Chwaraeodd y pedair gêm brawf ar daith y Llewod ym 1966 ac ymddangosodd ddeg gwaith dros y Barbariaid.
Cafodd Brian Price ei fagu yn y Deri ger Bargôd ac fe chwaraeodd 252 o weithiau dros glwb Casnewydd. Ef oedd capten y clwb pan gurwyd y Crysau Duon yn Rodney Parade ym 1963.
Pan ymddeolodd o’r gamp ym 1969 – dim ond pedwar o chwaraewyr eraill oedd wedi cynrychioli Cymru’n amlach nag ef.
CAPIAU CYMRU 1969
Ken Jones 44, Dicky Owen 35, Dewi Bebb 34, Billy Bancroft 33, Brian Price 32, Rees Stephens 32
Dysgodd Price ei grefft yn Ysgol Ramadeg y Bargôd a Choleg San Luke, Caerwysg. Cynrychiolodd Cross Keys am gyfnod byr – felly hefyd dîm y Llu Awyr yn ystod ei Wasanaeth Cenedlaethol. Chwaraeoedd ei gêm gyntaf dros Gasnewydd ym mis Ebrill 1960 – ond Caerlŷr fu’n fuddugol yn yr ornest honno.
Bron union naw mlynedd wedi’r gêm yna – cynrychiolodd Gasnewydd am y tro diwethaf yn erbyn y Cymry yn Llundain. Enillwyd yr ornest, olygodd bod Casnewydd wedi ennill 38/45 o’u gemau yn ystod y tymor gan hawlio Pencampwriaeth Answyddogol y Western Mail yn y broses.
‘Roedd y clwb wedi ennill y Bencampwraieth honno yn ystod tymor 1964/65 hefyd – ond flwyddyn cyn hynny y profodd Price ei awr fawr yng nghrys Casnewydd pan gurwyd Crysau Duon Wilson Whinneray o 3-0 . Cefnder Brian Price, Dick Uzzell hawliodd y gôl adlam allweddol y diwrnod hwnnw – gan sicrhau lle haeddiannol i’r tîm yn chwedloniaeth y clwb a chwedloniaeth rygbi Cymru.
Dywedodd Brian Price wrth y South Wales Argus yn 2013: “Mae’n anodd dewis fy hoff uchafbwynt o fy nghyrfa.’Roedd cael fy newis i’r Barbariaid ym 1961, cyn i mi chwarae dros Gymru’n fraint enfawr – yn enwedig gan i ni guro’r Springboks. Honno oedd eu gêm olaf ar y daith – a doedden nhw heb golli tan i ni eu curo ac felly ‘roedd hynny’n arbennig. Felly hefyd ennill fy nghap cyntaf dros Gymru a chael y fraint yn ddiweddarach o arwain fy ngwlad.
“Does dim amheuaeth beth oedd yr uchafbwynt yng nghrys Casnewydd – sef curo’r Crysau Duon o flaen torf o dros 25,000 ar Rodney Parade.
“Fe gawson ni’r triphwynt yn gynnar – ond doeddwn i ddim yn meddwl am eiliad mai dyna fyddai unig sgôr y gêm. Fe chwaraeoedd ein blaenwyr ni’n arbennig o dda y diwrnod hwnnw – er nad oeddem yn llwyr reoli ar unrhyw adeg.
“Efallai bod ein tactegau ychydig yn negyddol – ond ein bwriad oedd atal eu momentwm nhw a sicrhau nad oedd Clarke yn cael unrhyw gyfle i gicio at y pyst.
“Er ei bod hi’n glawio’n drwm pan aeth y chwiban olaf, ‘roedd y cefnogwyr yn canu a gweiddi wrth ddathlu.
“Daeth Wilson Whinneray i mewn i’n hystafell newid i’n llongyfarch ar ein perfformiad a’r canlyniad. Dywedodd hefyd ei fod yn gobeithio y byddai’r pymtheg ohonom yn cael ein dewis i Gymru – fel y byddai’n gallu talu’r pwyth yn ôl i ni.”
Profodd Price a Chasnewydd golled o 3-0 yn erbyn tîm De Affrica oedd o dan arweiniad Avril Malan ddwy flynedd ynghynt ac ym 1966 3-3 oedd hi rhwng Casnewydd ac Awstralia.
Yn dilyn y gêm honno yn erbyn y Springboks, cafodd Price ei ddewis gan y Barbariaid i’w herio ar gêm olaf eu taith. Perfformiodd Brian Price yn gampus yn y fuddugoliaeth honno ac o’r herwydd cafodd ei ddewis gwta fis yn ddiweddarach i wynebu Iwerddon ac ennill ei gap cyntaf dros ei wlad.
Fe wynebodd Seland Newydd wyth o weithiau yn ystod ei yrfa. Er iddo brofi’r fuddugoliaeth enwog honno gyda Chasnewydd (30/10/63) – fe fethodd eu curo eto ar y daith honno – er iddo eu herio gyda Chymru a’r Barbariaid.
Fe wynebodd y Crysau Duon ddwywaith gyda’r Llewod ym 1966, a bu’n rhan o dîm Mynwy flwyddyn yn ddiweddarach hefyd.
Price oedd capten Cymru yn y ddwy gêm brawf yn erbyn Seland Newydd ym 1969.
Fe heriodd Awstralia yn helaeth hefyd. Bum gwaith yn ystod cyfnod o flwyddyn! Enillodd ddau o’r profion yn Awstralia ym 1966 cyn eu herio yng nghrysau Casnewydd (3-3) a’r ddwy golled gyda Chymru a’r Barbariaid.
