help mawr i ddatblygu rygbi menywod yn y tair gwlad.

“Mae’r enwau a’r gwaith celf sydd ynghlwm â Gwalia Lightning a Brython Thunder wedi eu dewis a’u creu o ganlyniad i’r cysylltiadau hanesyddol cryf sy’n perthyn iddynt gan ychwanegu teimlas ac ymdeimlad cyfoes iddyn nhw. Y gobaith yw y bydd yr agwedd newydd a byrlymus sy’n perthyn i’r timau yn ysbrydoli merched i ddychmygu eu hunain eu cynrychioli ar y cae rhyw ddydd.

“Bydd y timau yn teithio cryn dipyn gan chwarae ledled y wlad yn y Gogledd, De, Dwyrain a Gorllewin. Gwnaed y penderfyniad hwn i gydnabod y galw cynyddol i wylio a chwarae rygbi merched yng Nghymru.

“Mae’r ddau dîm newydd yn cael eu cefnogi gan URC wrth i ni groesawu’r cyfleoedd cyffrous sydd nawr ar gael i rygbi menywod ledled y byd. ‘Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld y ddau dîm hyn yn datblygu – a hefyd gweld y gystadleuaeth hon yn datblygu a chryfhau hefyd – fydd yn elwa rygbi yng Nghymru ar y lefel rhyngwladol.

Mae’r tîm cenedlaethol yn 6ed ymhlith detholion y byd ar ôl eu perfformiadau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ond rydym yn gwybod yn iawn bod angen cynnig a chryfhau’r llwybr datblygu i chwaraewyr addawol, fel y gallant wireddu eu potensial. Mae’r Undeb hefyd wedi gweithio’n galed i sicrhau bod datblygiad y chwaraewyr yn cael ei gefnogi gan dimau hyfforddi talentog ac ymroddedig a thrwy sicrhau bod gemau safonol ac addas yn cael eu darparu ar eu cyfer.

Mae angen cynyddu nifer y chwaraewyr sydd ar gael yng Nghymru a chodi’r safon yn gyffredinol hefyd er mwyn cefnogi Cymru ar y lefel rhyngwladol. Mae cynyddu’r ymrwymiad i’r Her Geltaidd yn siwr o’n helpu i wireddu hynny.

“Bu’r arbrawf o gynnal yr Her Geltaidd gyntaf ddechrau’r flwyddyn yn werthfawr iawn yn natblygaid chwaraewyr rhyngwladol addawol fel Abbie Fleming a Lisa Neumann wrth iddynt baratoi ar gyfer y Chwe Gwlad.

“Fe gawson nhw’r cyfle i berfformio ar y maes chwarae – ac i gael eu hysyried ar gyfer cytundebau proffesiynol. Digwyddodd hynny yn fuan wedyn.

“Rydym yn gobeithio dod o hyd i dalent newydd eto eleni a chynnig y cyfle i rai o’n chwaraewyr rhyngwladol presennol ymarfer eu crefft hefyd.”

Daeth dros 70 o chwaraewyr o Gymru ac o’r tu hwnt i Glawdd Offa i fynychu treial dros gyfnod o ddeuddydd yng Nghanolfan Ragoriaeth URC dros y penwythnos – er mwyn codi eu llaw ar gyfer cael eu hystyried i chwarae yn yr Her Geltaidd y tymor hwn.

Mae’r datblygiad cyffrous hwn o safbwynt yr Her Geltaidd a’r buddsoddiad ychwanegol yn y ddau dîm hyfforddi a’r ddwy garfan newydd – yn dilyn sefydlu tair Canolfan Datblygu Chwaraewyr yn ddiweddar i ddatblygu camp y merched a’r menywod. Mae’r tair canolfan wedi eu lleoli ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Rygbi Gogledd Cymru.

Hoffai Undeb Rygbi Cymru ddiolch i’r Scarlets a Phrifysgol Met Caerdydd am eu cefnogaeth i Gwalia Lightning a Brython Thunder. Bydd y timau wedi eu lleoli ym Met Caerdydd ac ym Mharc y Scarlets.

Bydd y prif hyfforddwyr a’r timau rheoli ar gyfer Gwalia Lightning a Brython Thunder a’r 30 o chwaraewyr fydd wedi cael eu dewis i gynrychioli’r ddwy garfan, yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Dau dîm newydd i gynrychioli cymru yn yr her Celtaidd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Dau dîm newydd i gynrychioli cymru yn yr her Celtaidd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Dau dîm newydd i gynrychioli cymru yn yr her Celtaidd
Rhino Rugby
Sportseen
Dau dîm newydd i gynrychioli cymru yn yr her Celtaidd
Dau dîm newydd i gynrychioli cymru yn yr her Celtaidd
Dau dîm newydd i gynrychioli cymru yn yr her Celtaidd
Dau dîm newydd i gynrychioli cymru yn yr her Celtaidd
Dau dîm newydd i gynrychioli cymru yn yr her Celtaidd
Dau dîm newydd i gynrychioli cymru yn yr her Celtaidd
Amber Energy
Opro
Dau dîm newydd i gynrychioli cymru yn yr her Celtaidd