Neidio i'r prif gynnwys
Guinness i noddi Chwe Gwlad y dynion a’r menywod

Guinness i noddi Chwe Gwlad y dynion a’r menywod

Mae Rygbi’r Chwe Gwlad a Guinness wedi cytuno ar bartneriaeth hirdymor newydd.

Rhannu:

Bydd Guinness yn cael eu henwi fel Prif Bartner Chwe Gwlad y Menywod yn 2024, ac maen nhw hefyd yn ymestyn eu statws fel Prif Bartner Pencampwriaeth y Dynion o 2025 ymlaen..

Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Guinness wedi cyhoeddi partneriaeth hirdymor newydd a fydd yn enwi cystadleuaeth y menywod yn ‘Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod yn 2024 ac maen nhw hefyd yn ymestyn eu statws fel Prif Bartner Pencampwriaeth y Dynion o 2025 ymlaen.

Mae ehangu’r bartneriaeth yn adlewyrchu uchelgais y ddau sefydliad i sicrhau twf pellach yn y ddwy Becampwriaeth eiconig ac uchel eu parch yma – gan ehangu eu hapêl ledled y byd.

Guinness oedd partner cyntaf Chwe Gwlad y Menywod yn 2019, ar yr un pryd ag y dechreuodd eu partneriaeth swyddogol gyda Phencampwriaeth y Dynion. Mae’r cytundeb newydd hwn gyda’r ddwy Bencampwriaeth, yn cadarnhau’r brand fel un o gefnogwyr mwyaf y byd rygbi menywod.

Mae Prif Bartneriaeth Guinness gyda Chwe Gwlad y Menywod yn brawf o ymrwymiad y cwmni i greu cymdeithas well trwy amrywiaeth a chynhwysiant. Mae hyn yn rhan allwedool o agenda a strategaeth Diageo – rhiant-gwmni Guinness – Ceisio Cynnydd Cymdeithas 2030.

Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness yw’r gystadleuaeth rygbi ryngwladol flynyddol orau sydd, ac mae apêl y Bencampwriaeth yn parhau i dyfu, gyda chwaraewyr a chefnogwyr yn creu ac yn mwynhau yr adloniant ysgubol y mae’n ei gynnig.

Wrth sôn am y bartneriaeth newydd gyda Guinness, dywedodd Tom Harrison, Prif Weithredwr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: “Mae Guinness a’r Chwe Gwlad wedi dod yn bartneriaid cryf ac agos dros y blynyddoedd. Mae pawb sy’n ymwneud â’r bartneriaeth hon – gan gynnwys ein hundebau, yn wirioneddol gyffrous i barhau i gydweithio gyda’n gilydd am flynyddoedd lawer eto.

“Mae hon yn eiliad hynod bwysig i’r byd rygbi. Mae’r potensial i dyfu’r gamp ac ehangu apêl y gêm ymhellach yn enfawr – a bydd hyn yn siwr o helpu i sicrhau ei dyfodol.

“Mae gêm y menywod yn tyfu’n aruthrol o gyflym – a thrwy’r bartneriaeth hon, bydd Guinness yn helpu i gyflymu hyn ymhellach.”

Ychwanegodd Stephen O’Kelly, Cyfarwyddwr Brand Byd-eang Diageo ar ran Guinness: “Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i rygbi a’r gwerthoedd y mae’r gamp yn eu cynrychioli i greu gêm gynhwysol i bawb. Dyna pam rydyn ni’n falch y bydd Guinness yn dod yn Brif Bartner Chwe Gwlad y Menywod yn 2024, ac hefyd yn ymestyn ein Partneriaeth gyda Phencampwriaeth y Dynion.

“Bydd y bartneriaeth newydd hon yn helpu i gefnogi doniau y menywod ar y maes a’r gobaith hefyd yw y bydd ein cefnogaeth yn arwain at fwy o chwarae teg rhwng gêm y dynion a’r merched. Ein nod yw gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siwr bod rygbi yn lle mae pawb yn perthyn – ac yn gamp sy’n gweld pawb yn uno gyda’n gilydd mewn chwaraeon a bywyd.

“Mae hwn yn gyfnod newydd a chyffous i ni fel Guinness.

“Gadewch i ni godi gwydriad o Guinness i ddyfodol y Pencampwriaethau hyn, ac i’r cyffro ddaw yn sgîl hynny i’r holl gefnogwyr.”

Bydd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Dynion 2024 yn dechrau ar Chwefror 2ail tra bydd Chwe Gwlad Guinness y Menywod yn dechrau ar y 23ain o Fawrth 2024.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Guinness i noddi Chwe Gwlad y dynion a’r menywod
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Guinness i noddi Chwe Gwlad y dynion a’r menywod
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Guinness i noddi Chwe Gwlad y dynion a’r menywod
Rhino Rugby
Sportseen
Guinness i noddi Chwe Gwlad y dynion a’r menywod
Guinness i noddi Chwe Gwlad y dynion a’r menywod
Guinness i noddi Chwe Gwlad y dynion a’r menywod
Guinness i noddi Chwe Gwlad y dynion a’r menywod
Guinness i noddi Chwe Gwlad y dynion a’r menywod
Guinness i noddi Chwe Gwlad y dynion a’r menywod
Amber Energy
Opro
Guinness i noddi Chwe Gwlad y dynion a’r menywod