Teithiodd i Dde Affrica ar gyfer y daith gyntaf o’r math hwnnw gyda Chymru ym 1964 ond bu ond y dim iddo fe, Clive Rowlands ac Alun Pask beidio â mynd gan i Gyngor Sir Fynwy wrthod talu cyflogau’r tri athro yn ystod cyfnod y daith.
Wedi iddo gwblhau ei gymwysterau dysgu yn Athrofa Caerdydd, gweithiodd yn Nhredegar i ddechrau cyn symud i Ysgol Cil-y-coed ble bu’n athro Addysg Gorfforol am flynyddoedd lawer.
Fe roddodd yr Awdurdod Addysg lleol ganiatad iddo ganolbwyntio ar arwain ei wlad i Awstralia a Seland Newydd wedi i Gymru ennill y Goron Driphlyg a Phencampwriaeth y Pum Gwlad.
Erbyn diwedd ei yrfa – fe lwyddodd i ennill 50% o’r gemau gyda Chymru a’r Llewod. Rhannwyd y Bencampwriaeth gyda’r Alban ym 1964, cyn ennill y gystadleuaeth ym 1965 a 1966 – a Price arweiniodd ei wlad at y Bencampwriaeth ym 1969.
Hawliwyd y Goron Driphlyg yn ’65 a ’69 ond methiant fu’r ymgais i ennill y Gamp Lawn gyntaf ers 17 o flynyddoedd ym 1969 gan i Gymru gael gêm gyfartal 8-8 yn y Stade Colombes.
Y tîm o dan arweiniad Brian Price osododd y sylfeini ar gyfer llwyddiannau’r 70au. Yn ystod y gêm yn erbyn Iwerddon ym 1969 bu ond y dim i Price gael ei ddanfon o’r maes am daflu dwrn at Noel Murphy. Er bod mwyafrif y dorf yn credu y byddai Price yn cael cawod gynnar, rhybudd gafodd ef gan y dyfarnwr Doug McMahon. Nid Price felly oedd y Cymro cyntaf i gael ei hel o’r cae mewn gêm ryngwladol.
‘Roedd Iwerddon yn ceisio cipio’r Gamp Lawn y diwrnod hwnnw – ond ‘roedd tactegau Hyfforddwr Cymru, Clive Rowlands, i dargedu Murphy wedi gweithio i’r dim.
Cymru enillodd y Bencampriaeth ym 1969 a chipiwyd y Goron Driphlyg wrth guro Lloegr o 30-9 yng Nghaerdydd. Y crysau cochion felly oedd Pencampwyr Hemisffer y Gogledd wrth iddynt deithio i Awstralia, Seand Newydd a Ffiji wedi hynny. O dan arweiniad Brian Price chwaraewyd pum gêm yn Seland Newydd, Prawf yn Awstralia a gêm heb gapiau yn Ffiji.
Er i Price sgorio ei unig gais dros ei wlad mewn gêm gyfartal 9-9 yn Taranaki, colli fu eu hanes yn y ddwy gêm brawf yn Seland Newydd o 19-0 a 33-12. Serch hynny enillwyd y gemau yn Otago a Wellington a’r gornestau yn erbyn Awstralia (19-16) a Ffiji (31-11).
Daeth ei yrfa i ben dros dro yn dilyn y daith honno o ganlyniad i anaf i’w ben-glin – ond chwythodd y llwch oddi ar ei esgidiau ym 1971 pan dderbyniodd gynnig i chwarae dros Vichy yn Ne Ffrainc.
Barodd y cyfnod hwnnw ddim yn hir gan i Undeb Rygbi Cymru sylweddoli bod Price wedi cael ei dalu am ysgrifennu colofn mewn papur newydd a gwneud rhywfaint o waith darlledu. O’r herwydd fe benderfynodd yr awdurdodau yn Ffrainc nad oedd yn gymwys i gael ei ystyried yn amatur – ac felly ni chafodd chwarae wedi hynny.
“Rydw i’n dal i deimlo’n chwerw a phe byddwn wedi darogan beth oedd am ddigwydd – fydden i ddim wedi derbyn y cynnig gan y papur newydd.”
Ddwy flynedd wedi hynny – cafodd ei ymgais i hyfforddi Casnewydd ei wrthod am yr un rhesymau ac felly aeth ymlaen i ysgrifennu i’r Wales on Sunday a darlledodd yn aml ac yn awdurdodol ar ddarllediadau rygbi BBC Cymru.
Serch hynny – cafodd ei dderbyn yn Oriel Anfarwolion Casnewydd yn 2013 ac yn Noddwr Anrhydeddus Ymddiriedolaeth Cyfeillion Rygbi’r clwb yn 2014.
Brian Price hefyd, olynodd Ken Jones fel Llywydd Cymdeithas Cyn Chwaraewyr Casnewydd yn 2006.
‘Roedd Price yn chwaraewr 7 Bob Ochr nodedig a bu’n rhan o dîm Casnewydd enillodd y ‘Snelling Sevens’ bum gwaith – 1961, 62, 63, 65, 67.
Hoffai Undeb Rygbi Cymru estyn pob cydymdeimlad i deulu a ffrindiau Brian Price yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Brian Price – Cap Rhif: 662 (32 cap); Llewod: 19 o gemau / 4 Prawf). Ganed: 30.10.1937 yn Deri, ger Y Bargôd; Bu farw: 18.12.2023 yng Nghil-y-coed. Athro Ysgol a Darlledwr o fri.